Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Gofynnwyd i Estyn sut mae lleoliadau ac ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu dysgwyr.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Dyma ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:

Dysgu a darpariaeth ar gyfer medrau

Mewn lleoliadau, mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn ac yn caffael y Gymraeg yn effeithiol. Mae llawer o ddysgwyr yn y rhan fwyaf o leoliadau nas cynhelir ac ysgolion cynradd yn datblygu eu medrau gwrando yn effeithiol. Gwnânt hynny drwy wrando’n astud ar ymarferwyr sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol iddynt mewn gweithgareddau llafar pwrpasol. Mae hyn yn cyfrannu at y broses o gaffael a  chyfoethogi iaith wrth iddynt efelychu’r iaith yn fwyfwy hyderus ar draws yr ystod oedran.

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr o bob cefndir ieithyddol yn rhyngweithio’n dda ag ymarferwyr a’u cyfoedion wrth iddynt ddatblygu’r hyder i gyfathrebu yn y Gymraeg. Maent yn defnyddio’r iaith yn gyson drwy ei mewnoli, siarad a’i chymhwyso’n gynyddol hyderus i gyfathrebu’n ddigymell yn y Gymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau ffurfiol a llai ffurfiol.     

Mae llawer o ddysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth ffonolegol yn fwyfwy hyderus mewn ystod o weithgareddau difyr ar draws y cwricwlwm. Mae llawer o ymarferwyr yn arwain dysgwyr i glywed, adnabod ac ynganu seiniau llythrennau’r wyddor yn gywir. Trwy weithgareddau darllen ar y cyd gydag oedolion a’u cyfoedion, mae dysgwyr yn ailedrych ar, ac yn ymarfer, eu medrau o ran segmentu a chyfuno geiriau sy’n fwy cymhleth. O ganlyniad, gwna’r rhan fwyaf ohonynt gynnydd cadarn yn eu medrau darllen dros amser.      

Yn y cyfnod sylfaen, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn dechrau deall ac adnabod y cysylltiad rhwng iaith lafar a seiniau ffonolegol, ac maent yn dod yn gyfarwydd â geiriau aml eu defnydd. Yng nghyfnod allweddol 2, mae llawer o ddysgwyr yn darllen geiriau anghyfarwydd ac yn ffurfio brawddegau mwyfwy cymhleth. Wrth i ddysgwyr fagu hyder a gwneud cynnydd yn eu medrau darllen, maent yn trafod amrywiaeth ehangach o destunau.

Mae llawer o ddysgwyr yn  datblygu eu huwch fedrau darllen yn llwyddiannus. Maent hefyd yn darllen testun ac yn cywain gwybodaeth mewn un iaith, ac yn coladu, trafod a chofnodi’r wybodaeth mewn iaith arall, naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg fel arfer. Mae hyn yn datblygu medrau trawsieithu dysgwyr ac yn cefnogi datblygiad eu medrau darllen Cymraeg.

Mae llawer o leoliadau ac ysgolion yn meithrin diwylliant o ddarllen drwy strategaeth darllen ysgol-gyfan sydd wedi’i datblygu’n dda. Yn yr arfer orau, mae ymarferwyr yn darparu ystod ddifyr a symbylol o destunau i ddysgwyr. Yn y darparwyr hyn, gall dysgwyr fanteisio ar ardal ddarllen benodol yn yr ystafell ddosbarth neu lyfrgell yr ysgol, lle maent yn datblygu eu medrau darllen yn annibynnol. Mewn ysgolion llai effeithiol, nid yw lleiafrif o ymarferwyr yng nghyfnod allweddol 2 yn cynnig cyfleoedd digon cyson i ddysgwyr wrando ar bobl eraill yn darllen llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg. O ganlyniad, mae gwybodaeth ychydig o ddysgwyr am destunau ac awduron Cymreig yn gyfyngedig, ac nid ydynt yn ddigon hyderus i’w trafod.    

