Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd yn ariannu gwelliannau effeithlonrwydd ynni i aelwydydd cymwys ynghyd â chyngor am ddim a diduedd i bob aelwyd.
Cyflawnir gwelliannau trwy ein cynllun Nyth ac yn flaenorol drwy gynllun Arbed.
Nyth
Mae Nyth yn darparu cyngor a chefnogaeth am ddim i helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni eu cartref. Gall hefyd gynnig pecyn o fesurau effeithlonrwydd ynni i helpu i leihau biliau ynni cartref rhai pobl sydd:
- ar incwm isel
- brwydro i gwrdd â chost eu hanghenion ynni domestig
Nyth.
Arbed
Roedd y cynllun Arbed yn cynnig gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn meysydd wedi'u targedu. Mae'r cynllun hwn bellach ar gau.