Dyma ganllawiau sy’n egluro’r hyn y mae rhaid i ymchwilwyr ei wneud i gael gafael ar ficroddata Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ymchwil.
Cynnwys
Hyfforddiant Ymchwilwyr Diogel
Rhaid i unrhyw ymchwilydd sy’n defnyddio microddata Llywodraeth Cymru gwblhau hyfforddiant ar y defnydd diogel o ficroddata. Rydym yn argymell bod ymchwilwyr yn cwblhau’r cwrs Hyfforddiant Ymchwilwyr Diogel.
Mae’r hyfforddiant hwn yn ymdrin ag agweddau cyfreithiol, moesegol a diogelwch cynnal ymchwil sy’n cynnwys data sensitif. I archebu lle ar gwrs hyfforddiant ymchwilwyr diogel, rhaid ichi gysylltu â thîm cymorth i gwsmeriaid y Gwasanaeth Ymchwil Ddiogel.
Ar ôl ichi gwblhau’r cwrs hyfforddiant ymchwilwyr diogel, byddwch yn cael dolen at asesiad ar-lein y bydd angen ichi ei basio er mwyn cael eich rhif ymchwilydd cymeradwy.
Os ydych chi eisoes wedi cwblhau’r hyfforddiant ymchwilwyr diogel, gallwch symud ymlaen i’r cam nesaf.
Os ydych chi wedi cwblhau hyfforddiant tebyg i’r hyfforddiant ymchwilwyr diogel, cysylltwch ag YDG Cymru i drafod a yw’r hyfforddiant hwnnw yn ddigonol.
Penderfynu a oes angen arnoch ddata cysylltiol neu ddata nad ydynt wedi’u cysylltu
Mae 4 llwybr gwahanol i gael gafael ar ficroddata Llywodraeth Cymru.
Mae’r dewis o lwybr yn dibynnu ar ba setiau data yr hoffech gael gafael arnynt ac a oes angen eu cysylltu ag unrhyw ddata eraill.
Setiau data Arolwg Cenedlaethol Cymru nad ydynt wedi’u cysylltu (Gwasanaeth Data y DU)
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr ar gyfer datblygu a gwerthuso polisi. Mae’n weithredol drwy gydol y flwyddyn, ar draws Cymru gyfan, ac yn casglu data ar bynciau fel:
- ardaloedd lleol
- cymunedau a’r amgylchedd
- llesiant a chyllid
- tai
- democratiaeth a llywodraethiant
- iechyd y boblogaeth
- y rhyngrwyd
- sgiliau a’r cyfryngau
- diwylliant a’r Gymraeg
- chwaraeon a hamdden
- plant ac addysg
- y GIG a gofal cymdeithasol
Gallwch gael gafael ar ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru drwy Wasanaeth Data y DU. Sicrheir bod y data hyn ar gael yn amodol ar Gytundeb Trwydded Defnyddiwr Terfynol Gwasanaeth Data y DU, sef contract sy’n rhwymol yn gyfreithlon rhwng ymchwilwyr a Gwasanaeth Data y DU. Mae’r Cytundeb yn sicrhau yr ymdrinnir â’r data yn foesegol ac yn gyfreithlon.
Gweler tudalen we y gyfres ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru a’r rhestr o gasgliadau data sydd ar gael. Dylai defnyddwyr sy’n awyddus i gael gafael ar y casgliadau data hyn ymweld â thudalen gymorth Gwasanaeth Data y DU ‘How to download and order your data’.
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â chael gafael ar y casgliadau data hyn, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaeth Data y DU.
Ar gyfer y rhan hon o’r broses, nid oes angen cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru oherwydd bod y casgliadau data yn cynnwys data arolwg nad ydynt wedi’u cysylltu lle ystyrir bod y risg o adnabod unigolion yn ddigon bach o gymharu â data gweinyddol neu setiau data cysylltiol.
Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd ar gael ym Manc Data SAIL lle gellir eu cysylltu â setiau data eraill.
