Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gynorthwyo pobl ifanc a’u cefnogi.

Os bydd pobl yn dechrau poeni amdanoch nad ydych yn derbyn y gofal priodol neu eich bod mewn perygl o niwed, gall achos gofal gychwyn.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i’r awdurdod lleol sicrhau eich bod yn ddiogel. Byddant yn cychwyn yr hyn yr ydym ni’n ei alw yn ‘achos gofal’.

Er mwyn helpu i wneud pethau’n well, efallai y bydd angen i’r awdurdod lleol ofyn i’r llys teulu am gymorth.

Mae’r fideo byr hwn yn rhoi ychydig mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn wedi derbyn cais i gynorthwyo.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd Cynghorwr Llys Teulu (CLlT), neu Warcheidwad Plant yn dod i’ch gweld ac yn gwrando ar y ffordd yr ydych chi’n teimlo ynglŷn â phopeth. Maent yn bobl sydd wedi eu hyfforddi’n broffesiynol sy’n gweithio i Cafcass Cymru ac eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich cadw’n ddiogel ac yn iach.

Fe fyddant yn sicrhau bod y barnwr neu’r ynad sy’n gwneud y penderfyniad yn eich cylch chi a’ch teulu yn cael clywed sut yr ydych chi’n teimlo a beth hoffech chi ei weld yn digwydd. 

Byddant yn gwneud hyn drwy ysgrifennu adroddiad i esbonio yr hyn rydych chi wedi ei ddweud a beth mae’r bobl sy’n malio amdanoch chi wedi ei ddweud. Gall unrhyw beth yr ydych chi wedi bod yn siarad amdano gyda Gweithiwr Cafcass Cymru fynd i mewn i’r adroddiad, a gall eich teulu a phobl eraill dan sylw hefyd weld yr adroddiad. Os ydych chi’n poeni am hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym ac fe allwn ni helpu.

Efallai y bydd yr adroddiad yn cynnwys:

  • rhai neu'r cyfan o’r materion yr ydych chi wedi eu trafod gyda ni
  • eich dymuniadau a’ch teimladau ynglŷn â’ch sefyllfa
  • pam mae pobl yn bryderus yn eich cylch
  • yr hyn yr ydym ni’n meddwl sydd orau i chi.

Beth fydd yn digwydd yn y llys?

Mae llys teulu yn edrych ychydig yn debyg i swyddfa. Yn rhai llysoedd mae pawb yn eistedd o amgylch bwrdd ac mewn rhai eraill bydd y barnwr neu’r ynad yn eistedd yn y tu blaen. Nid llys y mae pobl yn mynd iddo os ydynt wedi gwneud rhywbeth o’i le yw’r llys teulu; mae’n lle y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud er mwyn gwneud pethau’n well i chi a’ch teulu. Weithiau bydd y ‘partïon’ (y bobl sydd â rhan yn yr achos, fel eich rhieni neu’r awdurdod lleol) yn cael cymorth cyfreithiol arbennig; gall hwn fod yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr.

Mae’r bobl hyn yn gwybod am gyfraith plant a theuluoedd ac fe fyddant yn siarad â’r llys i egluro dymuniadau a theimladau y bobl y maent yn eu cynrychioli. Weithiau bydd y ‘partïon’ yn eu cynrychioli eu hunain ac yn siarad yn uniongyrchol â’r llys.

Bydd gan blant a phobl ifanc mewn achosion gofal hefyd gyfreithiwr i’w cynorthwyo. Twrnai yw’r cyfreithiwr sy’n gweithio gyda ni i sicrhau bod y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud dros blant.

Mae’r barnwyr a’r ynadon yn y llys teulu wedi cael eu hyfforddi’n arbennig cyn dechrau gwneud penderfyniadau yn y llys teulu.

Bydd y barnwyr a’r ynadon yn darllen yr adroddiad ac yn meddwl am y cyngor gennym ni. Byddant yn gwrando ar yr hyn sydd gan bawb i’w ddweud cyn gwneud penderfyniad ar yr hyn y maent yn meddwl sydd orau i chi. Weithiau dydy hynny ddim yr un fath â’r hyn yr oedd arnoch chi ei eisiau ond fe fydd y llys yn gwneud bob amser yr hyn y mae’n meddwl sydd orau i chi.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y llys?

Os bydd y llys yn penderfynu nad ydych yn ddiogel gartref, byddant yn gofyn i’r awdurdod lleol wneud trefniadau diogel i chi fel eich bod yn derbyn y gofal priodol ac yn cael eich cadw’n ddiogel.

Os bydd y llys yn penderfynu y dylech fyw yn rhywle arall er mwyn i chi gael bod yn ddiogel, bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn ceisio gweld a ellwch chi aros gyda rhywun yr ydych yn ei adnabod yn barod fel eich nain a’ch taid neu rai o gyfeillion y teulu. Os nad yw hynny’n bosibl, efallai y bydd rhaid i chi fynd i fyw gyda phobl sy’n cael eu galw’n ‘ofalwyr maeth’.

Mae gofalwyr maeth yn bobl sy’n dewis rhoi cartref i bobl ifanc sydd angen lle diogel i fyw. Os oes gennych chi frawd neu chwaer, bydd pawb yn gwneud eu gorau i sicrhau eich bod yn aros efo’ch gilydd.

