Adborth, canmoliaeth a chwynion


Rydyn ni am gael eich adborth
Rhowch wybod i ni am eich profiad o weithio gyda'ch Cynghorydd Llys Teulu neu Ymarferydd Cafcass Cymru yn ystod eich achos llys teulu.
Rydyn ni am glywed gennych chi os oeddech chi'n teimlo ein bod wedi eich helpu a'ch cefnogi, neu os hoffech chi ddweud wrthym am rywbeth y gallen ni fod wedi ei wneud yn well.
Defnyddiwch ein ffurflen i roi eich adborth i ni.
Mae angen i ni gael y wybodaeth hon er mwyn dysgu a gwella'r gwasanaeth rydyn ni'n ei roi i blant a phobl ifanc eraill a all fod yn mynd drwy brofiad tebyg i chi.
Rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi ddweud wrthon ni os nad oedd pethau'n teimlo'n iawn i chi a/neu os hoffech chi wneud cwyn i ni am rywbeth a wnaethon ni. Darllenwch ein canllaw i blant i gael gwybodaeth fanylach.
Gallwch chi roi adborth i ni mewn sawl ffordd wahanol. Mae ein taflen ffeithiau i blant yn esbonio'r ffyrdd gwahanol y gallwch chi ddweud wrthon ni am rywbeth oedd wedi gwneud i chi deimlo'n anhapus a beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi'n gwneud hynny. Byddwn ni'n ymateb o fewn un diwrnod gwaith fel arfer i roi gwybod i chi ein bod wedi cael eich cwyn a gallwch chi ddisgwyl clywed gennyn ni eto o fewn 15 diwrnod gwaith.
Sut y gallwch chi roi adborth i ni
Os hoffech chi roi adborth ar eich profiad gyda ni, dyma ffurflen y gallwch chi ei defnyddio. Gwnaethon ni ofyn i'r bobl ifanc ar y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ein helpu i wneud y ffurflen mor hawdd â phosibl i chi ei llenwi. Cliciwch ar y ddolen i ddysgu mwy am y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc.
Ffyrdd eraill y gallwch chi roi adborth i ni:
- Gallwch chi siarad â'ch Cynghorydd Llys Teulu / Ymarferydd Cafcass Cymru a rhoi unrhyw adborth yr hoffech ei rannu iddo.
- Gallwch chi ein ffonio ni ar 0800 4960650 (rhwng 9am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
- Gallwch chi anfon e-bost aton ni: MyVoiceCafcassCymru@gov.wales.