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae llawer o ddysgwyr yn datblygu eu medrau ysgrifennu yn llwyddiannus. Yn y cyfnod sylfaen, mae’r rhan  fwyaf o ymarferwyr yn hybu medrau ysgrifennu dysgwyr drwy greu cysylltiad amlwg rhwng gwrando a siarad, ac ysgrifennu. Yng nghyfnod allweddol 2, mae llawer o ddysgwyr yn datblygu eu medrau ymhellach drwy ysgrifennu brawddegau mwyfwy cymhleth. Maent yn cyfoethogi eu gwaith â geirfa gyfoethog ac yn defnyddio ystod eang o atalnodau yn gywir wrth ysgrifennu gwahanol fathau o destunau. Wrth i fedrau llafar y rhan fwyaf o ddysgwyr ddatblygu, caiff hyn effaith gadarnhaol ar eu medrau ysgrifennu. Ar hyn o bryd, nid yw’r lleiafrif o ddysgwyr yn datblygu eu medrau ysgrifennu i’r un safon â’u medrau siarad a darllen. Nid yw ychydig o ymarferwyr yn darparu digon o gyfleoedd i ddysgwyr ysgrifennu’n rhydd ac yn annibynnol, nac yn cynllunio’n ddigon bwriadus i ddysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth bresennol i ymestyn eu medrau ysgrifennu ymhellach.

Mewn llawer o leoliadau ac ysgolion, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn cymhwyso eu medrau llythrennedd yn gyson ar draws y cwricwlwm. Pan roddir cyfle iddynt wneud hynny, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn datblygu eu medrau llafar yn dda mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac yn defnyddio’r Gymraeg yn gywir. Maent yn datblygu eu medrau darllen yn gynyddol drwy ddarllen testunau ffuglen a ffeithiol ar ystod ddiddorol o themâu, er enghraifft wrth ddysgu am arwyr o Gymru. Mae llawer o ddysgwyr ar draws yr ysgol yn datblygu eu medrau ysgrifennu mewn meysydd dysgu eraill, er enghraifft drwy ddefnyddio ffurf orchmynnol y ferf wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau syml i wneud cebabau ffrwythau yn y cyfnod sylfaen.

Mae gan y rhan fwyaf o ddysgwyr agweddau cadarnhaol tuag at ddatblygu eu medrau Cymraeg. Maent yn falch o gyfathrebu yn y Gymraeg, ac yn deall gwerth a budd datblygu eu medrau Cymraeg. Yn yr arfer orau, mae llawer o ddarparwyr yn achub ar bob cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith mewn modd rhyngweithiol ac ymarferol yn yr ysgol a’r gymuned leol. Trwy wneud hynny, mae dysgwyr o bob cefndir ieithyddol yn defnyddio ac yn cymhwyso’r iaith yn fedrus mewn amrywiaeth o weithgareddau bwriadus, er enghraifft wrth helpu preswylwyr oedrannus mewn cartref preswyl lleol i ddatblygu eu gallu i gyfathrebu â’u teuluoedd a’u ffrindiau gan ddefnyddio dyfeisiau digidol.

Yn y rhan fwyaf o leoliadau ac ysgolion, mae dysgwyr y nodir eu bod yn ddifreintiedig neu fod ganddynt anghenion addysgol arbennig (AAA) yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn wrth gaffael y Gymraeg. Yn y rhan fwyaf o ddarparwyr, cânt gymorth priodol, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cyflawni eu targedau iaith personol. Mae ymarferwyr yn cynllunio rhaglenni cymorth manwl sy’n bodloni anghenion dysgu cyffredinol bron pob dysgwr yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid oes cefnogaeth gyson i grwpiau o ddysgwyr sydd ag anghenion iaith penodol, fel oedi cyffredinol mewn datblygu iaith a dyslecsia, drwy gyfrwng y Gymraeg, nac adnoddau addas ar gael i ymarferwyr eu defnyddio wrth gefnogi pob grŵp o ddysgwyr, yn enwedig dysgwyr AAA.

Mae llawer o ymarferwyr yn cynllunio gweithgareddau ieithyddol cyfoethog sy’n ennyn ac yn cynnal diddordeb dysgwyr yn llwyddiannus. Yn yr arfer orau, mae’r mwyafrif ohonynt yn datblygu medrau iaith dysgwyr yn gynyddol wrth iddynt symud drwy’r lleoliad a’r ysgol. Nid yw ychydig o ymarferwyr yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ystod lawn y medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu mewn cyd-destunau ystyrlon a diddorol ar draws y cwricwlwm.    

