Neidio i'r prif gynnwy

Argymhellion i Llywodraeth Cymru:

Mater a amlygwyd: Arweinyddiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu dangos arweinyddiaeth gydgysylltiedig glir ar rôl caffael yn y dasg o gyflawni nodau llesiant cenedlaethol Cymru (ac amcanion llesiant cyrff cyhoeddus).

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

1. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Canolfan Ragoriaeth Caffael ar gyfer gwella cydgysylltu, cydweithredu a darparu cymorth ymarferol i gyrff cyhoeddus wrth iddynt arfer eu swyddogaethau caffael, yn benodol mewn perthynas â’r Ddeddf. Byddai datblygu’r Ganolfan Ragoriaeth hon yn gofyn am adolygiad a diwygiad hollgynhwysfawr o’r tirwedd caffael presennol (strwythurau, rhwydweithiau, partneriaethau a mentrau) gyda darpariaeth adnoddau i adeiladu capasiti a chynorthwyo gweithredu.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol gyda’r dewis o gamau gweithredu eraill

Mae’r Comisiynydd wedi argymell sefydlu Canolfan Ragoriaeth Caffael fel ffordd i roi help ymarferol i gyrff cyhoeddus a’u helpu i gydgysylltu a chydweithio’n well wrth iddynt arfer eu swyddogaethau caffael, yn benodol mewn perthynas â’r Ddeddf. Er ein bod yn cytuno mai’r rhain yw’r meysydd sydd angen eu gwella, mae angen gwneud rhagor i ddeall y broblem yn fanylach ac i nodi’r ateb gorau a fyddai’n ennyn cefnogaeth partneriaid a rhanddeiliaid allweddol. Byddwn felly am gynnal Ymarfer Darganfod fel cwrs gweithredu arall i ystyried a phrofi’r syniad o sefydlu Canolfan Ragoriaeth a’r syniad o sefydlu’r Ganolfan Arbenigedd a argymhellwyd gan Banel Arbenigwyr yr Economi Sylfaenol. Rydym eisoes wedi bod yn trafod â’ch swyddfa a’r Panel Arbenigwyr ar amodau’r Ymarfer Darganfod. Bydd yr egwyddor datblygu cynaliadwy yn sail i’r gwaith.

Rydym wedi comisiynu Ymarfer Darganfod arall i edrych ar arfau e-Gaffael ac i ddarparu map digidol newydd ar gyfer y ffordd ymlaen i’r dyfodol. Bydd yr Ymarfer hwn yn dechrau ddiwedd Mehefin ac mae cyflenwr wedi’i benodi i gydweithio â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

2. Dylai’r Rhaglen Lywodraethu newydd nodi’n glir sut y bydd Llywodraeth Cymru’n darparu arweinyddiaeth strategol ac ymrwymiad i gynorthwyo a chyflawni canlyniadau caffael ehangach, gan ddefnyddio iaith sy’n gyson â’r Ddeddf.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Cam gweithredu arall

Rhywbeth i’r Llywodraeth yn unig yw’r Rhaglen Lywodraethu ac mae’n seiliedig ar y mandad a roddwyd gan bobl Cymru. O'r herwydd, nid dyma'r cyfrwng priodol ar gyfer gwireddu’r argymhelliad hwn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi dewisiadau i ni o ran sut orau i wneud y mwyaf o'n cyfraniad at wireddu’r nodau llesiant drwy bennu amcanion llesiant. Mae’n Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ar 15 Mehefin 2021, yn adlewyrchu’r dewisiadau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi arweiniad cryf ym maes caffael.  Yn hytrach na gwneud ymrwymiadau penodol yn y Rhaglen Lywodraethu, rydym am barhau i ddefnyddio Datganiad Polisi Caffael Cymru i roi’r arweiniad strategol. Mae'r Datganiad newydd ei ddiwygio ac mae'n defnyddio iaith sy'n gyson â'r Ddeddf drwyddo.  Mae'r 10 egwyddor yn y Datganiad yn deillio’n uniongyrchol o'r Ddeddf.

