Neidio i'r prif gynnwys

Timau caffael Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diwygio Caffael a Pholisi Masnachol

  • yn cysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw anghysondeb rhwng Bil Diwygio’r Broses Gaffael y DU sy’n canolbwyntio ar brosesau caffael a Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau cymdeithasol caffael
  • yn darparu cyngor ar bolisi caffael, yn gosod safonau ac yn gwirio canlyniadau yn erbyn cyflawni
  • yn gweithio i ychwanegu gwerth cymdeithasol, gwella gwerth am arian, a chymell arfer gorau yn fewnol ac ar draws sector cyhoeddus Cymru

Cyswllt: PolisiMasnachol@llyw.cymru
TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru

Gwasanaethau Caffael Corfforaethol

  • yn darparu cyngor arfer gorau ar gaffael a llywodraethu masnachol i adrannau o fewn Llywodraeth Cymru.
  • yn rheoli contractau mawr nad ydynt yn ymwneud â TGCh
  • yn gweithio'n agos gydag adrannau ar draws Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar gyfer yr holl weithgarwch caffael a chymorth ymarferol ar weithgarwch tendro dros £25,000.

Cyswllt: CPSProcurementAdvice@gov.wales

Caffael Masnachol TGCh (CPICT)

Mae wedi’i rannu'n ddau dîm:

Y Tîm Cymorth a Hyfforddiant e-Gaffael Digidol

Mae'r tîm hwn yn darparu cyfres o offerynnau e-gaffael sy'n cynnwys:

  • e-DendroCymru – system gaffael electronig, gydymffurfiol a diogel ar gyfer tendro.
  • AWARD – offeryn gwerthuso i gefnogi caffaeliadau strategol, cymhleth neu risg uchel.
  • e-Anfonebu – offeryn ar gyfer prosesu anfonebau electronig.
  • Dunn & Bradstreet - offerynar gyfer dod o hyd i wybodaeth ariannol i gefnogi gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn ystod y broses gaffael a thrwy gydol oes contract.
  • Atamis – offeryn i gyflwyno, casglu, dadansoddi ac adrodd ar wybodaeth am wariant.

Mae canllawiau hyfforddi a chymorth ar gael drwy rai o'r offerynnau. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru

Defnyddwyr Offerynnau e-Gaffael: hysbysiad preifatrwydd

Y Tîm Data

Mae'r tîm hwn yn cefnogi defnyddio technolegau digidol, data a deallusrwydd busnes mewn modd effeithio ar draws maes Caffael Masnachol a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

Rydyn ni’n:

  • Datblygu a chynnal gwybodaeth reoli, dadansoddeg a chynhyrchion gwybodaeth busnes sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau gweithredol, tactegol a strategol.
  • Darparu atebion delweddu data, adrodd a dangosfyrddau i ddarparu dealltwriaeth o weithgareddau, perfformiad a chanlyniadau caffael.
  • Cefnogi ansawdd data, llywodraethu a defnyddio data caffael mewn ffordd effeithiol ar draws systemau a gwasanaethau.
  • Casglu ac adrodd am wybodaeth am reoli fframweithiau Llywodraeth Cymru
  • Cydweithio â rhanddeiliaid ar draws Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach i nodi cyfleoedd ar gyfer arloesi, awtomeiddio a gwella gwasanaethau.
  • Darparu cyngor a chymorth arbenigol ar ofynion data ac adrodd o fewn Caffael Masnachol.

Ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â gwasanaethau Digidol a Data, cysylltwch â: CommercialProcurement.BusinessIntelligence@gov.wales

Cyflenwi a Gallu Caffael Masnachol

Mae wedi’i rannu'n ddau dîm:

Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD)

  • yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus ehangach gan gynnwys awdurdodau lleol a GIG Cymru i ddatblygu cytundebau fframwaith cenedlaethol cydweithredol
  • yn rhoi polisi ar waith ac yn anelu at sicrhau’r fargen orau i’r sector cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys gwerth cymdeithasol a gwerth am arian

Gweler hwb caffael cydweithredol Cymru ar wefan GwerthwchiGymru.

Gallu Masnachol

  • yn cefnogi rhaglen o ddatblygu gallu caffael ehangach, gan arwain ar ddatblygu cyrsiau a meithrin sgiliau i gefnogi sector cyhoeddus Cymru.

Cyswllt: CaffaelMasnachol.Cyflawni@llyw.cymru
GalluMasnachol@llyw.cymru