Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, newydd rannu manylion cynllun peilot i fynd i'r afael â'r effaith y mae perchenogaeth ail gartrefi yn ei chael ar rai cymunedau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Gweinidog y bydd y peilot yn dwyn ynghyd amrywiaeth o gamau ar gyfer mynd i'r afael â’r effeithiau y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr eu cael ar gymuned.

Dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau’r Senedd fod Dwyfor wedi cael ei ddewis ar gyfer cynllun peilot a fydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr gyda chymorth Cyngor Gwynedd.

Bydd cam cyntaf y cynllun peilot yn adeiladu ar y cymorth ymarferol y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei ddarparu i fynd i'r afael â fforddiadwyedd a faint o dai sydd ar gael a bydd yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion pobl yr ardal. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cadarnhau yn dilyn y Gyllideb, ac mae’r Gweinidog yn awyddus i edrych ar gynlluniau rhannu ecwiti, opsiynau rhentu, a'r hyn a wnawn ynghylch cartrefi gwag.

Bydd dwy swydd bwrpasol yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun peilot yn yr ardal i gysylltu'r ymyriadau, ymgysylltu â chymunedau a sicrhau'r effaith fwyaf bosibl.

Hefyd, lansiodd y Gweinidog ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig ym maes cynllunio.

Bydd hwn yn ceisio barn ar ddefnyddio 'gorchymyn dosbarthiadau' ym maes cynllunio a fyddai'n caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol ei gwneud yn ofynnol gwneud ceisiadau cynllunio ar gyfer ail gartrefi ychwanegol a llety gwyliau tymor byr mewn ardaloedd lle maent yn achosi anawsterau sylweddol i gymunedau.

Bydd yr ymgynghoriad yn llywio ail gam y peilot a allai olygu gwneud newidiadau i systemau cynllunio, trethu a thwristiaeth. 

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Rydym eisiau i bobl ifanc gael gobaith realistig o allu prynu neu rentu tai fforddiadwy yn yr ardal lle cawsant eu magu fel y gallant fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol.

Gall niferoedd uchel o ail gartrefi ail a chartrefi gwyliau mewn un ardal fygwth y Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac effeithio ar gynaliadwyedd rhai ardaloedd gwledig.

Rydym yn genedl groesawgar ac mae twristiaeth yn rhan bwysig o’n heconomi gan ddod â swyddi ac incwm i sawl rhan o Gymru. Ond dydyn ni ddim eisiau pentrefi sy’n orlawn o bobl yn y tymor gwyliau ond fel y bedd yn ystod misoedd y gaeaf am nad oes neb yn byw ynddynt.

Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac nid oes atebion cyflym. Efallai na fydd yr hyn a allai fod yn iawn i un gymuned yn gweithio i un arall. Bydd angen i ni gyflwyno amrywiaeth o gamau, does dim un bwled arian penodol yma!

Yn ogystal, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, lansiad ymgynghoriad ar fesurau ychwanegol wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer y cymunedau hynny lle siaredir y Gymraeg yn helaeth.

Bydd hyn yn sail i Gynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a bydd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnal cymunedau Cymraeg fel lleoedd y mae modd defnyddio'r iaith yn hwylus. 

Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Rydym yn dymuno i'n cymunedau Cymraeg barhau i fod yn lleoedd sydd ag economi hyfyw, lle y gall pobl leol, yn enwedig pobl ifanc, fyw a gweithio a lle gall yr iaith a’n diwylliant Cymreig ffynnu.

Er nad oes atebion hawdd, rwy'n hyderus y bydd yr ymyriadau a gynigir heddiw yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'n hamcan o sicrhau bod pobl mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gallu fforddio byw yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt.