Bydd asesiad cenedlaethol o'r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn dechrau'r mis hwn, wrth i'r adolygiad annibynnol o'r gwasanaethau hynny ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gael ei gyhoeddi.
Bydd yr asesiad sicrwydd ledled Cymru yn cael ei gadeirio'n annibynnol a bydd yn ystyried canfyddiadau'r adolygiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled y DU, gan gynnwys ym Mae Abertawe.
Bydd hefyd yn ystyried yr adroddiad dan arweiniad teuluoedd i wasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe, a gyhoeddwyd ddydd Llun, a bydd yn cyd-fynd â'r adolygiad ledled Lloegr.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, wedi penderfynu y bydd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cael eu codi i'r ail lefel uchaf o ymyrraeth, sef lefel 4. Bydd hyn yn sicrhau trefniadau monitro mwy manwl a chymorth gwell.
Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un o'r 11 argymhelliad yn yr adolygiad annibynnol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
Hoffwn ymddiheuro'n llawn ac yn ddiffuant, ar ran Llywodraeth Cymru, i'r holl fenywod a'r teuluoedd sydd ddim wedi cael y gwasanaeth neu'r gofal yr oedden nhw'n ei haeddu a'i ddisgwyl gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Allwn ni ddim gadael i’r profiadau sydd wedi cael eu nodi heddiw, y rheiny yn adroddiad diweddar Llais, na’r rheiny wnes i glywed fis diwethaf gan deuluoedd – fyth ddigwydd eto.
O ganlyniad i'r materion sydd wedi cael eu codi, a'r pryderon parhaus gan fenywod a theuluoedd am brofiad cleifion, agweddau staff a'r gofal sy'n cael ei ddarparu, heddiw, rwy'n codi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd i lefel 4 dan y drefn uwchgyfeirio.
Mae adroddiad cynnydd cyntaf y rhaglen diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol hefyd wedi'i gyhoeddi heddiw, gan dynnu sylw at y gwelliannau a wnaed yn erbyn y dangosyddion diogelwch cenedlaethol.
Ychwanegodd Mr Miles:
Rhaid i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y Gwasanaeth Iechyd ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd ym Mae Abertawe. Gyda'n gilydd, rhaid inni ymrwymo i ddarparu'r profiadau a'r canlyniadau gorau posibl i bob menyw yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.
Rhaid i bob menyw a babi gael gofal diogel a thosturiol o ansawdd da. Rhaid rhoi sylw i'w lleisiau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth a rhaid iddyn nhw gael eu cynnwys mewn cynlluniau i wella gwasanaethau.