Setiau data eraill Llywodraeth Cymru nad ydynt wedi’u cysylltu (Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP) Llywodraeth Cymru)
Mae setiau data eraill Llywodraeth Cymru nad ydynt wedi’u cysylltu ar gael i ymchwilwyr eu defnyddio yn rhad ac am ddim drwy Blatfform e-Ymchwil Diogel (SeRP) Llywodraeth Cymru. Cysylltwch ag YDG Cymru.
Setiau data addysg gweinyddol cysylltiol ar gyfer Astudiaeth Carfan y Mileniwm (Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 4), Cymru (Gwasanaeth Data y DU)
Mae Astudiaeth Carfan y Mileniwm yn set ddata fawr sy’n dangos cefndiroedd gwahanol plant a anwyd ar ddechrau’r 2000au. Mae’n cynnwys cofnodion addysg plant yng Nghymru hyd at 16 oed, sydd wedi’u cysylltu ag ymatebion i arolwg yr astudiaeth.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen gatalog Gwasanaeth Data y DU SN 9085 - Astudiaeth Carfan y Mileniwm: Setiau Data Addysg Gweinyddol Cysylltiol (CA1-CA4), Cymru: Mynediad Diogel.
I gael gafael ar y data diogel hwn, rhaid i ddefnyddwyr Gwasanaeth Data y DU wneud cais drwy SecureLab. Mae manylion ar sut i wneud cais ar gael ar dudalen we SecureLab ynglŷn â’r gofynion sy’n gysylltiedig â gwneud cais. Bydd Gwasanaeth Data y DU yn cysylltu â Phanel Mynediad at Ddata Llywodraeth Cymru ar eich rhan.
Gellir hefyd gysylltu’r astudiaeth â chofnodion addysg ac iechyd ym Manc Data SAIL. Mae Banc Data SAIL yn cynnwys ystod eang o ddata addysg (o addysg gynradd i addysg uwch) y gellir eu cysylltu â setiau data eraill. Gweler data Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cysylltu â setiau data eraill (Banc Data SAIL).
Data Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cysylltu â setiau data eraill
Gallwch gael gafael ar amrywiaeth o setiau data Llywodraeth Cymru y gellir eu cysylltu â ffynonellau data eraill drwy Fanc Data SAIL.
Mae Banc Data SAIL yn blatfform diogel a dienw sy’n cynnal casgliad mawr o ddata iechyd, data cymdeithasol a data gweinyddol o Gymru a thu hwnt.
Gellir gwneud cais i gael gafael ar ddata ym Manc Data SAIL. Os hoffech chi gael gafael ar ddata Llywodraeth Cymru ym Manc Data SAIL, bydd tîm SAIL yn cysylltu â Phanel Mynediad at Ddata Llywodraeth Cymru ar eich rhan.
I weld pa ddata sydd wedi’u cynnwys yn SAIL, ewch i Gatalog Data YDG y DU. I bori drwy setiau data sydd ar gael ym Manc Data SAIL, dewiswch ‘Browse all’ ac o dan ‘Partner’, dewiswch ‘SAIL Databank (Wales)’.
Panel Mynediad at Ddata Llywodraeth Cymru
Mae Panel Mynediad at Ddata Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan hanfodol ar gyfer sicrhau bod cynigion ymchwilwyr i ddefnyddio data yn synhwyrol ac ar sail gwybodaeth.
Os ydych chi’n gwneud cais i gael gafael ar ddata Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynnwys yn SAIL neu yng Ngwasanaeth Data y DU, bydd yr Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy hyn yn cysylltu â Phanel Mynediad at Ddata Llywodraeth Cymru ar eich rhan.
Nid oes angen cymeradwyaeth Panel Mynediad at Ddata Llywodraeth Cymru os ydych chi’n ceisio cael gafael ar ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru nad ydynt wedi’u cysylltu yng Ngwasanaeth Data y DU.
Os ydych chi’n gwneud cais i gael gafael ar setiau data Llywodraeth Cymru nad ydynt wedi’u cysylltu yn SeRP Llywodraeth Cymru, cysylltwch â thîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru) yn Llywodraeth Cymru. Byddwch yn cael templed cynigion ymchwil ganddynt i’w gwblhau.
Ffurflenni cael gafael ar ddata
Os ydych chi’n gwneud cais i gael gafael ar ddata Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynnwys yn SAIL neu SecureLab Gwasanaeth Data y DU, efallai y bydd yr Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy hyn yn gofyn ichi lenwi ffurflen. Mae gwefan Gwasanaeth Data y DU yn cynnwys manylion cyswllt a fydd yn gallu rhoi cyngor ichi sy’n benodol i’ch gofynion. Noder: nid oes angen cymeradwyaeth Panel Mynediad at Ddata Llywodraeth Cymru os ydych chi’n ceisio cael gafael ar ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru nad ydynt wedi’u cysylltu sydd wedi’u cynnwys yng Ngwasanaeth Data y DU.
Os ydych chi’n gwneud cais i gael gafael ar setiau data Llywodraeth Cymru nad ydynt wedi’u cysylltu yn SeRP Llywodraeth Cymru, cysylltwch â thîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru) yn Llywodraeth Cymru. Byddwch yn cael templed cynigion ymchwil ganddynt i’w gwblhau.
Mewn rhai achosion, gofynnir ichi lenwi taenlen sy’n rhestru’r newidynnau sydd eu hangen arnoch a rhoi cyfiawnhad dros y rhain.
Wrth wneud cais i gael gafael ar ddata Llywodraeth Cymru, byddwch mor glir â phosibl yn eich cais ynghylch pam y mae angen ichi gael gafael ar y setiau data a’r newidynnau sy’n benodol i Lywodraeth Cymru a sut y byddwch yn defnyddio’r data yn eich ymchwil.
Ni fydd yn ofynnol ichi ymwneud yn uniongyrchol â gwahanol gamau Panel Mynediad at Ddata Llywodraeth Cymru gan y bydd SAIL, Gwasanaeth Data y DU neu dîm YDG Cymru Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hyn ar eich rhan. Rydym wedi darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n cael ei asesu ym mhob cam ond os hoffech hepgor y rhain, ewch yn syth i Cael gafael ar ddata.
Adolygiad gan arbenigwyr data
Bydd tîm YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn anfon eich ffurflen wedi’i chwblhau i’r tîm perthnasol yn Llywodraeth Cymru sydd ag arbenigedd yn y data, sef ‘yr arbenigwyr data’. Os ydych chi’n ceisio cael gafael ar ddata yn yr Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy hyn, efallai y bydd gan yr arbenigwyr data gwestiynau ar y cam hwn y byddant yn eu rhannu â chi drwy SAIL neu Wasanaeth Data y DU. Os ydych chi’n ceisio cael gafael ar ddata Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynnwys yn SeRP Llywodraeth Cymru, bydd tîm YDG Cymru Llywodraeth Cymru yn bwydo’r ymholiadau hyn yn ôl atoch yn uniongyrchol.
Gofynnir i’r arbenigwyr data ystyried y canlynol.
- Ar y cyfan, a yw cynigion yr ymchwilwyr ar gyfer defnyddio’r data yn synhwyrol?
- A oes unrhyw gyfyngiadau yn y data nad yw’r ymchwilwyr efallai wedi deall?
- A yw’r ymchwilwyr wedi gofyn am ddata nad ydynt wedi rhoi rhesymeg ddigonol ar eu cyfer?
- A oes data eraill nad ydynt wedi gofyn amdanynt a allai fod yn ddefnyddiol?
