Neidio i'r prif gynnwy

Weithiau gall teuluoedd ei chael yn anodd cytuno ynglŷn â’r hyn sydd orau i’w plant ac er mwyn gwneud pethau’n haws efallai y byddant yn gofyn i’r llys teulu eu cynorthwyo i ddatrys eu hanghytundeb.

Swyddogaeth Cafcass Cymru

Os byddwn wedi ein penodi gan y llys, byddwn yn dyrannu gweithiwr cymdeithasol cymwysedig, a elwir yn Gynghorwr Llys Teulu  (CLLT) neu Weithiwr Cymdeithasol Llys Teulu (GCLlT) i’ch achos. 4 prif ddyletswydd y person yma yw:

  • hyrwyddo lles plant
  • rhoi cyngor i unrhyw lys(oedd) ynghylch ceisiadau a wneir iddo/iddynt
  • helpu plant i gael eu cynrychioli mewn achos llys
  • darparu gwybodaeth a chyngor i blant.

Nid gwasanaeth cyfreithiol ydym ni ac ni allwn roi cyngor cyfreithiol.

Cyfryngiad

Mewn llawer o achosion, gall cyfryngiad gynnig ateb gwell i anghydfod nag y gellir ei gael mewn llys.

Rhaid i chi fynd i Gyfarfod Gwybodaeth Cyfryngu ac Asesu (MIAM) cyn gwneud cais i’r llys teulu, os na fyddwch yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer eithriad. Cyfarfod preifat gyda chyfryngwr ar eich pen eich hun yw MIAM, lle gallwch siarad yn agored ac yn gyfrinachol, i weld a allai cyfryngu neu ryw broses arall fod yn ddefnyddiol.  Bydd yr MIAM yn eich helpu i ddeall pa opsiynau eraill sy'n bosibl a gallai arwain at ateb gwell a chyflymach na mynd i'r llys.

Gellir gofyn am gyfryngiad hefyd yn ystod proses y llys, ac fe all olygu eich bod yn dod i gytundeb neu ganfod ateb yn gynharach.

Mae gwasanaethau cyfryngu teuluol yn defnyddio gweithwyr proffesiynol hyfforddedig i’ch cynorthwyo chi a rhiant arall eich plant weithio allan gytundeb ynghylch materion megis:

  • trefniadau ar gyfer y plant ar ôl i chi wahanu (a elwir weithiau yn breswylio / byw gyda neu gyswllt / treulio amser gyda)
  • taliadau cynnal plant
  • materion ariannol (er enghraifft, beth i’w wneud gyda’ch tŷ, cynilion, pensiwn, dyledion).

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi datblygu cynllun talebau cyfryngu, lle cynigir cyfraniad o hyd at £500 fesul achos/teulu i gostau cyfryngu achos trefniadau plant, gan annog pobl i geisio datrys eu hanghydfodau y tu allan i’r llys lle bo hynny’n briodol. Mae gwybodaeth lawn am y cynllun talebau ar gael ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol.

Nid yw Cafcass Cymru yn ymgymryd â chyfryngu. Am ragor o wybodaeth ac am fanylion cyfryngwyr ewch i wefan gov.uk neu wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol, os gwelwch yn dda.

Help arall ar gael i rieni sydd wedi gwahanu

Mae gwefan Cefnogi Plant Wrth Wahanu yn ganllaw a chynlluniwyd ar gyfer rhieni sydd wedi gwahanu i’w cynorthwyo i ddeall beth mae eu plant angen fwyaf ganddynt ac i helpu rhieni weithio allan sut i gyfathrebu er mwyn lles pennaf eu plentyn. Gall ddefnyddio Cynllun Rhianta i ddyfeisio trefniadau ar gyfer eich plant fod o gymorth i rai rhieni ddod i gytundeb sy’n diwallu anghenion eu plant.

Awgrymiadau da FJYPB i rieni sydd wedi gwahanu

Plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o achosion cyfraith teulu yw aelodau’r FJYPB. Maent wedi creu’r awgrymiadau da hyn i rieni i'w helpu i feddwl am faterion o bersbectif eu plentyn.

Mae'r FJYPB hefyd wedi creu canllaw i ymarferwyr sy'n cefnogi teuluoedd i drefnu Amser Teulu Diogel.  Nod y canllaw hwn yw helpu pawb dan sylw i flaenoriaethu safbwynt y plentyn neu'r person ifanc wrth gynllunio eu hamser gydag aelodau'r teulu.

Mae cais gyfraith breifat wedi’i wneud i’r llys - beth sy’n digwydd nawr?