Hefyd, bydd y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i lunio strategaeth gaffael ac adroddiad ar gydymffurfiaeth, fydd yn cynnwys rhoi sylw dyledus i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru drwy adroddiad penodol blynyddol.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

3. Dylai Datganiad Polisi Caffael newydd Llywodraeth Cymru ddangos yn glir sut y bydd yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus i wireddu dyheadau’r Ddeddf ym maes caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dylai’r Datganiad hwn, ynghyd â chynnydd tuag at gyflawni’r ymrwymiadau, gael eu hadolygu a'u hadrodd yn flynyddol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn

Cyhoeddwyd Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) diwygiedig ym mis Mawrth 2021 ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid gan gynnwys swyddfa'r Comisiynydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ag eraill i gefnogi Sector Cyhoeddus Cymru i roi meysydd polisi ar waith drwy nodi a datblygu offer, canllawiau a hyfforddiant priodol. Rydym wedi ymrwymo i adolygu bob blwyddyn y modd y caiff y WPPS ei weithredu ac i baratoi adroddiad ar hynny. Bydd hyn yn gyson â’r dyletswyddau adrodd gan gynnwys y rhai yn y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) arfaethedig.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

4. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod pob fframwaith caffael cenedlaethol yn y dyfodol yn cyd-fynd â, ac yn cyfrannu at, y saith nod llesiant cenedlaethol ac yn defnyddio’r pum dull o weithio a nodir yn y Ddeddf.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn

Bydd yr holl fframweithiau a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant cenedlaethol, yn cyfrannu atynt ac yn defnyddio’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf. Bydd hyn yn berthnasol i bob cytundeb lle mae’r cam cynllunio caffael yn dechrau ar ôl 1 Gorffennaf 2021 a bydd strategaeth gaffael pob cytundeb yn eu cynnwys. Bydd aelod o Dîm Uwch Arweinwyr Caffael Masnachol yn adolygu’r strategaethau ac yna’n eu cyhoeddi ar gwerthwchigymru.

Mater a amlygwyd: Cyfathrebu

Mae yna gyfathrebu ac integreiddio gwael rhwng gwahanol flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r diffyg cefnogaeth sydd ar gael i gyrff cyhoeddus fedru sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu’n effeithiol ar lawr gwlad.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

5. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu pob canllaw a phecyn cymorth sydd ar waith ar hyn o bryd i gynorthwyo caffael cynaliadwy a mesur/monitro buddion cymunedol ac/neu gwerth cymdeithasol, a chyhoeddi cynllun clir yn amlinellu sut y bydd y rhain yn cael eu diwygio a'i hatgyfnerthu i alluogi ymagwedd gyson, fel y gall cyrff cyhoeddus adrodd ar y canlyniadau llesiant sy’n cael eu cyflawni.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol gan y dilynir cam gweithredu arall wrth baratoi manylion y cynllun

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau adolygu'r Cynllunydd Llwybrau Caffael, y pecyn cymorth Asesu Risg Cynaliadwy, Gwerth Cymdeithasol, TOMs, Buddion Cymunedol a WPPNs cysylltiedig.  Un o amcanion y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) drafft yw cynnig ffordd gyson i gyrff cyhoeddus adrodd ar ganlyniadau lles. Felly, bydd angen dod â’r canllawiau ategol ynghyd.