Ni fyddwch yn gallu gweld eich rhieni os bydd y llys yn meddwl nad yw’n ddiogel i ganiatáu hynny, ond efallai y bydd y llys hefyd yn penderfynu ei bod yn iawn i chi weld eich rhieni o bryd i’w gilydd. Bydd y llys yn dweud pa mor aml y dylech weld eich rhieni a ble y dylech eu cyfarfod. Efallai y bydd hyn y lle yr ydych chi’n byw neu mewn lle arall fel canolfan gyswllt.

Ar ôl y cyfarfod yn y llys byddwn yn ceisio sicrhau bod rhywun yn esbonio’r hyn mae’r llys wedi ei benderfynu a sut y bydd yn effeithio arnoch chi.

Os bydd arnoch eisiau siarad â rhywun, dylai hyn fod gyda phwy bynnag yr ydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus gydag ef/hi. Gall hyn fod gyda ni, eich rhieni/gofalwyr neu gellwch weld rhestr o sefydliadau sy’n helpu plant a phobl ifanc yn ein hadran ‘Cymorth a Chefnogaeth’ isod.

Hawliau Plant (CCUHP) a’r gyfraith ynglŷn â phlant

Mae gan bob plentyn hawliau, pwy bynnag ydyw ac o ble bynnag y mae’n dod. Mae hawliau yn bethau y dylech eu cael fel person, fel yr hawl i gael addysg neu’r hawl i fywyd.

Cytundeb rhwng gwledydd ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac mae’n egluro’r holl hawliau y dylai pob plentyn eu cael.

Cymorth a chefnogaeth

Rydym ni’n gweithio gyda llawer o bobl wahanol i sicrhau’r gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Os oes arnoch chi eisiau cael mwy o gymorth, edrychwch ar ein rhestr isod, adolygu ein llyfryn gwybodaeth neu siaradwch â ni ac fe fyddwn ni’n hapus i’ch cynorthwyo.

Sefydliadau eraill ac elusennau

Childline

Cewch gysylltu â Childline ynghylch unrhyw beth – does yr un broblem yn rhy fawr nac yn rhy fychan. Beth bynnag yr ydych yn poeni amdano, mae’n well iddo ddod allan nag i chi ei gadw i mewn.
www.childline.org.uk

Nyas Cymru

Mae’n darparu cynrychiolaeth eiriol gyfrinachol i blant a phobl ifanc agored i niwed ar draws Cymru ar ran awdurdodau lleol.
www.nyas.net/nyas-cymru

Kooth

Gwasanaeth cwnsela ar-lein cyfrinachol, dienw ac am ddim ar gyfer pobl ifanc 11-19 mlwydd oed. Cewch siarad â chynghorwr hyfforddedig am unrhyw beth sydd yn eich poeni chi.
www.kooth.com

Bullies Out

Cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i unigolion, ysgolion, lleoliadau ieuenctid a lleoliadau cymunedol y mae bwlio wedi effeithio arnynt.
www.bulliesout.com

Tros Gynnal

Darparwr eiriolaeth blaenaf Cymru, yn cefnogi’r plant a’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru. https://www.tgpcymru.org.uk

Meic

Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed yng Nghymru.
www.meiccymru.org

Comisiynydd Plant Cymru

Mae’n sefyll dros blant a phobl ifanc a’i nod yw sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu a’u lleisiau yn cael eu clywed.
www.childcomwales.org.uk

Gweithredu dros Blant

Mae’n darparu cymorth pwrpasol i bobl ifanc agored i niwed a’r rhai sydd wedi eu hallgáu’n gymdeithasol ar draws y DU.
www.actionforchildren.org.uk

Magu Plant. Rhowch amser iddo

Annog ymddygiad positif, hybu hyder eich plentyn a chefnogi datblygiad.
https://llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo

Dewis Cymru

Mae Dewis Cymru yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ynglŷn gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Trwy ddarllen y tudalennau yma, gallwch ganfod gwybodaeth a ellir helpu chi ganolbwyntio ar beth sydd o bwys i chi nawr. Mae pob tudalen yn cynnwys dolen i’w cyfeiriadur adnoddau, lle gewch wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol neu genedlaethol a ellir fod o gymorth.
https://www.dewis.cymru/children-and-young-people

Sut ydym yn cefnogi anghenion amrywiol

Mae pob plentyn ac unigolyn ifanc yn unigryw ac ag anghenion gwahanol. Yn Cafcass Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chi mewn ffordd sy'n gweddu orau i'ch anghenion personol. Byddwn yn ceisio deall eich unigoliaeth er mwyn gweithio gyda chi mewn ffordd sy'n cefnogi ac yn dathlu gwahaniaeth, ac sy'n eich galluogi i fynegi eich dymuniadau a'ch teimladau fel bod y rhain yn gallu cael eu hystyried gan y llys teulu. Er enghraifft, os nad ydych fel arfer yn siarad Saesneg, mae’n bosibl y byddwn yn gallu dod o hyd i rywun i siarad yn yr iaith yr ydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus ynddi; gallai hefyd fod yn bosibl cael y llyfrynnau yn eich iaith, felly rhowch wybod inni pe hoffech ddarllen ein deunydd yn eich iaith eich hun. Rydym wedi gweithio gyda llawer o bobl ifanc ag anghenion gwahanol, felly peidiwch â phoeni am roi gwybod inni.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a'n taflen ffeithiau.

Rhowch eich adborth inni

Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed bob amser oddi wrthych beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.