Mae pob llys teulu yng Nghymru bellach yn dilyn dull o'r enw Braenaru.  Mae hyn wedi'i gynllunio i helpu teuluoedd i wneud trefniadau i blant yn well a gwneud yn siŵr bod eu lleisiau'n cael eu clywed.  Nod y dull hon yw lleihau'r amser y mae teuluoedd yn ei dreulio yn y llysoedd teulu, gan flaenoriaethu diogelwch y plant a'u rhieni/gofalwyr ar yr un pryd a hyrwyddo dull o ddatrys problemau wrth wneud trefniadau ar gyfer plant.

Os ydych chi wedi bod yn rhan o unrhyw achosion cyfraith breifat o’r blaen, byddwch yn sylwi ar wahaniaeth yn eich cysylltiad â’r llys teulu a Cafcass Cymru. 

Unwaith y bydd y llys yn derbyn cais, fel arfer bydd yn gofyn i Cafcass Cymru baratoi Adroddiad Effaith ar Blant. Fel cam cyntaf, byddwn yn casglu gwybodaeth o wiriadau diogelwch gyda'r heddlu a'r awdurdodau lleol ac yn gwneud trefniadau i siarad â chi ac unrhyw oedolyn arall (oedolion eraill) sy'n rhan o'r achos.  Byddwn fel arfer yn trefnu siarad â'r plant i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw.

Byddwn yn gwrando ar: 

  • Y rhesymau pam mae eich teulu wedi gofyn i'r llys wneud gorchymyn
  • Trefniadau a fyddai’n gweithio orau i'r plant yn eich barn chi
  • Unrhyw bryderon sydd gennych am eich diogelwch a'ch lles chi a'ch plant
  • Barn eich plant

Mae'n bosibl y byddwn am siarad â phobl eraill sy’n ymwneud â’ch teulu, fel ysgol eich plant a gwasanaethau cymorth eraill.

Os yw'n ddiogel gwneud hynny, byddwn yn helpu eich teulu i gytuno ar y trefniadau.  Gall hyn gynnwys sawl cyfarfod neu drafodaeth dros y ffôn, trwy alwad fideo, neu mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Bydd yr Adroddiad Effaith ar Blant yn rhoi crynodeb o'r gwaith rydym wedi'i wneud. Rydym yn anfon yr adroddiad i'r llys ac mae'r oedolion sy'n rhan o'r achos yn derbyn copi hefyd, fel arfer.  Bydd y llys yn penderfynu ar y camau nesaf wedyn.  Os yw gweithiwr cymdeithasol o'r Gwasanaethau Plant wedi'i neilltuo ar gyfer eich plant, mae'n bosibl y bydd y llys yn gofyn iddo wneud y gwaith hwn ac ysgrifennu'r adroddiad ynghylch yr effaith ar y plentyn yn ein lle.

Cewch fanylion ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno cais i'r llys teulu ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol arall, yn ein llythyr cyflwyniad.

Beth sy’n digwydd yn y Llys Teulu?

Mae’r llys teulu yn cynorthwyo i ddatrys anghytundebau rhwng teuluoedd ac yn gymorth i amddiffyn plant a phobl ifanc a all fod mewn perygl o niwed.

Materion teuluol yn unig sy’n cael eu penderfynu mewn llys teulu. Er ei fod yn edrych fel unrhyw lys arall, mae’n ceisio bod yn llai ffurfiol.

Y bobl sydd â rhan yn yr achos

Weithiau bydd y ‘partïon’ (y bobl sydd â rhan yn yr achos, rhieni neu’r awdurdod lleol) yn cael cymorth cyfreithiol; gall hyn fod yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Mae’r bobl hyn yn gwybod am gyfraith plant a theulu ac fe fyddant yn siarad â’r barnwr i egluro dymuniadau a theimladau’r bobl y maent yn eu cynrychioli.

Weithiau bydd y ‘partïon’ yn eu cynrychioli eu hunain yn y llys. Gelwir y ‘partïon’ hyn yn ‘achwynwyr personol’ ac mae ganddynt yr hawl i annerch y llys yn bersonol, yn union fel y byddai cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn ei wneud. Os ydych chi’n  achwynwr personol (LiP), gellwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chymorth yn ein hadran Cymorth a Chefnogaeth isod.

Ni allwn ni gynnig unrhyw gyngor cyfreithiol. Os byddwch yn ysgaru neu’n gwahanu ac os nad oes gennych gyfreithiwr, efallai y cewch wybodaeth ddefnyddiol ar y gwefannau hyn bywydau teuluol, gwybodaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder am wneud trefniadau ar gyfer plant.

