Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a chanllawiau i weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phobl sy'n dioddef caethwasiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ffoniwch 999 os yw'n argyfwng neu rydych mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd ichi.

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ddifrifol. Mae'n cynnwys caethwasiaeth, caethwasanaeth, neu lafur dan orfod neu lafur gorfodol a masnachu pobl. Gall dioddefwyr caethwasiaeth fodern wynebu mwy nag un math o gamdriniaeth a chaethwasiaeth yn aml, er enghraifft os ydyn nhw'n cael eu gwerthu i fasnachwr arall a hwnnw'n eu gorfodi i oddef math arall o ecsbloetiaeth.

Mae unigolion yn cael eu masnachu os yw pobl eraill yn dod â nhw i wlad neu'n eu symud o le i le yn y wlad, a bod y rheini'n eu bygwth, yn codi ofn arnynt, yn eu brifo ac yn eu gorfodi i weithio neu i wneud pethau eraill nad ydyn nhw'n dymuno'u gwneud.

I gael y gefnogaeth orau i ddioddefwyr, atgyfeiriwch nhw at wasanaethau arbenigol. I gael cyngor a chymorth, os ydych chi neu rhywun yr ydych yn ei hadnabod mewn perygl o gaethwasiaeth fodern, ffoniwch Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu anfonwch e-bost i gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru.

Canllawiau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus

Canllawiau diogelu plant ar gyfer holl sectorau'r gwasanaethau cyhoeddus

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘Safeguarding Children who may have been trafficked’. Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar arfer da i weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr o bob asiantaeth i'w helpu nhw i ddiogelu'n effeithiol y plant hynny sydd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso gan oedolion, sy'n eu masnachu i mewn i'r DU ac o fewn y DU wedyn er mwyn camfanteisio arnyn nhw.

Mae 'Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004' yn darparu canllawiau ar ddiogelu pob plentyn. Dylid eu dilyn a'u defnyddio ar y cyd â'r canllawiau ar arfer da.

Fel rhan o Weithdrefnau Diogelu Plant  Cymru Gyfan, mae 'Cyfarwyddyd Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Diogelu Plant a Allai Fod Wedi Cael Eu Masnachu' yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud i ddiogelu plant sy’n cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin gan oedolion sy’n eu masnachu i mewn ac oddi fewn i’r DU ac yn cam-fanteisio arnynt. Mae’n rhoi crynodeb o gyfrifoldebau ar draws ystod o sectorau, gan gynnwys y sector gwirfoddol a gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a pharciau.

Mae gweithdrefnau diogelu’n gymwys ym mhob sector.

Mae Llwybr Diogelu Cymru mewn perthynas â Chaethwasiaeth Fodern yn cefnogi unigolion ac asiantaethau yng Nghymru. Mae’n disgrifio beth i’w wneud os byddwch yn dod ar draws rhywun yr ydych chi’n amau sy’n ddioddefwr caethwasiaeth fodern.

Staff Gofal Iechyd

Mae’r Swyddfa Gartref wedi llunio canllawiau i staff gofal iechyd ar gyfer adnabod a chefnogi dioddefwyr masnachu pobl. Mae’n nodi camau gweithredu ar gyfer staff gofal iechyd sy’n meddwl bod cwsmer neu glaf yn ddioddefwr masnachu pobl. Mae’r canllawiau hyn yn Saesneg yn unig.

Mae’r ddogfen yn berthnasol i bob math o leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys adrannau damweiniau ac achosion brys, gofal sylfaenol, gwasanaethau iechyd rhyw a chlinigau meddygaeth genhedlol-wrinol.

Yng Nghymru, mae Bawso wedi’i is-gontractio i ddarparu’r cymorth y mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn ei wneud yn Lloegr.

Addysg

Mae’r canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel cynnwys adrannau ar blant a allai fod wedi’u masnachu ac atal cam-fanteisio ar blant. Mae’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall gwasanaethau addysg gyfrannu at drefniadau diogelu amlasiantaeth. Dylech gyfeirio at y canllawiau hyn a chodi unrhyw faterion gyda’ch arweinydd diogelu neu’ch uwch swyddog penodol os ydych mewn ysgol.