Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau dau gynllun cyllido i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith fferm, a fydd yn helpu i ymdopi yn well ag effaith bosibl newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r pecyn o fesurau yn rhan o'r ymrwymiad o dan Gytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru, i weithio gyda'r gymuned ffermio wrth ddefnyddio'r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer.

Mae £20m wedi'i ymrwymo ar gyfer dau gynllun i gefnogi ffermwyr i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Bydd y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion a'r cynllun Grantiau Bach – Gorchuddion Iardiau, yn agor yn fuan.

Mae'r ddau gynllun wedi'u cynllunio i alluogi ffermwyr i fynd i'r afael â rheoli a storio maetholion trwy ddarparu cymorth ar gyfer capasiti storio slyri ychwanegol a/neu atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i storfeydd slyri i leihau gofynion y capasiti storio.

Mae'r gefnogaeth wedi cynyddu i ddarparu uchafswm o 50% o gyfraniad tuag at gostau penodol y prosiect.  Bydd canllawiau manwl ar gael yn fuan gyda'r ddau gynllun ar agor erbyn yr haf.

Meddai y Gweinidog dros Faterion Gwledig: 

Mewn ymateb i'r cyfnod hir o dywydd gwlyb, yn ddiweddar fe wnes i gadeirio 'Uwchgynhadledd Tywydd Eithafol' gyda phartneriaid amaethyddol allweddol i drafod ei effaith ar ffermwyr a thyfwyr.  Mae'r effaith y mae'r tywydd gwlyb wedi'i chael yn dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn gwytnwch ac yn ystod yr Uwchgynhadledd clywais am broblemau sylweddol mewn perthynas â gallu storio slyri.

Er bod y tywydd wedi gwella ychydig yn ddiweddar, bydd yr oedi cyn gallu gweithio'r tir a chostau cynyddol yn ystod misoedd estynedig y gaeaf yn cael effeithiau tymor byr, canolig a hir.

Rwy'n falch o gyhoeddi'r cynlluniau hyn, a fydd yn helpu ffermwyr i adeiladu gwytnwch i dywydd eithafol. Bydd yr arian hefyd yn cefnogi ffermwyr i gydymffurfio â'n Rheoliadau Llygredd Amaethyddol a fydd yn helpu i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd a'u llednentydd.

Byddwn yn annog ymgeiswyr i ystyried buddsoddiadau posibl cyn agor ffenestri cais a lle bo'n briodol, ymgysylltu ag awdurdodau cynllunio lleol. Dylid cyflwyno ceisiadau cynllunio a SDCau cyn gynted â phosibl; Nid yw gwneud y gwaith hwn cyn cyfnod ymgeisio yn effeithio ar eich cymhwysedd i wneud cais."

Yn y tymor byr, rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith ar deuluoedd ffermio ac rwy'n glir bod angen i mi wynebu'r mater hwn drwy gyfathrebu a dull pragmatig.  Mae iechyd meddwl y rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant amaethyddol yn peri pryder mawr i mi ac rwy'n annog unrhyw un sy'n dioddef o straen neu broblemau iechyd meddwl eraill i ofyn am help.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn chwarae ei rhan; os bydd ffermwyr yn cael unrhyw anawsterau o ran bodloni gofynion eu contractau, o ganlyniad i'r cyfnod hir hwn o dywydd gwlyb, dylent gysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru cyn gynted â phosibl i drafod eu hopsiynau neu i ofyn am randdirymiad. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol.

Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol. Rhaid i ni weithredu heddiw i addasu a lliniaru hyn - gan gymryd camau i adeiladu gwytnwch i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.

Bydd rhagor o fanylion am y cynlluniau ar gael yn Grantiau a thaliadau gwledig.