Matthew Pinnell Dirprwy Brif Weithredwr
Matthew Pinnell yw Dirprwy Brif Weithredwr Cafcass Cymru
Ymunodd Matthew â Cafcass Cymru fel Cynghorwr Llys Teulu ym mis Mawrth 2002 ac ym mis Gorffennaf 2005 daeth yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol. Yn dilyn ailstrwythuro Cafcass Cymru daeth yn Bennaeth Gweithrediadau Gwent ym mis Gorffennaf 2011. Ym mis Mawrth 2018, penodwyd Matthew yn Ddirprwy Brif Weithredwr. Mae Matthew yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig gyda phrofiad helaeth o waith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd, gydag adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a’r trydydd sector.