Bydd y cyfnod Darganfod Digidol hefyd yn dylanwadu ar yr offer a allai fod ar gael i helpu i gyflawni'r argymhelliad hwn.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

6. Er mwyn cyflawni targedau allyriadau carbon dylai pob corff cyhoeddus ddatgan yn glir sut y maent wedi ystyried effaith carbon eu penderfyniadau caffael ac yn achos adeiladu neu seilwaith dylai fod yn glir ei bod yn ofynnol i gynlluniau contract fod yn carbon sero-net dros eu hoes.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn

Mae Egwyddor 6 y WPPS yn cyfeirio at yr angen i weithredu i atal y newid yn yr hinsawdd drwy roi blaenoriaeth i leihau allyriadau carbon ac i fod yn garbon sero-net drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy a gwireddu’n huchelgais o sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. Bydd y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i lunio strategaeth gaffael ac adroddiad ar gydymffurfiaeth, fydd yn rhoi sylw dyledus i'r WPPS drwy adroddiadau blynyddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â'r sector cyhoeddus yng Nghymru i'w gefnogi i fod yn ddi-garbon drwy gyfrwng canllawiau e.e. mae Dangosfwrdd Datgarboneiddio eisoes wedi'i ddatblygu.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gofyn bod adeiladau annomestig newydd y mae’n eu cefnogi'n ariannol yn bodloni safon amgylcheddol BREEAM sy'n cynnwys safonau ynni sy'n rhagori ar reoliadau adeiladu yn ogystal ag agweddau eraill ar berfformiad amgylcheddol.

Mater a amlygwyd: Cymorth

Mae cyfleoedd i beri i wariant weithio’n galetach yn cael eu colli oherwydd diffyg cymorth i’r proffesiwn caffael a diffyg atebolrwydd ar lefel arweinyddiaeth.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

7. Dylai’r Ganolfan Ragoriaeth Caffael adolygu a diwygio strwythurau ar gyfer atebolrwydd cenedlaethol a sefydlu mecanwaith priodol i graffu ar gynnydd mewn gweithredu. Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn flynyddol ar y modd y mae gwariant cyhoeddus cenedlaethol cyffredinol yn cyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod angen 'atebolrwydd cenedlaethol' a 'mecanwaith(au)’ i graffu ar gynnydd o ran gweithredu. Bydd yr Ymarfer Darganfod y cyfeirir ato yn ein hymateb i argymhelliad 1 yn ein helpu i benderfynu ai Canolfan Ragoriaeth Gaffael yw'r cyfrwng mwyaf priodol i wneud hyn.

Yn ogystal, bydd sefydliadau Sector Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn adrodd yn flynyddol o dan y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) arfaethedig ar sut mae gwariant cyhoeddus yn cyfrannu at y nodau llesiant.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

8. Hefyd, dylai eu hadroddiad blynyddol (ar gynnydd gyda’r Ddeddf) nodi’n glir sut y mae eu holl wariant caffael, a’u gwariant grantiau, hwy eu hunain yn cyfrannu at gyflawni eu hamcanion llesiant, ac yn ei tro, y saith nod llesiant cenedlaethol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Cam gweithredu arall

Rôl statudol yr Adroddiad Blynyddol yw nodi’n hynt o ran gwireddu ein hamcanion llesiant. Byddai rhoi manylion llawn ein gwariant ar gaffael a grantiau yn yr Adroddiad Blynyddol yn tynnu sylw oddi ar brif ddiben yr adroddiad, sef cyfleu mewn ffordd glir a chryno sut rydym yn cyflawni ein hamcanion er lles pobl Cymru.

Bydd y ddyletswydd gaffael arfaethedig o dan y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi adroddiad ar wariant caffael cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal ag adroddiad caffael blynyddol am gyfrifoldebau cymdeithasol. Bydd hyn yn datrys y pwyntiau a godwyd gan y Comisiynydd yn yr adroddiad mewn ffordd sy'n fwy priodol ac a fydd yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfleu i'r cyhoedd mewn ffordd dryloyw a deallus.

