Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cafcass Cymru yn croesawu lansio Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru ac yn cymeradwyo'r egwyddorion a'r addewidion a nodir ynddi.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnaeth Nigel Brown, y Prif Swyddog Gweithredol, lofnodi'r Adduned Rhianta Corfforaethol ar ran Cafcass Cymru a dywedodd

“Mae Cafcass Cymru yn croesawu lansio'r Siarter sy'n ymgorffori gwerthoedd ac egwyddorion craidd ein sefydliad. Wrth i ni ddatblygu ein Fframwaith Ymarfer newydd, byddwn yn gweithio i sicrhau y bydd yr addewidion sydd wedi eu gosod yn y Siarter yn rhan annatod o'r ffordd rydym yn gweithio gyda phlant a'u teuluoedd sy'n destun achosion llys teulu.”