Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden y bydd gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw yn ymuno â’r heddlu ac asiantaethau eraill i fynd i’r afael â throseddau treftadaeth ac eiddo diwylliannol yng Nghymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

O dan y bartneriaeth newydd bydd Cadw yn ymuno â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Historic England fel rhan o ARCH: Cynghrair i Leihau Troseddau yn erbyn Treftadaeth.  Mae’r fenter ar y cyd yn mynd i’r afael â throseddau yn systematig a’u lleihau megis lladrad pensaernïol, gan gynnwys dwyn metel a charreg, difrod troseddol ac yn benodol fandaliaeth, graffiti a thanau bwriadol, defnyddio datgelyddion metel yn anghyfreithlon ac ymddygiadau gwrthgymdeithasol fel niwsans cerbydau a dympio gwastraff.

Heddiw, mae’r Dirprwy Weinidog wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda’r partneriaid sy’n rhan o’r fenter.

 Mae datblygiadau diweddar wedi cynnwys:

  • sefydlu Swyddogion Cyswllt Troseddau Treftadaeth penodol mewn heddluoedd ledled Cymru a Lloegr.
  • cyhoeddi canllawiau dedfrydu diwygiedig fel y gall Llysoedd gydnabod effaith waethygol troseddau ar asedau treftadaeth ac eiddo diwylliannol.
  • gwella prosesau casglu data a gwybodaeth, drwy sefydlu rôl Dadansoddwr Gwybodaeth Treftadaeth ac Eiddo Diwylliannol penodol.
  • lansio llawer o gynlluniau Heritage Watch, sy’n rheoli’r angerdd am dreftadaeth mewn cymunedau, awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Mae’r frwydr yn erbyn troseddau treftadaeth yn gofyn am gydweithio cryf rhwng yr heddluoedd yng Nghymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Cadw.

“Rydym yn cymryd troseddau treftadaeth o ddifrif yng Nghymru. Mae ein hamgylchedd hanesyddol a’n treftadaeth ddiwylliannol yn werthfawr ac yn ddigymar – rydym yn eu diogelu er budd pobl heddiw ac er lles ein cenedlaethau i’r dyfodol. Rwy’n croesawu ymestyn y fenter gydweithredol bwysig hon i Gymru, ac rwy’n edrych ymlaen at yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael yma.”

Dywedodd Duncan Wilson, Prif Weithredwr Historic England:

“Rydyn ni’n croesawu ein cydweithwyr o Cadw fel llofnodwyr y memorandwm. Ers llofnodi’r memorandwm gwreiddiol, mae cynnydd sylweddol wedi’i gyflawni i atal troseddau ac ymddygiadau gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol ac i ymchwilio iddynt.

“Mae’r cynnydd hwn wedi bod yn bosibl drwy ddatblygu partneriaeth gadarn, ymroddedig ac effeithiol rhwng Historic England, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r miloedd o bobl sy’n berchen ar ein hadeiladau hanesyddol a’n safleoedd archeolegol ac sy’n gofalu amdanynt.

“Mae troseddau treftadaeth yn dwyn o’n hanes ar y cyd ac mae’r digwyddiad heddiw yn nodi’r cam nesaf yn ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r broblem, lle bynnag y mae’n digwydd.”

Dywedodd Paul Stimson, dirprwy Brif Erlynydd y Goron, arweinydd CPS ar faterion treftadaeth a throseddau bywyd gwyllt:

"Rwy'n croesawu unrhyw gyfle i weithio'n agos gyda'n partneriaid, ac mae'r memorandwm hwn yn enghraifft berffaith wrth i ni ei ymestyn i Gymru. Mae dyletswydd arnom i amddiffyn ein safleoedd treftadaeth a bydd y CPS yn chwarae ei ran. Pan fydd trosedd yn erbyn ased treftadaeth wedi'i chyflawni, ni fyddwn yn oedi cyn erlyn pryd bynnag y bydd ein prawf cyfreithiol yn cael ei fodloni."

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Rachel Nolan, arweinydd Portffolio Troseddau Treftadaeth Cyngor Cenedlaethol yr Heddlu (NPCC): "Mae hyn yn dod â rhai o'r sefydliadau allweddol yn agosach at ei gilydd yn y frwydr ar y cyd yn erbyn Troseddau Treftadaeth. Mae'n ein cynorthwyo i warchod ein hamgylchedd hanesyddol ac i ddilyn troseddwyr sy'n ymwneud â dwyn neu ddifrodi asedau treftadaeth.”

Mae deddfwriaeth newydd, Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), yn ei gamau olaf drwy’r Senedd. Pan ddaw’n gyfraith, bydd y ddeddfwriaeth gydgrynhoi hon yn disodli’r Deddfau presennol er mwyn diogelu henebion, adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth yng Nghymru. Bydd yn darparu ailddatganiad hygyrch, cwbl ddwyieithog, newydd o’r deddfau presennol, a fydd yn eu gwneud yn haws eu deall a’u defnyddio er mwyn diogelu amgylchedd hanesyddol Cymru yn well.

Yn y cyfamser, bydd Heddluoedd Cymru yn mynd ar drywydd y dull cyson o blismona troseddau treftadaeth a ddangoswyd drwy lansiad Ymgyrch Dreftadaeth Cymru y llynedd. Mae hyn yn anelu at fwy o gysondeb ledled Cymru, yn enwedig o ran adrodd am droseddau, meithrin gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae Cadw yn cefnogi’r fenter hon drwy roi hyfforddiant a chymorth arbenigol i swyddogion sy’n ymchwilio i achosion troseddau treftadaeth.