Mater a amlygwyd: Monitro

Nid oes unrhyw fonitro parhaus o ddulliau neu ganlyniadau caffael naill ai at ddibenion sylwi lle mae pethau'n mynd o chwith, a chyfleoedd yn cael eu colli, nac ar gyfer nodi a rhannu arfer gorau.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

9. Dylai'r Ganolfan Ragoriaeth Caffael ddatblygu mecanwaith neu offeryn i gynorthwyo cyrff cyhoeddus i fonitro ac adrodd yn gyson ar y Ddeddf (gan adeiladu o bosibl ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar werth cymdeithasol a'r fframwaith TOMS newydd) gan ddangos sut mae eu gwariant ar gaffael yn cyflawni’r nodau a’r amcanion llesiant.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol

Mae angen mecanweithiau a/neu offer i ddangos sut mae’r gwariant ar gaffael yn bodloni nodau ac amcanion llesiant. Bydd yr Ymarfer Darganfod sy’n edrych ar yr argymhelliad i sefydlu Canolfan Ragoriaeth Gaffael yn ystyried hyn. Rhoddir ystyriaeth hefyd i fecanweithiau / offer gan yr Ymarfer Darganfod sy’n ystyried offer eGaffael.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

10. Dylai Llywodraeth Cymru fonitro cynnydd a wneir gan gyrff cyhoeddus Cymru. Rhaid adrodd ar hyn yn yr adroddiadau blynyddol ar gyflawni eu hamcanion llesiant ar gyfer Llywodraeth Cymru parthed y canlyniadau cyffredinol sy’n cael eu cyflawni ledled Cymru a hefyd gan gyrff cyhoeddus unigol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Camau gweithredu eraill

Mae Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ei dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf. Ein barn ni yw bod canolbwyntio ar ein hynt at gyflawni’r amcanion llesiant, yn hytrach nag ar gyfyngau penodol fel caffael, yn ddull mwy ystyrlon a fydd yn rhoi darlun cliriach i'r cyhoedd.

Nid oes angen cynnwys manylion pob un o'r 43 corff cyhoeddus sy'n dod o dan y Ddeddf yn ein Hadroddiad, hynny am fod dyletswydd ar y cyrff cyhoeddus hynny i adrodd ar eu hamcanion llesiant eu hunain. Byddai cynnwys y 43 corff cyhoeddus arall yn ein Hadroddiad Blynyddol hefyd yn tynnu ei ffocws oddi wrth ei ddiben statudol o ddisgrifio’n cynnydd at wireddu’n nodau llesiant.

O gofio y bydd y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i lunio adroddiadau blynyddol ar eu cynnydd ym maes caffael o ran cyflawni’r amcanion a bennwyd yn unol â’r nodau llesiant, ac yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i grynhoi'r rhain yn ei hadroddiad cyfatebol ei hun ar gaffael, yn ein barn ni, byddai’r rhain yn ffordd fwy effeithiol a phriodol o fynd i’r afael â’r pwyntiau sy'n sail i'r argymhelliad hwn.

Argymhellion I gyrff cyhoeddus (yn cynnwys Llywodraeth Cymru):

Mater a amlygwyd: Cyfleoedd a fethwyd

Nid yw cyfleoedd i gyflawni pob un o’r pedwar dimensiwn llesiant yn cael eu macsimeiddio, yn aml oherwydd diffyg arweinyddiaeth ac ymagwedd strategol nad yw’n cydnabod ‘pŵer prynu’.

Argymhellion i gyrff cyhoeddus

11. Dylai uwch arweinyddiaeth adolygu eu hymagwedd tuag at gaffael a'u gweithgareddau i nodi cyfleoedd i facsimeiddio effaith cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol penderfyniadau gwariant, gan osod camau clir sy'n dangos sut mae caffael yn cynorthwyo cyflawni eu hamcanion llesiant sefydliadol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn

Dylai uwch arweinwyr o fewn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru adolygu pwysigrwydd caffael. Bydd y dyletswyddau caffael a nodir yn y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn codi'r proffil ymhlith uwch arweinwyr. Bydd yn ofynnol i gyrff Sector Cyhoeddus Cymru adolygu eu dulliau a'u gweithgareddau caffael yn rheolaidd i facsimeiddio effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol eu penderfyniadau gwariant, hynny yn unol â’r dyletswyddau caffael hyn. Bydd y Bil hefyd yn sicrhau y rhoddir sylw dyledus i'r WPPS sy'n ategu’r nodau llesiant.

