Daeth yr ymgynghoriad i ben 25 Gorffennaf 2017.
Manylion am y canlyniad

Cryodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 692 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar yr 2il gam o’r gwaith ar Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ddeddf yn sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu sy'n diogelu hawliau dinasyddion Cymru i gymorth, gofal gydag urddas a gofal diogel a phriodol.
Rydym yn ymgynghori ar welliannau i reoleiddio gofal cymdeithasol a fydd yn creu cyfundrefn newydd, cryfach a fydd yn gwella’r oruchwyliaeth o’r gwasanaeth ar draws sefydliadau cyfan.
Rydym hefyd am gael eich barn ar ganllawiau statudol drafft a ddatblygwyd o dan adran 29 o'r ddeddf sy'n rhoi rhagor o fanylion am gydymffurfiaeth â gofynion a nodir yn y rheoliadau.
Rydym yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth:
- Caerdydd 21 Mehefin 2017
- Wrecsam 13 Gorffennaf 2017
I fynychu cysylltwch â RISCAct2016@cymru.gsi.gov.uk erbyn dydd Gwener 2 Mehefin. Mae llefydd yn gyfyngedig ac yn amodol ar argaeledd.
Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 593 KB

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 108 KB

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 652 KB
