Gofyn am wybodaeth gennym ni
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i’r cyhoedd gael mynediad at bob math o wybodaeth a gofnodir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae hefyd yn nodi’r eithriadau i’r hawl honno.
Cynnwys
Mae'r Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Nod Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw hybu didwylledd yn y sector cyhoeddus sy’n cynnwys adrannau o’r llywodraeth megis Cafcass Cymru. Mae’r ddeddf yn cynorthwyo’r cyhoedd i gael dealltwriaeth well o’r modd y mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, pam y maent yn gwneud eu penderfyniadau a sut y maent yn gwario’u harian.
Sut gallaf gael mynediad at y wybodaeth?
Eglurir y broses hon yn ein taflen ffeithiau Cael mynediad at Wybodaeth: Rhyddid Gwybodaeth.
Cyn i chi wneud cais, efallai y byddai o gymorth i ystyried y canlynol:
- Ydy’r wybodaeth y mae arnoch ei heisiau ar ein gwefan yn barod?
- Ydy’r wybodaeth ar gael yn barod yn ein cyhoeddiadau?
Os na ellwch ddod o hyd i’r hyn y mae arnoch ei angen, yna gellwch ysgrifennu atom yn CafcassCymru@llyw.cymru
Neu gallwch anfon cais ysgrifenedig at:
Cafcass Cymru,
Y Tîm Cefnogi Canolog,
Sarn Mynach
Cyffordd
Llandudno
Conwy
Cymru
LL31 9RZ
Os gwelwch yn dda, rhowch ddisgrifiad o’r wybodaeth yr ydych yn edrych amdani ynghyd ag enw a chyfeiriad cyswllt. Bydd rhoi cymaint o fanylion ag sydd modd yn rhoi cyfle gwell inni ddarganfod y wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani.
Am arweiniad manwl ar sut i gael mynediad at gwybodaeth ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.