Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gavin Watkins, Prif Swyddog Milfeddygol Dros Dro Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 mewn dofednod ar safle ar Ynys Môn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma’r achos cyntaf o ffliw adar sydd wedi ei gadarnhau yng Nghymru ers 1 Hydref 2022.

Mae Parth Gwarchod 3 cilomedr a Pharth Goruchwylio 10 cilomedr wedi'u datgan o amgylch yr adeilad heintiedig, i gyfyngu ar y risg o ledaenu’r clefyd.

O fewn y parthau hyn, cyfyngir ar symudiadau adar ac adar yn ymgynnull ac mae’n rhaid datgan pob daliadaeth sy'n cadw adar. Mae'r mesurau'n llymach yn y Parth Gwarchod 3km. Mae gwybodaeth lawn ar gael.

Mae'n hanfodol bod ceidwaid adar yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf un o fioddiogelwch yn eu lle.

Mae asiantaethau iechyd y DU yn cynghori bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn ac yn ôl asiantaethau safonau bwyd y DU, mae ffliw'r adar yn peri risg isel iawn i ddefnyddwyr y DU o ran diogelwch bwyd.

Mae map rhyngweithiol o barthau rheoli clefydau ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws Prydain i'w weld yma.

Dyma gyfrifoldebau pobl sy'n cadw adar:

  • dylai pob ceidwad adar sy'n cael eu cadw fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd fel mwy o farwolaethau, gofid resbiradol a gostyngiad o ran y bwyd neu ddŵr sy'n cael ei fwyta neu ei yfed, neu leihad yn nifer yr wyau a gaiff eu dodwy
  • ymgynghorwch â'ch milfeddyg yn y lle cyntaf os yw eich adar yn sâl
  • os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, roi gwybod am hyn i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad clefyd gan filfeddygon APHA

Rhaid i chi ddefnyddio mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, porthiant neu wely adar a allai fod wedi'u llygru gan adar gwyllt rhag dod i'ch safle. Mae manylion llawn a rhestr wirio ar gael.