Neidio i'r prif gynnwy

Mewn sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru heddiw, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI a Mentro’n Gall Cymru am sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i fod yn fwy diogel yn yr awyr agored yr haf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gydag 870 milltir o arfordir trawiadol i grwydro ar ei hyd, mae'r RNLI yng Nghymru yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ddiogelwch arfordirol i unrhyw un sy'n dymuno mynd allan ar y môr a chymryd rhan yn y gweithgareddau dŵr niferus sydd ar gael. Roedd hefyd yn gyfle i hyrwyddo cynllun llysgenhadon dŵr lleol yr RNLI lle gall busnesau sydd ar yr arfordir helpu i achub bywydau drwy hyrwyddo negeseuon diogelwch dŵr allweddol mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

Dywedodd Chris Cousens, RNLI:

"Roedd yn gyfle gwych i gael  siarad â chymaint o fusnesau twristiaeth am bwysigrwydd diogelwch dŵr a thrafod sut y gall yr RNLI ac Adventure Smart UK eu cefnogi i helpu pobl i fwynhau yn ddopgel yn y dŵr agored yr haf hwn a thu hwnt.

“Gwyddom fod 30 miliwn o bobl yn bwriadu ymweld â'r arfordir yr haf hwn ac rydym am i gynifer ohonynt â phosibl ddewis traeth sydd ag achubwyr bywyd, i wybod i arnofio i fyw os ydynt mewn trafferth yn y dŵr a gwybod i ffonio 999 neu 112 a gofyn am Wylwyr y Glannau mewn argyfwng.

“Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd rhai o'r busnesau sy'n bresennol yn y digwyddiad heddiw yn ymuno â'r cannoedd sydd eisoes wedi ymuno â Chynllun Llysgenhadon Lleol yr RNLI yn RNLI.org/LocalAmbassador.”

Hefyd yn cymryd rhan yn y sesiwn roedd Paul Donovan ac Emma Edwards-Jones, rheolwyr prosiect ar gyfer Mentro’n Gall, sydd â'r nod o leihau nifer y digwyddiadau y gellir eu hosgoi y mae'r gwasanaethau achub ac argyfwng yn ymdrin â hwy bob blwyddyn.  

Meddai Paul Donovan:

"Mae Mentro’n Gall yn ymgyrch genedlaethol i ymgysylltu pobl yn gadarnhaol â'r wybodaeth syml sydd angen arnynt i gymryd cyfrifoldeb am eu diogelwch a'u cysur eu hunain wrth fwynhau'r awyr agored. Er bod yr ymgyrch yn hyrwyddo hamdden awyr agored, mae'n pwysleisio'r potensial ar gyfer cael diwrnod mwy pleserus a chyfforddus drwy ddilyn y negeseuon syml.

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i estyn allan a chefnogi busnesau twristiaeth i rannu negeseuon syml ond effeithiol y cytunwyd arnynt ac sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan dros 70 o sefydliadau'r sector antur."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething;

"Gyda mwy o bobl yn mynd ar wyliau gartref eleni, yn ddealladwy byddant yn mynd allan i fwynhau amgylchedd naturiol Cymru i brofi grym natur i godi ein hysbryd – mae hefyd yn bwysig bod ganddynt yr wybodaeth gywir i'w cadw eu hunain a'n cymunedau'n ddiogel. 

"Mae ymgyrch Addo Croeso Cymru wedi bod yn rhedeg ers i gyfyngiadau gael eu codi ym mis Mawrth i annog pobl Cymru ac ymwelwyr i barhau i barchu cefn gwlad a'r cymunedau rydyn ni'n ymweld â hwy drwy wneud addewid i ofalu am ein gilydd, ein tir a'n cymunedau. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i lansio menter o'r math yma - gan annog ymwelwyr i gadw yr addewid i helpu i ofalu am y bobl a'r lleoedd y maent yn ymweld â hwy ac i'w hamddiffyn.  Mae hyrwyddo diogelwch wrth i ni fentro allan dros yr haf yn rhan o'r ymgyrch hon."

Gellir llofnodi'r addewid rhithwir ar Croeso Cymru: Gwna addewid i Gymru.