Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae ffurflen Cadarnhau Data SFS 2024 ar gael ar RPW Ar-lein tan 6 Rhagfyr 2024. Rydym yn eich annog i fwrw golwg ar eich ffurflen cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn sicrhau y gallwch edrych yn fanwl ar y tir sy'n gynefin ac o dan orchudd canopi coed ar eich fferm.

Cynllun Cynefin Cymru 2025

Mae'n bwysig eich bod yn cadarnhau'r holl dir sy'n gynefin ar eich fferm wrth ichi lenwi ffurflen Cadarnhau Data SFS 2024. Nid yw cadarnhau cynefin ar hyn o bryd yn ymrwymiad i'w reoli fel cynefin. Gallwch benderfynu a ydych am hawlio a rheoli'r cynefin yn unol â'r gofynion rheoli cynefinoedd wrth ymuno â Chynllun Cynefin Cymru 2025. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o arweiniad ar y cynllun yn ddiweddarach eleni. 

Pwysig: Os ydych yn bwriadu gwneud cais o dan Gynllun Cynefin Cymru 2025, dyma'ch unig gyfle i adolygu a chadarnhau'r tir sy'n gynefin a'r categorïau o gynefin ar eich fferm cyn i'r cynllun ddechrau ar 1 Ionawr 2025. Ni fyddwch yn gallu newid manylion y cynefinoedd mewn parsel wrth hawlio'r cynllun ar Ffurflen Gais Sengl (SAF) 2025.

Pwyntiau pwysig i'w hystyried wrth lenwi ffurflen Cadarnhau Data SFS 2024

Ychwanegu neu gynnwys cynefin sy'n gorgyffwrdd â chanopi 'grwpiau' o goed

Os oes gennych ganopi  'grŵp' o goed sydd ag arwynebedd o fwy na 0.1hectar o orchudd di-dor, ni ddylech ychwanegu na chynnwys cynefin sy'n gorgyffwrdd â’r canopi hwnnw. Mae'r darnau hyn o ganopi coed yn cael eu hystyried yn goetir, felly ni dderbynnir unrhyw gynefin sy'n gorgyffwrdd â nhw.

Cynefin a chanopi 'grŵp' o goed ar ffin parsel

Os ydych yn ychwanegu neu'n newid cynefin neu ganopi 'grŵp' o goed sy'n estyn at ffin parsel, nid oes angen i chi dynnu ei amlinell ar hyd llinell y ffin. Gallwch dynnu'r amlinell dros y ffin i'r parsel cyffiniol ac ar ôl gwneud, bydd yr amlinell a dynnwyd yn 'snapio'n ôl' yn awtomatig i ffin y parsel sy'n cael ei ddiweddaru. Bydd hyn yn mapio'r cynefin a chanopi y ‘grŵp' o goed yn gywir at ffin y parsel. 

Cynnwys cynefin 'posibl'

Gallwch newid y cynefin 'posibl' yn gynefin 'wedi'i gynnwys' wrth lenwi'r ffurflen os oes cynefin yn bresennol. Fodd bynnag, os nad ydych yn cytuno â siâp neu gategori'r darn cynefin hwnnw, dylech newid manylion y cynefin i ddangos yr arwynebedd a'r categori cywir.

Ychwanegu cynefin a chanopi coed newydd

Mae'n bosib na fydd rhai darnau o dir cynefin a chanopi coed wedi eu cyflwyno ar y mapiau. Os felly, bydd angen ychwanegu'r darnau hyn gan ddefnyddio'r botwm 'Ychwanegu cynefin' neu 'Ychwanegu canopi coed' fel a ddisgrifir yn y canllawiau 'Sut i Lenwi'. 

Newid y cynefin a'r canopi coed

Mae offer golygu ar gael i chi allu newid y cynefin neu'r canopi coed. Bydd angen 'cynnwys' cynefin 'posibl' cyn y gallwch wneud unrhyw newidiadau. 