Mae’r barnwyr yn y llys teulu wedi cael hyfforddiant arbennig cyn iddynt ddechrau gwneud penderfyniadau. Bydd y barnwr yn gofyn cwestiynau ac yn gwrando ar safbwyntiau pawb ynghylch yr anghytundeb cyn gwneud penderfyniad ac efallai y bydd yn holi arbenigwyr, megis gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr llys teulu, i’w gynorthwyo i wneud ei feddwl i fyny.

Ni fydd Cafcass Cymru byth yn cymryd rhan mewn achos ond os bydd y llys yn gofyn i ni.

Rhaglen Gweithio Gyda’n Gilydd er mwyn Plant (WT4C)

Cafodd rhaglen Gweithio gyda'n gilydd er mwyn Plant (WT4C) ei chreu er mwyn helpu teuluoedd i ddeall beth sydd ei angen fwyaf ar blant pan fyddent yn gwneud trefniadau i dreulio amser gyda rhieni sydd wedi gwahanu neu aelodau pwysig eraill o'u teulu. 

Mae’r rhaglen ar gyfer oedolion sydd angen cymorth i ddod i gytundeb ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer eu plentyn/plant ac i ddysgu sut i reoli unrhyw anawsterau.

Beth yw’r rhaglen?

WT4C yw’r hyn y mae’r llys yn ei alw yn Weithgaredd Trefniadau Plant. Mae’r rhain wedi eu bwriadu i hyrwyddo, annog a chynnal cyswllt rhwng plant a’r rhiant/aelod o’r teulu nad ydynt yn byw gydag ef/hi ar hyn o bryd.  Mae’r WT4C yn cefnogi’r egwyddor y dylai plant gael perthynas ystyrlon gyda’r ddau riant yn dilyn gwahanu, cyn belled â bod hynny’n ddiogel ac er budd pennaf y plentyn.

Nod y cwrs yw cefnogi rhieni i ganolbwyntio ar anghenion eu plentyn/plant, lleihau unrhyw wrthdaro a gwella eu cyfathrebu.

Dim ond darparwyr annibynnol, sydd wedi derbyn yr hyfforddiant priodol, sy’n darparu’r cwrs WT4C. Nid yw’n cael ei ddarparu gan Cafcass Cymru.

Does dim tâl am fynychu’r rhaglen WT4C.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar taflen ffeithiau WT4C.

Gwasanaethau Cyswllt

Darperir Gwasanaethau Cyswllt gan sefydliadau annibynnol. Amgylcheddau sy'n canolbwyntio ar y plentyn ydynt, sy'n cynnig lleoedd diogel, cyfeillgar a niwtral i blant dreulio amser gyda rhieni neu bobl eraill sy'n bwysig iddynt. Maent yn cefnogi rhieni i'w helpu i flaenoriaethu anghenion eu plant ar ôl iddynt wahanu fel bod modd dod o hyd i ddatrysiadau hirdymor er mwyn i'r plant gadw mewn cysylltiad â'r ddau riant a'r teulu ehangach lle y bo'n ddiogel iddynt wneud hynny. Dim ond darparwyr Cyswllt sydd wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Canolfannau Cyswllt i Blant y mae Cafcass Cymru yn atgyfeirio atynt ac yn cydweithio â nhw.

Cyswllt â chymorth 

Lle nad oes materion risg, gallai teuluoedd ddewis hunanatgyfeirio at ganolfan gyswllt i blant a gefnogir ac ariannu hynny, er mwyn galluogi'r plant i gwrdd â rhiant neu aelod arall o'r teulu nad ydynt yn byw gydag ef a threulio amser gyda'r unigolyn hwnnw. Gall teuluoedd ddod o hyd i'w Canolfan Gyswllt i Blant achrededig leol drwy fynd i wefan y Ganolfan Gyswllt i Blant Cenedlaethol a defnyddio'r swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i Ganolfan Gyswllt i Blant

Cyswllt dan oruchwyliaeth

Gellir comisiynu cyswllt dan oruchwyliaeth, a elwir hefyd yn amser teulu dan oruchwyliaeth, gan Cafcass Cymru fel rhan o asesiad, i brofi trefniadau amser teulu a sicrhau bod y plentyn/plant yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel i dreulio amser gyda'i riant cyn i'r llys wneud gorchymyn terfynol.  Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaeth y mae Cafcass Cymru yn ei gomisiynu yn ein taflen ffeithiau. Gall canolfannau cyswllt dan oruchwyliaeth hefyd ganiatáu i deuluoedd ariannu a hunangyfeirio.  Gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i wefan Ganolfan Gyswllt i Blant Genedlaethol am fwy o wybodaeth.