Yr hyn na chaiff ei ystyried:
- adolygiad manwl o ddulliau’r ymchwilwyr
- pryderon ynglŷn â phreifatrwydd
Adolygiad gan y panel
Mae’r Panel yn cynnwys staff Llywodraeth Cymru o wahanol raddau a thimau. Ar ôl cymeradwyaeth gan yr arbenigwyr data, mae’r panel yn asesu’r canlynol:
- A yw’r cynnig yn sicrhau budd i’r cyhoedd?
- A yw’r cynnig at ddibenion ymchwil neu ystadegau dilys?
- A oes goblygiadau o ran preifatrwydd wedi’u hystyried yn briodol?
- A oes goblygiadau moesegol wedi’u hystyried yn briodol?
Efallai y bydd gan y panel ymholiadau y byddant yn eu bwydo’n ôl drwy SAIL, Gwasanaeth Data y DU, neu dîm YDG Cymru Llywodraeth Cymru. Government ADR Wales team.
Cymeradwyaeth gan y Perchennog Asedau Gwybodaeth
Unwaith y bydd y Panel wedi cymeradwyo’r cais, y cam terfynol yw cymeradwyaeth gan y Perchennog Asedau Gwybodaeth perthnasol yn Llywodraeth Cymru.
Bydd yr Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy perthnasol neu dîm YDG Cymru Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi fod eich cais wedi’i gymeradwyo’n llawn. Byddant wedyn yn trefnu ichi gael gafael ar y data.
Cael gafael ar ddata
Os ydych chi’n cael gafael ar ddata sydd wedi’u cynnwys yn SAIL neu Wasanaeth Data y DU, byddant yn trefnu hyn ar eich cyfer. Nid oes angen ichi ymwneud â Llywodraeth Cymru ymhellach oni bai eich bod angen cael gafael ar ddata ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
I gael gafael ar ddata yn SeRP Llywodraeth Cymru bydd angen ichi gofrestru fel defnyddiwr. Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru fel defnyddiwr, bydd Llywodraeth Cymru yn anfon ffurflen fer atoch yn gofyn am rai manylion i sicrhau bod cyfrif defnyddiwr SeRP Llywodraeth Cymru yn cael ei agor ar eich cyfer.
Bydd angen ichi lawrlwytho ap dilysu symudol gan fod y broses mewngofnodi yn cynnwys dilysiad dau ffactor.
Anfonwch e-bost i YDG Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
SeRP Llywodraeth Cymru Cytundeb Mynediad at Ddata, dadansoddi ac allbynnau
Cytundeb Mynediad at Ddata
Os ydych chi’n cael gafael ar ddata drwy SAIL neu Wasanaeth Data y DU, nid oes angen ichi gwblhau Cytundeb Mynediad at Ddata â Llywodraeth Cymru oherwydd bod gan Lywodraeth Cymru eisoes Gytundebau Mynediad at Ddata â’r Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd SAIL neu Wasanaeth Data y DU yn gofyn ichi gwblhau eu Cytundebau Mynediad at Ddata eu hunain.
Os ydych chi’n cael gafael ar ddata drwy SeRP Llywodraeth Cymru, gofynnir i chi lenwi ffurflen Cytundeb Mynediad at Ddata y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu.
Dadansoddi
Ar ôl ichi gael gafael ar y data, bydd eich holl waith dadansoddi yn cael ei gynnal yn SeRP Llywodraeth Cymru.
Ni fydd yn bosibl i chi drosglwyddo unrhyw ffeiliau rhwng SeRP Llywodraeth Cymru a’ch peiriant lleol. Os oes angen trosglwyddo unrhyw ffeiliau arnoch, cysylltwch ag YDG Cymru.
Mae nifer o becynnau dadansoddol ar gael i’w dadansoddi yn SeRP Llywodraeth Cymru.
Allbynnau
Mae angen i bopeth a dynnir allan o’r platfform fynd drwy broses ‘prosesu ffeiliau’ i’w cymeradwyo. Mae’r broses prosesu ffeiliau hon yn cynnwys rheolaethau datgelu i sicrhau bod y dadansoddiad yn anhysbys.
