Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gynorthwyo a chefnogi plant

 

Mae fy rhieni yn methu â chytuno ynghylch gyda phwy yr wyf i fyw neu bwy yr wyf i'w weld

Dw'i o Cafcass Cymru, dwi yma i helpu

Weithiau gall teuluoedd sy’n gwahanu ei chael yn anodd cytuno ar yr hyn sydd orau i chi.

Pan fydd hi mor anodd cytuno, efallai y bydd eich teulu yn gofyn i’r llys teulu gynorthwyo i geisio datrys pethau.

Os bydd hyn yn digwydd, efallai  y bydd y llys teulu yn gofyn i rywun o Cafcass Cymru ddod i siarad â chi am y ffordd yr ydych chi’n teimlo.

 

Image
Gwybodaeth i chi

Sut rydym yn mynd i’ch helpu?

Dyma’r wybodaeth rydych angen ei wybod am Cafcass Cymru.

Mae’r llythyr yma’n esbonio ychydig mwy am sut wnawn gysylltu â chi.

 

Beth sy'n digwydd yn y llys teulu?

Mae llys teulu yn edrych ychydig yn debyg i swyddfa.A family court

Yn rhai llysoedd mae pawb yn eistedd o amgylch bwrdd ac mewn rhai eraill bydd y barnwr neu’r ynadon yn eistedd yn y tu blaen.

Nid llys y mae pobl yn mynd iddo os ydyn nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le ydy’r llys teulu. Mae’n lle y mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud megis ble y dylech chi fyw a phwy y dylech chi ei weld.

 

Beth mae barnwr ney ynad yn ei wneud?

Rwy'n farnwr, byddaf yn gwrando ar beth sydd gan pawb ei ddweud

Bydd barnwyr ac ynadon yn gwrando’n ofalus ar yr hyn sydd gan bawb i’w ddweud ac yn rhoi cyfle i bob un siarad.

Fe fyddan nhw hefyd yn gofyn cwestiynau ac eisiau i bawb ddweud y gwir.

Ni fydd barnwyr ac ynadon yn gwisgo wig am eu pen yn y llysoedd teulu.

Fe fyddan nhw’n penderfynu beth sydd orau i chi a beth fydd yn digwydd nesaf.

 

Fydd rhaid i mi fynd i'r llys?

Alla i ysgrifennu llythyr neu dynnu llun ar gyfer y llys?

Does dim rhaid i blant fynd i’r llys.

Os oes arnoch chi eisiau, cewch ysgrifennu llythyr neu wneud llun i ddweud sut yr ydych yn teimlo. Fe wnawn ni eich helpu os oes arnoch chi eisiau help. Byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei anfon i’r llys.

Efallai y bydd arnoch eisiau cyfarfod â’r person sy’n gwneud penderfyniadau yn eich cylch. Os oes arnoch eisiau gwneud hyn, dywedwch wrthym a byddwn yn siarad â’r llys i weld a fydd hynny’n iawn.

Os bydd y barnwr neu’r ynad yn penderfynu eich cyfarfod, efallai wneith hyn gymryd lle tu fewn i adeilad y llys, neu efallai y gwnewch siarad â nhw trwy fideoalwad.

 

Hawliau Plant (CCUHP) a'r gyfraith ynglŷn â phlant

Beth yw hawliau plant?Mae gan bob plentyn hawliau, pwy bynnag ydyw ac o ble bynnag y mae’n dod.

Mae hawliau yn bethau y dylech eu cael fel person, fel yr hawl i gael addysg neu’r hawl i fywyd.

Cytundeb rhwng gwledydd ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac mae’n egluro’r holl hawliau y dylai pob plentyn eu cael.

Os oes arnoch eisiau gwybod rhagor, gellwch wylio’r fideo byr hwn neu fynd i wefan Comisiynydd Plant Cymru.

 

Cymorth a chefnogaeth

Lle gallaf gael rhagor o help?

Os ydych chi’n poeni neu os oes arnoch angen cymorth, gellwch hefyd siarad â Childline ar 0800 1111 neu sgwrsio â nhw ar-lein.

Mae’n llyfryn gwybodaeth yn cynnwys dolenni ar gyfer pobl arall a all cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i chi.

 

Mae arnom eisiau gwybod beth yr ydych chi'n ei feddwl

Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed oddi wrthych chi beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom ni gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.