Profi DNA

Os bydd y llys teulu yn gorchymyn bod prawf DNA i gael ei gynnal i gadarnhau pwy yw rhiant y plentyn mewn achos Trefniant Plentyn (Adran 8), y trefniadau presennol yw y bydd y llys yn anfon cais i Cafcass Cymru ac y byddwn yn cyfarwyddo ein darparwr DNA Legal   hyrwyddo casglu’r sampl DNA ar ran y llys.

Mae’r prawf am ddim.

Cymorth a chefnogaeth

Achwynwr Personol (LiP)

Weithiau bydd ar y ‘partïon’ eisiau eu cynrychioli eu hunain yn y llys. Gelwir y partïon hyn yn ‘achwynwyr personol’ ac mae ganddynt yr hawl i annerch y llys yn union fel y byddai cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn ei wneud. Os ydych chi yn achwynwr personol, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y ffilm fer hon a gynhyrchwyd gan y Cyngor Cyfiawnder Teuluol. Mae’r ffilm yn edrych ar y ffordd y dylai unigolyn heb gyfreithiwr ei gynrychioli ef neu hi ei hun yn y llys ynghylch problem deuluol. Mae’r ffilm yn edrych ar y cwestiynau yr oedd pobl, fu yn eu cynrychioli hwy eu hunain, yn dweud eu bod yn poeni fwyaf amdanynt ac mae’n rhoi awgrymiadau syml ar gyfer cyflwyno eich achos.

Cam-drin domestig

Cam-drin domestig yw un person yn camddefnyddio grym a rheolaeth dros un arall o fewn perthynas agos neu deuluol. Gall fod yn gam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol, ariannol neu rywiol, neu gyfuniad o’r rhain i gyd.

Os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig, gellwch gysylltu â Llinell Gymorth Live Fear Free: 0808 8010800 info@livefearfreehelpline.wales am gymorth, cyngor a gwybodaeth. Mae Live Fear Free yn llinell gymorth cam-drin domestig 24 awr am ddim i bawb.

Beth fydd Cafcass Cymru yn ei wneud?

Gellwch weld mwy o wybodaeth am gam-drin domestig a sut y cewch eich cynorthwyo yn y llys yn ein taflen ffeithiau.
 

Os cawn ar ddeall fod yna gam-drin domestig yn eich achos chi yn awr neu yn y gorffennol, byddwn yn dweud wrth y llys fel y gall y barnwr wneud penderfyniad ynghylch eich plant a rhoi blaenoriaeth i’w diogelwch.

Efallai y bydd dioddefwyr cam-drin domestig sy’n bodloni rhai meini prawf yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol; cewch fwy o wybodaeth am hyn yn y fan hon.

Gallwch ddygsu mwy ynghylch ymrwymiad parhaus a diwyro Cafcass Cymru i wella canlyniadau i blant a'u teuluoedd sy'n oroeswyr/dioddefwyr cam-drin domestig, drwy ymarfer gwaith cymdeithasol medrus ac sy'n ystyriol o drawma mewn perthynas â cham-drin domestig yn ein Datganiad Diweddaru Gwella a Newid Diwylliannol Mewn Perthynas â Cham-drin Domestig Gorffennaf 2024.

Sut ydym yn cefnogi anghenion amrywiol

Mae pawb yn unigryw ac ag anghenion gwahanol ac efallai y bydd angen inni roi cymorth pellach ar gyfer rhai o’r anghenion hynny – er enghraifft, er mwyn gallu cyfathrebu mor effeithiol â phosibl. Yn Cafcass Cymru, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod unigoliaeth pawb yn cael ei gwerthfawrogi ac i weithio gyda chi mewn ffordd sy'n cefnogi a dathlu gwahaniaeth, ynghyd â sicrhau bod dymuniadau a theimladau plant yn cael eu deall a'u clywed yn gywir gan y llys teulu. Byddwn yn gofyn ichi am eich amrywiaeth er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried eich anghenion.

Rhowch wybod inni cyn gynted â phosibl os bydd angen cymorth, ystyriaeth neu gymorth ychwanegol gennym arnoch chi neu’ch plant. Os nad yw'r Saesneg eich mamiaith ac rydych yn teimlo y byddech yn elwa ar gyfieithydd neu gyfieithiad o'n dogfennau, rhowch wybod inni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a'n taflen ffeithiau.

