Neidio i'r prif gynnwy

Sut y bydd Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 yn gymwys i drefniant gwasanaethau iechyd o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Manylion

Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu a diwygio’r Canllawiau Statudol er mwyn iddynt adlewyrchu’r Rheoliadau yn well. Maent yn cael eu hailgyhoeddi yn awr i gefnogi’r gwaith o’u gweithredu, tra bo rhagor o waith polisi a gwaith gweithredol yn parhau ar faterion penodol, gan gynnwys darparu cyngor arbenigol annibynnol o dan Reoliad 29. Bydd swyddogion yn parhau i adolygu’r Canllawiau Statudol, a disgwylir diweddariad pellach o fewn tua 3 mis, yn amodol ar y trefniadau ymarferol sy’n ofynnol. Byddwn yn parhau i gadw rhanddeiliaid yn y darlun.