Os ydych yn clicio ar y botwm Golygu, byddwch yn gallu:

  • newid categori / math
  • newid y siâp
  • newid yr arwynebedd

Rhoi rhagor o wybodaeth

Os oes angen i chi egluro maint neu leoliad cynefin neu ganopi 'grŵp' o goed, gallwch ychwanegu sylw.  Er enghraifft, gallech ofyn i gynefin gael ei fapio hyd at ffin nodwedd, fel trac, sy'n weladwy ar y delweddau o'r awyr. 

Cynefin dros nodweddion dŵr

Peidiwch â mapio cynefin dros nodwedd dŵr os yw'r nodwedd dŵr yn gorchuddio rhan sylweddol o'r parsel. Dylech fapio'r cynefin o amgylch y nodwedd a defnyddio'r blwch testun i roi gwybodaeth ychwanegol os oes angen. 

Mapio mwy nag un cynefin yn yr un parsel

Er mwyn sicrhau bod y mapio mor gywir â phosibl, peidiwch â gadael bylchau rhwng cynefinoedd sy'n ffinio â'i gilydd. 

Gallwch dynnu amlinell fel ei fod yn gorgyffwrdd â ffin cynefin arall. Bydd y system yn gofyn ichi a ydych am ddileu'r cynefin arall hwnnw a rhoi'r cynefin newydd yn ei le.  Trwy glicio 'Na', bydd amlinell y cynefin newydd yn 'snapio'n ôl' i ffin y cynefin sy'n bod eisoes. Bydd hyn yn osgoi unrhyw fylchau diangen rhwng darnau o gynefin gwahanol o fewn parsel. 

Os bvdd cymysgedd neu glytwaith o gynefinoedd gwahanol mewn parsel gan ei gwneud yn anodd mapio’r categorïau unigol, dylech fapio’r prif gynefin (h.y. yr un â'r arwynebedd mwyaf).

Canopi 'grŵp' o goed – cysgod

Wrth newid neu ychwanegu canopi 'grŵp' newydd o goed, mae'n bwysig eich bod ond yn mapio'r canopi coed ei hun. Mae rhai lluniau o'r awyr yn dangos y cysgod sy'n cael ei greu gan y canopi. Ni ddylid cynnwys y cysgod hwnnw pan fyddwch yn newid neu'n ychwanegu canopi 'grŵp' o goed.  Bydd RPW yn newid y map os daw'n amlwg eich bod wedi cynnwys cysgod y canopi. 

Canopi coed unigol

Mae canopi coed a nodwyd fel rhai "unigol" yn cynrychioli canopi un goeden neu nifer o goed os yw'r canopi yn cyffwrdd a bod arwynebedd y canopi yn llai na 0.01hectar.  Os oes canopi coeden 'unigol' eisoes wedi'i ddangos, bydd yn cynrychioli'r nodwedd sy'n bresennol (canopi coeden unigol neu nifer o goed). 

Cymorth sydd ar gael

Mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy: canllawiau cadarnhau data ar gael ar ein wefan. 

Mae rhagor o gymorth ar gael:

Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Os oes angen rhagor o help arnoch, gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid roi help i chi dros y ffôn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 to 16:00.  Fel arall, gallwch ysgrifennu atom gan ddefnyddio'r dudalen ‘Negeseuon’ ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Cymorth Digidol RPW

Mae ein Swyddfeydd Rhanbarthol ar agor i’r cyhoedd trwy apwyntiad yn unig.  Gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drefnu apwyntiad ‘Cymorth Digidol’ i chi, os oes angen, mewn Swyddfa Ranbarthol lle gall aelod o’r staff esbonio'r broses wrthych chi.

Mae apwyntiadau Cymorth Digidol ar gael tan 5 Rhagfyr 2024, ond y cyntaf i'r felin fydd hi. 

Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm

Bydd staff y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm (FLS) ar gael i esbonio'r broses a'ch helpu gyda materion amserol eraill. Cysylltwch â Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm