Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n galw i bobl o bob cwr o Gymru rannu eu profiadau ynghylch arferion gwaith teg ac i helpu llywio dyfodol tecach i bawb.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddechrau’r flwyddyn y llynedd, amlinellodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, uchelgais ar gyfer Cymru i fod yn ‘Genedl Gwaith Teg’ a sefydlwyd Comisiwn ym mis Gorffennaf i gyflwyno argymhellion ynghylch sut i gyflawni hyn.

Mewn Cenedl Gwaith Teg disgwylir y bydd gan bawb y cyfle i wneud y canlynol:

  • cael gwell swyddi yn nes at eu cartrefi
  • datblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd
  • cael gwaith o safon sy’n cyfrannu at fyw’n dda heb gael eu hecsbloetio neu brofi tlodi
  • hybu ffyniant a rhannu manteision y ffyniant hwnnw.
Mae gwaith teg yn ganolog i waith y Comisiwn a nod y cais hwn am dystiolaeth yw dysgu o brofiadau, safbwyntiau ac ymchwil sy’n berthnasol i hybu ac annog gwaith teg yng Nghymru.

Bydd y Comisiwn yn datblygu dangosyddion ac yn ystyried a fydd angen datblygu ymhellach y mesurau sy’n ofynnol i hybu gwaith teg sydd ar gael ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru. Bydd yn argymell camau newydd neu ychwanegol gan gynnwys deddfwriaeth newydd.

Julie James, Arweinydd y Tŷ ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n goruchwylio gwaith y Comisiwn. Dywedodd:

“Bydd y cais am dystiolaeth heddiw yn llywio byd gwaith y dyfodol yng Nghymru ar gyfer yfory gan sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bawb. Mae Cenedl Gwaith Teg yn lle gwych i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo.

“Fel y mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod, gall gwaith teg helpu i greu economi sy’n gryfach, yn fwy modern ac yn fwy cynhwysol yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldeb drwy hybu llesiant a chydlyniant cymunedol.

“Mae barn a phrofiadau pobl yn cynnig llais effeithiol ar gyfer gweithwyr, yn gwella eu gallu i gyfrannu at lwyddiant economi Cymru. Byddwn yn annog pawb, boed yn unigol neu fel sefydliad, i gyflwyno eu tystiolaeth a helpu i lywio gwell dyfodol o ran arferion gwaith ledled Cymru.”

Caiff y Comisiwn, corff Gweinidogol ar ran Llywodraeth Cymru, ei gadeirio gan yr Athro Linda Dickens MBE, Athro Emeritws Cysylltiadau Diwydiannol Prifysgol Warwick. Dywedodd: 

“Mae’n dda gen i gael fy mhenodi’n gadeirydd i’r Comisiwn annibynnol pwysig hwn.

“Bydd ein hargymhellion i’r Gweinidogion fis Mawrth nesaf yn cael eu seilio ar dystiolaeth a gwaith dadansoddi. Drwy’r cais am dystiolaeth a’r cyfarfodydd ymgysylltu y byddwn yn eu cynnal ledled Cymru, rydym am ddysgu am ddyheadau, blaenoriaethau a phryderon unigolion a sefydliadau ynghylch gwaith teg. Bydd yr wybodaeth, y profiadau a’r persbectifau y byddant yn eu darparu yn helpu i lywio ein hargymhellion felly byddwn yn annog pawb i gymryd rhan”.

Mae croeso i chi gyflwyno tystiolaethau tan ddydd Llun 19 Tachwedd 2018.