Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cadarnhau heddiw mai Kathryn Bishop fydd cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymhen ychydig dros flwyddyn, bydd Cymru'n codi trethi am y tro cyntaf ers 800 mlynedd pan fydd treth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi'n cael eu datganoli. 

Bydd y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi'n disodli'r ddwy dreth hyn yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

O dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad ym mis Ebrill 2016, sefydlwyd trefniadau trethi datganoledig i Gymru. Roedd y trefniadau hyn yn cynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli trethi datganoledig.   

Yr Awdurdod fydd adran anweinidogol gyntaf Llywodraeth Cymru a bydd yn dechrau gweithredu o fis Ebrill 2018.  Dros y pedair blynedd nesaf, bydd yr Awdurdod yn casglu mwy na £1bn o refeniw trethi.

Wrth gadarnhau penodiad Ms Bishop, dywedodd yr Athro Drakeford: 

"Mewn ychydig dros flwyddyn, bydd Cymru'n gyfrifol am gasglu a rheoli ei threthi ei hun ar ôl cyflwyno'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi.  

"Ry'n ni'n gwneud cynnydd sylweddol wrth baratoi ar gyfer datganoli trethi a bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn rhan annatod o'r gwaith hynny.

"Bydd yn gyfrifol am gasglu a rheoli dros £1 biliwn o refeniw treth dros y pedair blynedd nesaf, a bydd y refeniw hwn yn hanfodol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.

 "Mae'n bleser gen i gadarnhau penodiad Kathryn Bishop fel cadeirydd cyntaf yr Awdurdod. Mae Kathryn yn meddu ar gyfoeth o brofiadau a bydd ei gweledigaeth a'i gallu i arwain yn sicrhau cyfnod pontio didrafferth wrth i Gymru fabwysiadu pwerau trethu."

Dywedodd Ms Bishop: 

"Dw i'n falch iawn o gael fy mhenodi'n gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, corff cyhoeddus newydd â swyddogaethau o bwys yng Nghymru. Dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm gweithredu a'r rhanddeiliaid." 

Daw penodiad Ms Bishop fel cadeirydd yr Awdurdod ar ôl proses recriwtio deg ac agored dan reolaeth Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. 

Cymeradwyodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ei phenodiad mewn gwrandawiad cyn penodi.