Meini prawf i'w bodloni cyn gofyn i'r Uned Adolygu Caffael adolygu penderfyniadau dethol darparwyr o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.
Cynnwys
Cymhwystra
Mae'n rhaid i geisiadau i'r Uned Adolygu Caffael fodloni'r meini prawf canlynol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer adolygiad:
- Mae'r awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract o dan y canlynol:
- Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 (rheoliad 8)
- Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 (rheoliad 9)
- Y Broses Darparwr Mwyaf Addas (rheoliad 10)
- Y Broses Gystadleuol (rheoliad 11) (gan gynnwys sefydlu cytundeb fframwaith o dan y Broses Gystadleuol)
- Dyfarnu contract o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth (rheoliad 20)
- Dyfarnu contract o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth (rheoliad 21)
- Ni fydd yr Uned Adolygu Caffael yn derbyn sylwadau mewn perthynas â phenderfyniadau awdurdod perthnasol o dan ddyfarnu contract sy'n seiliedig ar gytundeb fframwaith un darparwr (rheoliad 19), addasu contractau (rheoliad 13) na'r broses dyfarnu contract ar frys (rheoliad 14).
- Daw'r cais gan ddarparwr a allai, fel arall, fod wedi bod yn un o ddarparwyr y gwasanaethau y mae'r contract yn ymwneud â nhw.
- Yn dilyn sylw'r darparwr, mae'r awdurdod perthnasol wedi cynnal adolygiad o'i benderfyniad gwreiddiol ac wedi penderfynu dyfarnu'r contract neu gwblhau'r cytundeb fframwaith fel y bwriadwyd yn wreiddiol.
- Mae'r cais wedi'i gyflwyno'n ysgrifenedig (sy'n cynnwys yn electronig) o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl i'r darparwr gael ei hysbysu am y penderfyniad gan yr awdurdod perthnasol.
- Mae'r darparwr wedi nodi pam mae'n credu bod yr awdurdod perthnasol wedi methu â gweithredu'r gyfundrefn yn gywir.
- Mae'r darparwr wedi cyflwyno'r holl wybodaeth ategol angenrheidiol er mwyn i'r Uned Adolygu Caffael allu cynnal ei adolygiad fel y gofynnwyd yn ffurflen yr Uned Adolygu Caffael.
- Nid yw'r Uned Adolygu Caffael o'r farn bod y sylwadau yn ddibwys, yn flinderus nac ychwaith eu bod yn camddefnyddio gweithdrefnau'r Uned Adolygu Caffael.
- Mae'r Uned Adolygu Caffael yn cadw'r hawl i roi'r gorau i ystyried mater os bydd achos cyfreithiol yn mynd rhagddo a bod yr Uned Adolygu Caffael yn barnu na fyddai ei chyngor o gymorth mwyach er mwyn helpu i ddatrys y mater sy'n cael ei ystyried.
Blaenoriaethu
Efallai y bydd angen i'r Uned Adolygu Caffael flaenoriaethu rhwng achosion mewn gwahanol sefyllfaoedd fel y'u nodir isod:
- y potensial i'r cyngor helpu awdurdodau perthnasol i ddehongli Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru a chydymffurfio â hi yn y dyfodol
- perthnasedd proses gaffael yr awdurdod perthnasol i'r darparwr neu'r awdurdod perthnasol
- bydd y cyngor yn sicrhau mantais sy'n gymesur â defnydd yr Uned Adolygu Caffael o adnoddau wrth lunio ei chyngor
- argaeledd adnoddau'r Uned Adolygu Caffael i adolygu sylwadau a geir o dan gyfundrefnau caffael eraill (er enghraifft Deddf Caffael 2023 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023)
Os na dderbynnir cais am adolygiad, bydd yr Uned Adolygu Caffael yn hysbysu'r darparwr a'r awdurdod perthnasol cyn gynted â phosibl.