Esbonio penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Llys Teulu i blant

Mae gwaith ymchwil yn dangos i ni ei bod yn bwysig bod plant yn deall beth sydd wedi cael ei benderfynu yn y Llys Teulu. Oni bai eu bod yn ifanc iawn, mae plant yn debygol o wybod bod newidiadau'n digwydd. 

Nod ein canllaw i rieni a gofalwyr yw  helpu i gefnogi rhieni a gofalwyr eraill pan fyddan nhw'n rhannu penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud yn y Llys Teulu gyda phlant.

Sefydliadau eraill ac elusennau

Gwybodaeth am ble i ddod o hyd i gymorth pellach i oedolion gan sefydliadau ac elusennau allanol.

AFA Cymru

Gwasanaeth cynghori i aelodau o’r cyhoedd ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol yng Nghymru – yn darparu cymorth a gwybodaeth am fabwysiadu, maethu ac olrhain perthnasau i’r holl rai yr effeithiwyd arnynt mewn unrhyw ffordd.
www.afacymru.org

BAWSO

Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i bobl Dduon a phobl o dras Ethnig Lleiafrifol yng Nghymru
www.bawso.org.uk

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn bodoli i weithredu, rhoi cymorth a chyngor i ofalwyr ledled Cymru.
carers.org

Cyswllt Teulu

Mae Cyswllt Teulu yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd â phlant anabl, waeth beth fo’u cyflwr neu anabledd.
contact.org.uk

Bywydau Teuluoedd

Cymorth rhianta a chefnogaeth i’r teulu gan Fywydau Teuluoedd (Parentline Plus gynt) drwy ein gwefan, sgwrs ar-lein, llinell gymorth a dosbarthiadau magu plant.
www.familylives.org.uk

Mae’r Ddau Riant yn Cyfrif

Rydym yn darparu cyngor arbenigol, cymorth ymarferol ac yn ymgyrchu dros rieni sengl.
www.bpmuk.org

HAFAL

Ni yw elusen bennaf Cymru ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr.
www.hafal.org

Cymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant (NACCC)

Cadw rhieni mewn cysylltiad â’u plant ar ôl gwahanu.
naccc.org.uk

Relate Cymru

Cynghori ynghylch Perthynas, Therapi Rhywiol A Chyswllt â Phlentyn a Gynhelir yng Nghymru
www.relate.org.uk

SafeLives

Elusen genedlaethol sy’n ymroi i roi terfyn ar gam-drin domestig.
www.safelives.org.uk

Cymorth i Ferched Cymru

Cymorth i Ferched Cymru yw’r elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi terfyn ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn merched.
www.welshwomensaid.org.uk

Meddyliau Ifanc

Cymorth am ddim, cyfrinachol ar-lein a thros y ffôn i oedolion sy’n poeni am broblemau emosiynol, ymddygiad neu iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc.
youngminds.org.uk

Magu Plant. Rhowch amser iddo

Annog ymddygiad positif, hybu hyder eich plentyn a chefnogi datblygiad.
https://llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo

Dewis Cymru

Mae Dewis Cymru yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ynglŷn gwasanaethau ar gyfer oedolion. Trwy ddarllen y tudalennau yma, gallwch ganfod gwybodaeth a ellir helpu chi ganolbwyntio ar beth sydd o bwys i chi nawr. Mae pob tudalen yn cynnwys dolen i’w cyfeiriadur adnoddau, lle gewch wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol neu genedlaethol a ellir fod o gymorth.
https://www.dewis.cymru/adults

Teulu Cymru

Mae Teulu Cymru yma i gyfeirio rhieni, gofalwyr a theuluoedd plant 0 i 18 oed tuag at y wahanol ffynonellau cymorth ymarferol ac ariannol gan Lywodraeth Cymru. O awgrymiadau rhianta a chyngor datblygu arbenigol, i helpu gyda chostau gofal plant - mae Teulu yn ei gwneud ychydig yn haws cael gafael ar y cymorth hwn mewn un lle.
https://llyw.cymru/teulucymru

Diogelu plant mewn byd digidol

Mae'n bwysig cadw'ch plentyn yn ddiogel ar-lein. Mae'r adnodd hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr yn rhoi arweiniad a gweithgareddau defnyddiol i ddatblygu dealltwriaeth o faterion diogelwch ar-lein a chefnogi plant pan maent adref. Gellir defnyddio'r gweithgareddau i ddysgu plant am bwysigrwydd defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg.

Hwb, Cadw'n ddiogel ar-lein

Rhowch eich adborth inni

Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed bob amser oddi wrthych beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.