Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael Pàs COVID y GIG i ddangos eich bod wedi cael eich brechu rhag COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y ffordd gyflymaf o gael Pàs COVID y GIG yw gwneud cais ar-lein am fersiwn ddigidol o’r pàs. Gellir lawrlwytho ac argraffu’r pàs.

Mae Pàs COVID y GIG yn ffordd i ddangos eich statws brechu’r coronafeirws (COVID-19) neu ganlyniadau profion.

I wneud cais am Bàs COVID digidol y GIG mae’n rhaid i chi fod:

  • yn 12 oed neu’n hŷn
  • wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru neu Lloegr

Bydd angen i chi lwytho llun o un o’r canlynol:

  • pasbort
  • trwydded yrru llawn y DU
  • trwydded yrru llawn Ewropeaidd

Efallai y gofynnir i chi hefyd recordio fideo byr ohonoch chi'ch hun.

Cael eich Pàs COVID digidol y GIG (ar nhs.uk)  

Pan fyddwch wedi lawrlwytho Pàs COVID y GIG, bydd y cod bar yn ddilys am 180 diwrnod. Bydd y cod bar yn diweddaru’n awtomatig bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’r gwasanaeth.

Ni allwch ddefnyddio ap y GIG Lloegr i gael pàs COVID gan mai ond ar gyfer y GIG yn Lloegr y mae’r adnodd hwn yn gweithio.

Os ydych chi angen copi papur o’r pàs, gallwch lawrlwytho pdf ohono a’i argraffu. Bydd hwn yn ddilys am 180 diwrnod. Bydd yn cael ei adnewyddu bob tro rydych yn mewngofnodi, a gallwch argraffu copi newydd.

Plant 5 i 11 oed

Gall plant 5 i 11 oed sydd wedi cael cwrs llawn o frechiadau neu brawf PCR y GIG positif o fewn yr 180 diwrnod (6 mis) diwethaf gael llythyr Pàs COVID y GIG.

Gall person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ofyn am y llythyr ar ei ran ar-lein yn Cael eich llythyr Pàs COVID - NHS (www.nhs.uk).

Bydd y llythyr yn cael ei anfon i'r cyfeiriad sydd yng nghofnod GIG y plentyn (y cyfeiriad sydd gan ei feddyg teulu). Bydd yn dangos yr holl frechiadau COVID-19 y mae wedi’u cael.

Canllaw ar Bàs COVID y GIG a beth i’w wneud os nad ydych yn gymwys

Os nad ydych chi’n gallu gwneud cais ar-lein (pobl 12 oed a hŷn)

Os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r fersiwn digidol, neu os nad oes gennych gerdyn adnabod â llun, gallwch wneud cais am dystysgrif bapur. Bydd hwn yn ddilys am 180 diwrnod.

Mae’r dystysgrif bapur wedi ei dylunio ar gyfer teithio rhyngwladol. Fodd bynnag, dim ond tystiolaeth eich bod wedi eich brechu’n llawn yw tystysgrif bapur COVID y GIG.

Gellir ond rhoi tystysgrifau papur os:

  • ydych chi wedi cael cwrs llawn o frechlyn COVID-19 (dylech aros 5 diwrnod ar ôl eich dos olaf cyn gwneud cais am dystysgrif)
  • ydych chi’n 12 oed neu’n hŷn

Ffoniwch 0300 303 5667 i wneud cais am Bàs COVID (dylech ond wneud cais dros y ffôn os nad ydych chi’n gallu defnyddio Pàs digidol COVID y GIG). Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i’r dystysgrif eich cyrraedd. Ni ellir prosesu ceisiadau yn gynt na rhai eraill, ac ni ellir casglu tystysgrifau.

Gallwch ffonio 7 diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 5pm.

Fel rheol, mae galwadau yn costio rhwng 2c a 40c y funud, ac maent yn cael eu cynnwys mewn pecynnau galwadau am ddim.

Ni all meddygon teulu na byrddau iechyd ddarparu llythyrau sy’n cadarnhau eich statws brechu COVID-19.