Mewn llawer o ddarparwyr, mae ymarferwyr yn trochi dysgwyr yn y Gymraeg drwy fodelu iaith yn dda a darparu amgylchedd dysgu sydd â chyfoeth o eirfa a chystrawen Gymraeg. Mae’r lleoliadau a’r ysgolion hyn yn ymfalchïo mewn bod yn gymunedau sydd ag ethos Cymraeg.    Dros amser, mae mwyafrif yr ymarferwyr yn ehangu ystod yr eirfa a’r patrymau cystrawennol y mae dysgwyr yn eu defnyddio. Mewn lleiafrif o ddarparwyr, nid yw ymarferwyr yn trochi dysgwyr yn ddigon effeithiol yn y Gymraeg nac yn sicrhau bod datblygiadau mewn un medr, er enghraifft siarad, yn cefnogi ac yn ategu datblygiad mewn un arall, fel ysgrifennu.        

Mae darparwyr sy’n rhagori mewn datblygu caffaeliad iaith dysgwyr yn cynnig cefnogaeth ddefnyddiol i grwpiau o ddysgwyr. Maent yn trefnu gweithgareddau sy’n gyfoeth o iaith i fodloni anghenion ieithyddol dysgwyr o bob cefndir ieithyddol. Yn gyffredinol, ychydig iawn o ysgolion sy’n targedu datblygu medrau dysgwyr sy’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd neu’r rhai y nodwyd eu bod yn fwy abl.

Mewn llawer o leoliadau ac ysgolion lle mae’r addysgu yn effeithiol, mae ymarferwyr yn datblygu geirfa dysgwyr yn fedrus. Mae hyn yn gryfder yn y ddarpariaeth ac yn fodd cyson o sicrhau bod dysgwyr yn defnyddio ac yn cymhwyso iaith lafar ac ysgrifenedig fwyfwy aeddfed ac estynedig mewn gwersi Cymraeg ac ar draws y cwricwlwm wrth iddynt symud drwy’r ysgol.

Mae medrau’r rhan fwyaf o ymarferwyr mewn addysgu iaith a llythrennedd yn gryfder. Maent yn cyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol newydd yn gelfydd mewn gweithgareddau cyfoethog sydd wedi’u cynllunio’n dda. Nid yw medrau cyfathrebu ychydig o ymarferwyr yn ddigon cadarn i gefnogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn gywir.    

Yn gyffredinol, mae llawer o ymarferwyr yn holi, monitro ac olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol, ac yn cynllunio gweithgareddau sy’n bodloni anghenion datblygiadol y rhan fwyaf o ddysgwyr. Fodd bynnag, nid yw gweithdrefnau olrhain lleiafrif o ysgolion yn sicrhau bod pob grŵp o ddysgwyr yn gwneud digon o gynnydd wrth ddatblygu eu medrau Cymraeg dros amser.

Arweinyddiaeth

Ym mwyafrif y lleoliadau a’r ysgolion lle mae safonau iaith a llythrennedd yn uchel i bob dysgwr, mae arweinwyr yn sefydlu gweledigaeth glir a dull strategol o ddatblygu medrau iaith a llythrennedd Cymraeg dysgwyr mewn amgylchedd dysgu cynhwysol. Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel ac maent yn cynllunio ystod eang o gyfleoedd i ddwysau a chefnogi dysgwyr o bob cefndir ieithyddol i ymfalchïo yn y Gymraeg a’i defnyddio’n naturiol ac yn ddigymell fel rhan o’u haddysg a’u bywydau bob dydd.

Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn datblygu diwylliant cryf o gydweithio lle gall pob aelod o staff fanteisio ac elwa ar fethodoleg drochi gyfunol yr ysgol o gaffael iaith. Maent yn buddsoddi ym medrau ac arbenigedd ymarferwyr drwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, sy’n datblygu eu dealltwriaeth o’r ffordd orau i ddatblygu medrau iaith a llythrennedd dysgwyr.    

Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn datblygu gweithdrefnau cadarn i werthuso effaith addysgu a phrofiadau dysgu ar gynnydd dysgwyr. Yn yr ysgolion lle mae datblygiad proffesiynol ar gyfer addysgu iaith yn llai datblygedig, er bod arweinwyr yn monitro agweddau cyffredinol ar addysgu, nid ydynt yn canolbwyntio’n ddigon manwl ar agweddau ar addysgu iaith mewn meysydd a phynciau penodol. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i arweinwyr nodi anghenion dysgu proffesiynol ymarferwyr yn fanwl gywir er mwyn gallu mynd i’r afael â’r rhain i sicrhau bod staff yn fwy abl i ddatblygu medrau iaith a llythrennedd dysgwyr. Mewn ychydig o ysgolion, nid yw arweinwyr yn sicrhau bod ymarferwyr yn fodelau iaith da i ddysgwyr bob tro.

