Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu hen gapel yn Hermon, Sir Benfro, i fod yn ganolfan dreftadaeth, caffi, a fflatiau fforddiadwy, diolch i ymdrechion pobl leol a grant Project Perthyn gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu hen gapel yn Hermon, Sir Benfro, i fod yn ganolfan dreftadaeth, caffi, a fflatiau fforddiadwy, diolch i ymdrechion pobl leol a grant Project Perthyn gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gymuned ar fin prynu adeilad yr hen gapel ac mae CarTrefUn wedi dechrau ar y prosiect o ddatblygu’r safle er budd y gymuned.

Gyda chymorth ariannol o £21,000 gan Lywodraeth Cymru, mae CarTrefUn wedi gallu penodi swyddogion prosiect, creu cynlluniau pensaernïol ac archwiliadau safle er mwyn datblygu’r ganolfan newydd.

Dyfarnwyd y cyllid drwy gynllun Grantiau Bach Prosiect Perthyn. Nod y grant yw helpu i greu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy o dan arweiniad y gymuned gan gefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi. Mae dros 20 o grwpiau eisoes wedi elwa o’r cynllun.

Dywedodd y cydlynydd Prosiect Perthyn, Cris Tomos:

“Mae hi mor bwysig bod cymunedau lleol yn cael y cyfle i gadw a defnyddio asedau lleol ar gyfer mentrau lleol fel cynllun yr hen gapel yn Hermon ac i sicrhau bod yr asedau cymunedol yma i aros i genedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Pan fydd capel yn cau, mae’n aml yn golygu bod canolfan gymunedol bwysig yn cael ei cholli. Mae’n braf gallu cefnogi’r fenter gyffrous hon a sicrhau y bydd cyfleoedd i bobl fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg. Mae creu tai fforddiadwy yn gwneud gwahaniaeth mawr i gynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg.”