Anna Sinclair Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Diwygio Cyfraith Breifat
Anna Sinclair yw Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Diwygio Cyfraith Breifat Cafcass Cymru
Ymunodd Anna â Cafcass Cymru ddiwedd 2002. Gweithiodd Anna fel Cynghorydd Llys Teulu ac yna fel Rheolwr Ymarfer yn y sefydliad cyn cael ei phenodi yn Swyddog Datblygu Ymarfer ar gyfer cyfraith breifat yn 2019. Daeth yn Bennaeth Gweithrediadau ar gyfer Diwygio Cyfraith Breifat ym mis Mai 2022. Mae Anna wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig ers dros 20 mlynedd a chyn ymuno â Cafcass Cymru, bu'n gweithio fel Swyddog Prawf a gyda phlant ag anableddau.