Mae rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n ariannu prosiectau i helpu pobl ag anghenion gofal a chymorth i fyw'n annibynnol wedi'i hymestyn tan o leiaf mis Mawrth 2027.
Heddiw (dydd Mercher, 25 Mehefin), cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, y newyddion bod hyd at £60.5 miliwn wedi'i neilltuo i ganiatáu i'r Gronfa Tai â Gofal barhau.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â The Flowers ym Merthyr Tudful – eiddo dan berchnogaeth yr awdurdod lleol sydd wedi'i ailddatblygu i ddarparu gwelyau i hyd at 12 o bobl ifanc.
Diolch i £3.3 miliwn o gyllid Tai â Gofal, bydd The Flowers yn cynnig cartrefi ar gyfer lleoliadau tymor hwy cyn bo hir, yn ogystal â gwelyau ar gyfer asesiadau argyfwng ac argyfwng dros nos ac ar gyfer seibiannau byr i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol.
Y nod yw y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2025. Mae staff yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd, ac mae disgwyl iddo agor yn nes ymlaen eleni.
Yn siarad yn The Flowers, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
Mae hwn yn ailddatblygiad gwych a fydd, cyn bo hir, yn darparu llety a chefnogaeth mawr ei angen i blant yn y gymuned leol.
Dyma enghraifft arbennig o'r gwaith a wneir drwy ein Cronfa Tai â Gofal ac mae'n bleser mawr gen i gadarnhau heddiw y rhoddir estyniad am un flwyddyn, gan danlinellu ein hymrwymiad i'r rhaglen hyd at ddiwedd tymor y Senedd.
Bydd hyn yn diogelu parhad y rhaglen gyfalaf bwysig hon i sicrhau bod prosiectau yn dal i ddod ymlaen ym mlwyddyn olaf y llywodraeth i gefnogi plant a phobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu, pobl ag anghenion iechyd meddwl a gofalwyr.
Bydd ymestyn y Gronfa Tai â Gofal hefyd yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r Gronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso. Gyda'i gilydd bydd y cronfeydd hyn yn parhau i gyflawni prosiectau sy'n diwallu anghenion pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth.
Dywedodd y Cynghorydd Louise Minett-Vokes, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol:
Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl ag anghenion gofal a chymorth i fyw'n annibynnol, ac mae The Flowers yn enghraifft ddisglair o'r genhadaeth hon ar waith.
Mae rhoi estyniad i’r Gronfa Tai â Gofal yn gam arwyddocaol tuag at ddarparu llety a chymorth hanfodol i'r rhai mewn angen. Mae'r ymrwymiad parhaus hwn i'r rhaglen yn dangos ymroddiad i wella bywydau plant, unigolion hŷn, ac eraill sydd ag anghenion gofal a chymorth.
