Beth Altman Pennaeth Gweithrediadau Gwent
Beth Altman yw Pennaeth Gweithrediadau Gwent Cafcass Cymru
Cymhwysodd Beth fel gweithiwr cymdeithasol yn 2001 ac ers hynny mae wedi gweithio ym maes diogelu plant a phobl ifanc. Ymunodd â Cafcass Cymru yn 2009 fel Cynghorydd Llys Teulu cyn dod yn Rheolwr Ymarfer yn 2012 ac wedyn yn aelod o'r tîm uwch-arweinwyr yn 2015. Yn fwyaf diweddar, mae Beth wedi arwain ym maes diwygio cyfraith breifat, cam-drin domestig a diogelu. Mae Beth yn uwch-arweinydd profiadol a brwdfrydig ag angerdd at waith cymdeithasol a chyflawni canlyniadau diogel i blant.