Gweithio i Cafcass Cymru
Rydym yn cynnig cyfle i unigolion weithio mewn swyddi uchel eu proffil i wella bywydau plant ledled Cymru sy’n destun achosion Llys Teulu.
Cynnwys
Gwybodaeth am ein staff
Mae dyletswyddau staff Cafcass Cymru yn unigryw ar draws Llywodraeth Cymru. Maent yn cynnig y cyfle i weithio mewn swyddi sy’n cynorthwyo ac yn darparu gwasanaeth yn uniongyrchol i blant a theuluoedd sy’n rhan o wasanaeth y llys teulu, yn aml ar adegau anodd iawn yn eu bywydau.
Mae Cafcass Cymru yn cynnwys yn bennaf swyddi ymarferwyr gwaith cymdeithasol arbenigol gyda chefnogaeth bwrpasol gan staff cefnogi busnes gweithredol yn y timau rhanbarthol a’r tîm canolog.
Rhaid i’n staff ni i gyd, sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag achosion llys teulu, fod yn weithwyr cymdeithasol profiadol, cymwysedig, sydd eisiau gwella bywydau plant yng Nghymru. Rhaid iddynt fod wedi eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Recriwtio cyffredinol
Gan fod Cafcass Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru, mae ein swyddi ni i gyd yn cael eu hysbysebu ar borth swyddi Llywodraeth Cymru a dyna lle y gwneir cais.
Dewch yn ymarferydd a delir
Mae Cafcass Cymru yn gwahodd ceisiadau gan unigolion cymwys a phrofiadol i ffurfio adnodd proffesiynol o ymarferwyr a delir i weithio ar sail ad hoc.
Byddech yn cynorthwyo timau gweithredol wrth ddiogelu a hyrwyddo lles plant unigol sy'n rhan o Achosion Teulu ac yn rhoi cyngor i'r llysoedd teulu er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl i'r plant hyn. Mae profiad o ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i'r llys yn hanfodol
Darllenwch ein pecyn gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth. Os hoffech wneud cais, lawrlwythwch a llenwch ein ffurflen gais a'i dychwelyd i CafcassCymruHR@llyw.cymru.