Mater a amlygwyd: Canlyniadau ehangach

Mae’r “system gaffael” yn rhy aml yn arwain at ffocws ar broses a chost tymor byr yn hytrach na chyflawni canlyniadau ehangach dros yr hirdymor, ac nid oes dull cyson o fesur y canlyniadau y gellir eu cyflawni yn unol â’r Ddeddf. Mae angen newid i ystyried costau hirdymor yn gyfannol, yn unol â'r Ddeddf.

Argymhellion i gyrff cyhoeddus

12. Unwaith y mae mecanwaith neu offeryn yn cael ei ddatblygu a’i fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru (fel yr argymhellir uchod), dylai pob corff cyhoeddus fod yn ei ddefnyddio i fonitro ac adrodd yn glir ar eu gweithgareddau, mewn arferion caffael unigol, ac yn gyffredinol, a’r modd y mae eu gwariant caffael yn cyflawni nodau ac amcanion llesiant.

  • Dylid adrodd ar gyflawni eu hamcanion llesiant yn yr adroddiadau blynyddol.
  • Er mwyn osgoi dryswch iaith a chysylltu’n glir â gofynion statudol y Ddeddf dylai’r derminoleg gael ei diwygio i adlewyrchu iaith y Ddeddf.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn – ac eithrio’r argymhelliad i adrodd yn yr Adroddiadau Blynyddol ar amcanion llesiant. Byddwn yn cymryd camau eraill mewn perthynas â hynny

Rydym yn derbyn y prif argymhelliad fel y nodwn yn ein hymateb i argymhelliad 11.

O ran yr argymhelliad penodol y dylid adrodd ar ein hamcanion llesiant yn yr Adroddiad Blynyddol, rydym yn cynnig cam gweithredu arall. Bydd y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) i lunio adroddiadau penodol ar eu cynnydd ym maes caffael. Credwn y bydd hyn yn ffordd fwy effeithiol a phriodol o ymdrin â'r pwyntiau sy'n sail i'r argymhelliad hwn na chynnwys y wybodaeth naill ai yn ein Hadroddiad Blynyddol neu yn adroddiadau blynyddol y cyrff cyhoeddus.

Mater a amlygwyd: cydweithredu

Nid oes unrhyw fecanwaith ar gyfer hyrwyddo cydweithredu effeithiol ar gyfer cyrff cyhoeddus, yn arbennig fecanwaith traws-sector i wella rhannu, dysgu, capasiti a sgiliau.

Argymhellion i gyrff cyhoeddus

13. Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu fel porth canolog i gynorthwyo cydweithio a gweithredu traws-sector. Mewn cydweithrediad ag eraill dylai Llywodraeth Cymru adolygu grwpiau presennol a rhwydweithiau i wella cydgysylltiad rhwng gweithredu llywodraeth leol, iechyd, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a rhanbarthau, ynghyd â’r trydydd sector a’r sector preifat.

Dylai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus flaenoriaethu sut y gallant gydweithio a defnyddio gwariant i facsimeiddio gwerth cymdeithasol, cyfrannu at eu hamcanion lleisant, a gwella llesiant ar lefel leol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol

Byddwn yn cynnal rhagor o waith i ddeall y broblem yn well ac i nodi'r ateb gorau a fyddai'n ennyn cefnogaeth partneriaid a rhanddeiliaid allweddol.

I’r perwyl hwn, rydym yn cychwyn Ymarfer Darganfod i ystyried a phrofi'r syniad o sefydlu Canolfan Ragoriaeth yn fanylach. Bydd yr Ymarfer Darganfod hwn yn gyfle i ddeall yn well sut mae gwahanol rannau’r gwaith yn ategu ei gilydd ar hyn o bryd ac i ystyried opsiynau i wella'r sefyllfa.  Bydd hefyd yn ystyried effaith diwygio’r drefn caffael a bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yn enwedig ym maes cydymffurfio/goruchwylio.