  • Argymhelliad 1: Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd gynllunio’n ofalus ar gyfer dilyniant a pharhad mewn datblygu medrau dysgwyr o bob cefndir ieithyddol wrth iddynt gaffael y Gymraeg.
  • Argymhelliad 2: Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ddarparu gweithgareddau gwrando a siarad rheolaidd i ddatblygu geirfa a phatrymau cystrawennol dysgwyr, a’u hannog i gymhwyso’r medrau newydd hyn mewn gweithgareddau ffurfiol a llai ffurfiol.
  • Argymhelliad 3: Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd olrhain cynnydd, datblygiad geirfa a chaffaeliad iaith grwpiau penodol o ddysgwyr yn drylwyr, gan gynnwys y rhai sy’n fwy abl.
  • Argymhelliad 4: Dylai ysgolion cynradd gynnig cyfleoedd i ddysgwyr wrando ar, darllen a gwerthfawrogi llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg gan awduron o Gymru, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2.
  • Argymhelliad 5: Dylai ysgolion cynradd sicrhau cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr ysgrifennu’n rhydd ac yn annibynnol.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1 i 5

Mae'r argymhellion hyn ar gyfer lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ac rydym yn derbyn eu cynnwys. 

Rydym yn croesawu'r argymhellion hyn gan eu bod yn adlewyrchu ein disgwyliadau ni ein hunain i bob dysgwr ddatblygu sgiliau llythrennedd lefel uchel yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, waeth beth fo'u cefndir ieithyddol. Mae fframwaith canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl i godi safonau i bawb. Mae'n nodi egwyddorion cynnydd clir gyda'r bwriad o arwain ysgolion i ddatblygu cwricwlwm sy'n adlewyrchu cynnydd priodol ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu hefyd yn cynnwys continwwm ar gyfer ieithoedd, gan ddechrau heb fawr ddim iaith, os o gwbl, a symud ymlaen i fod yn rhugl. Defnyddir asesiadau i ddeall sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd a'r cymorth y gallai fod ei angen arnynt. Mater i ysgolion fydd penderfynu sut y caiff y cynnydd hwn ei fonitro neu ei olrhain. Byddwn yn cefnogi pob ysgol a lleoliad i adfer o brofiadau'r flwyddyn ddiwethaf ac i symud ymlaen i ddiwygio a gwireddu'r cwricwlwm.

  • Argymhelliad 6: Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddarparu hyfforddiant i ddwysau dealltwriaeth ymarferwyr o’r modd y mae dysgwyr yn caffael y Gymraeg, ac o fethodoleg effeithiol o ran trochi iaith.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 6

Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol a byddwn yn tynnu eu sylw at yr argymhelliad hwn. Mae Cynllun Gweithredu'r Cwricwlwm, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021, yn nodi rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer consortia rhanbarthol a sefydliadau partner eraill. Mae hyn yn cynnwys darparu rhaglen dysgu proffesiynol a chymorth pwrpasol i ysgolion a lleoliadau. Bydd y rhain yn cael eu datblygu yn unol â gweledigaeth pedwar diben y cwricwlwm gan sicrhau bod pob dysgwr yn elwa o addysg eang a chytbwys gyda disgwyliadau uchel i bawb, waeth beth fo'u cefndir.

  • Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar drochi iaith er mwyn cefnogi addysgu a dysgu wrth gaffael y Gymraeg.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 7

Mae canllawiau'r Cwricwlwm yn nodi ein hymagwedd at lythrennedd a chaffael iaith ac mae'r Disgrifiadau Dysgu yn nodi camau cynnydd clir i ddysgwyr. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau ac adnoddau pellach i gefnogi addysgu a dysgu Cymraeg fel rhan o'r cwricwlwm newydd ac i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol. Bydd sylw yn cael ei roi i fethodoleg drochi fel rhan o'r gwaith hwn. Hefyd mae Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn parhau i lywio trafodaethau ynghylch trochi yn y Gymraeg, yn ogystal â darpariaeth drochi hwyr, i nodi meysydd sydd angen cymorth pellach.

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 04 Mawrth 2021 ac mae ar gael ar wefan Estyn.