Yr hyn yr ydym ni’n ei wneud
Rydym yn darparu cyngor a chymorth arbenigol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, yn diogelu plant ac yn gwneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed mewn llysoedd teulu ledled Cymru fel bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er eu budd pennaf.
Ni allwn ddod yn rhan o achos cyfraith teulu ond pan fydd y llys yn gofyn i ni.
Nid ydym yn wasanaeth cyfreithiol ac ni allwn roi cyngor cyfreithiol.
Pan fydd y llys yn gorchymyn i ni byddwn yn gweithio gyda chyfreithwyr ac yn eu cyfarwyddo i weithredu ar ran plant.
Os oes gan awdurdod lleol bryderon ynghylch plentyn, gall wneud cais i’r llys am orchymyn llys yn caniatáu iddo amddiffyn y plentyn/plant mewn ffordd gynlluniedig neu ar sail brys. Gelwir hyn yn achos gofal neu achos cyfraith gyhoeddus.
Os bydd rhieni sy’n gwahanu yn penderfynu na allant gytuno ar y trefniadau gorau ar gyfer eu plentyn/plant yn anffurfiol na thrwy gyfryngiad ac rydym ni’n cael ein penodi gan y llys i gynghori, gelwir hwn yn achos Trefniadau Plant neu’n achos cyfraith breifat