Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwerth £11.2 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi awdurdodau lleol a'u helpu i adfer ar ôl y stormydd dinistriol sydd wedi taro cymunedau ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd £10.2 miliwn yn cael ei ddyrannu yn 2026 i 2027 i gynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy i gefnogi eu gwaith adfer ar ôl llifogydd ym mis Tachwedd 2025.

Bydd bron i £1 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu eleni i Gyngor Merthyr Tudful er mwyn talu costau parhaus adfer y llyncdwll a achoswyd gan Storm Bert.

Mae'r cyhoeddiad yn adeiladu ar y £2.5 miliwn sydd eisoes ar gael i gymunedau yr effeithir arnynt yn Sir Fynwy yn dilyn Storm Claudia ym mis Tachwedd 2025.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

Fe wnaeth stormydd diwedd 2025 achosi caledi gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, ac rwy'n benderfynol o sicrhau na ddylai unrhyw gyngor orfod talu'r costau hynny heb unrhyw gymorth.

Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn adeiladu ar y gefnogaeth yr ydym eisoes wedi'i darparu ac yn tystio i ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i helpu cynghorau i gynorthwyo eu cymunedau i ailadeiladu ar ôl y digwyddiadau dinistriol hyn.

Rwyf am i drigolion Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy a Merthyr Tudful wybod bod Llywodraeth Cymru yn barod i'w cynorthwyo wrth iddyn nhw barhau i adfer ac ailadeiladu.