Llinell gymorth Advicelink Cymru
Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim ar amrywiol bynciau, megis:
- budd-daliadau lles
- dyledion
- cyflogaeth
- addysg
- tai
- camwahaniaethu.
Cysylltwch â chynghorydd heddiw drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0800 702 2020.
Ewch i’r wefan Advicelink Cymru i gael gwybod mwy am sut i gael cymorth.
Cyngor ar Bopeth Cymru
Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:
- arian,
- dyledion
- budd-daliadau
I siarad â chynghorydd, ffoniwch 03444 77 20 20 (9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) (Croesawir galwadau yn Gymraeg) neu i gael gwybodaeth a/neu siarad â chynghorydd ar-lein.
Os ydych chi’n hunanynysu ac nad oes gennych ffrindiau neu gymdogion sy’n gallu helpu, cysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol (Cyngor Gwirfoddol Sirol) am help a chyngor.
Helpwr Arian
Mae’r Helpwr Arian yn rhoi cyngor ariannol diduedd am ddim. Gall eich helpu i gynllunio a rheoli’ch arian ac fe’i sefydlwyd gan Lywodraeth y DU.
Dewis Cymru
Mae Dewis Cymru yn eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau cynghori ar arian a dyled lle rydych chi’n byw.