Suzanne Burgoyne Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru
Suzanne Burgoyne yw Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru i Cafcass Cymru
Ymunodd Suzanne â Cafcass Cymru ym mis Chwefror 2010, fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd-ddwyrain Cymru. Yn dilyn ailstrwythuro Cafcass Cymru daeth yn Bennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru. Ymunodd Suzanne â Cafcass Cymru ar ôl gweithio mewn swyddi rheoli yng ngwasanaethau plant awdurdodau lleol. Mae gan Suzanne brofiad helaeth o waith cymdeithasol ymarferol ar y rheng flaen gyda phlant, gydag arbenigedd neilltuol mewn diogelu.