Sut rydym yn rheoli ein gwaith o gaffael nwyddau a gwasanaethau
Trosolwg
Rydym yn gwario tua £675 miliwn y flwyddyn yn prynu nwyddau, gwasanaethau, gwaith, TGCh ac offer/gwasanaethau Digidol.
Ein nod yw sicrhau ein bod yn gwario'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn modd a all ddarparu'r budd mwyaf i Gymru.
Ein hymagwedd at gaffael yw:
- gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein holl weithgareddau
- cyflawni blaenoriaethau Gweinidogol a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol
- cefnogi'r gwaith o gyflawni meysydd polisi allweddol megis datgarboneiddio, partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg gan gynnwys cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi
- bod yn atebol i a chydymffurfio â rhwymedigaethau gweithdrefnol, cyfreithiol a rhyngwladol
- ymrwymo i egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru
- canolbwyntio ar sicrhau'r gwerth gorau am arian i Gymru
- symleiddio'r broses ymgeisio ar gyfer cyflenwyr posibl
Rebecca Evans MS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, sy’n gyfrifol am y maes hwn.
Rydw i’n gyflenwr, sut allaf gyflwyno cynnig am gontractau?
GwerthwchiGymru
Rydym yn defnyddio GwerthwchiGymru wrth hysbysebu ein holl gontractau sydd werth dros £25,000.
Mae’n rhaid i gyflenwyr sy’n dymuno trafod busnes â ni gofrestru ar GwerthwchiGymru.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru byddwch yn gallu gweld ein hysbysiadau contract cyfredol.
Rydym yn cyhoeddi ein hysbysiadau contractau caffael a manylion dyfarnu contractau.
Mae cyngor ynghylch ennill contractau Llywopdraeth Cymru ar gael.
eGaffael
Rydym yn defnyddio eDendroCymru ar gyfer cynnal prosesau caffael sydd werth dros £25,000.
eDendroCymru:
- yn rhoi mynediad hwylus i gyflenwyr at ddogfennau tendro
- yn cynnig ffordd ddiogel o ddychwelyd tendrau
- yn cynnig proses dryloyw ar gyfer codi ymholiadau yn ystod y broses dendro.
Sut rydym yn rheoli ein gwaith o gaffael nwyddau a gwasanaethau?
Ein timau
Diwygio Caffael a Pholisi Masnachol
- yn cysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw anghysondeb rhwng Bil Diwygio’r Broses Gaffael y DU sy’n canolbwyntio ar brosesau caffael a Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau cymdeithasol caffael
- yn darparu cyngor ar bolisi caffael, yn gosod safonau ac yn gwirio canlyniadau yn erbyn cyflawni
- yn gweithio i ychwanegu gwerth cymdeithasol, gwella gwerth am arian, a chymell arfer gorau yn fewnol ac ar draws sector cyhoeddus Cymru
Cyswllt: PolisiMasnachol@llyw.cymru
TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru
Gwasanaethau Caffael Corfforaethol
- yn darparu cyngor arfer gorau ar gaffael a llywodraethu masnachol i adrannau o fewn Llywodraeth Cymru.
- yn rheoli contractau mawr nad ydynt yn ymwneud â TGCh
- yn gweithio'n agos gydag adrannau ar draws Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar gyfer yr holl weithgarwch caffael a chymorth ymarferol ar weithgarwch tendro dros £25,000.
Cyswllt: CPSProcurementAdvice@gov.wales
Caffael Masnachol TGCh (CPICT)
Mae wedi’i rannu'n ddau dîm:
Caffael TGCh
- yn darparu cyngor caffael, cymorth/llywodraethu ar gyfer caffaeliadau digidol a TGCh mewnol
- yn cyflawni cytundebau fframwaith Digidol/TGCh a rheoli contractau'n barhaus ar ran y sector cyhoeddus yng Nghymru
- yn cyflawni'r Cynllun Gweithredu Digidol eGaffael ac yn rheoli'r offer eGaffael a ddefnyddir ledled Cymru
- yn arwain yr ymarfer darganfod i sefydlu canolfan ragoriaeth caffael i Gymru
Gwybodaeth Fusnes
- yn cwblhau ystod o wybodaeth reoli, dadansoddiadau a gweithgareddau gwybodaeth fusnes i gefnogi cwsmeriaid mewnol ac allanol
- yn cysylltu â gofynion strategol o’r 'Strategaeth Ddigidol i Gymru', y Cynllun Gweithredu Digidol a 'Datganiad Polisi Caffael Cymru', i ddarparu un fersiwn cywir o adroddiadau Gwybodaeth Fusnes.
Cyswllt: ICTProcurement@llyw.cymru
CaffaelMasnachol.GwybodaethBusnes@llyw.cymru
Cyflenwi a Gallu Caffael Masnachol
Mae wedi’i rannu'n ddau dîm:
Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD)
- yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus ehangach gan gynnwys awdurdodau lleol a GIG Cymru i ddatblygu cytundebau fframwaith cenedlaethol cydweithredol
- yn rhoi polisi ar waith ac yn anelu at sicrhau’r fargen orau i’r sector cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys gwerth cymdeithasol a gwerth am arian
Gweler hwb caffael cydweithredol Cymru ar wefan GwerthwchiGymru.
Gallu Masnachol
- yn cefnogi rhaglen o ddatblygu gallu caffael ehangach, gan arwain ar ddatblygu cyrsiau a meithrin sgiliau i gefnogi sector cyhoeddus Cymru.
Cyswllt: CaffaelMasnachol.Cyflawni@llyw.cymru
GalluMasnachol@llyw.cymru