Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Ystadau Cymru yn rhan bwysig o’r ffordd strategol y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli asedau tir ac eiddo. Mae cydweithredu yn ymddygiad allweddol ym mholisi rheoli asedau Llywodraeth Cymru ac mae Ystadau Cymru yn dal i chwarae rhan bwysig fel arweinydd strategol o ran cefnogi a hyrwyddo manteision cydweithredu wrth reoli asedau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r ffocws ar nodau Llesiant wedi'i nodi yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y 6ed Senedd. Mae'r meysydd allweddol lle gall Ystadau Cymru a'u partneriaid wneud cyfraniad cadarnhaol at flaenoriaethau Gweinidogion yn cynnwys:

  • Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel
    • cydleoli gwasanaethau drwy ddatblygu ac ailbwrpasu adeiladau dros ben i greu hybiau cymunedol
    • buddsoddi mewn darparu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig
       
  • Ymwreiddio ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur
    • helpu i ddatblygu hybiau gweithio o bell
    • cefnogi'r economi gylchol i leihau gwastraff
    • defnyddio ein hasedau i gefnogi cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, mentrau cymdeithasol a'r economi sylfaen
    • buddsoddi yn ein hasedau i weithio tuag at fod yn ddi-garbon
    • atal a gwrth-droi'r difrod i'n hamgylchedd naturiol drwy helpu i greu coetiroedd cymunedol
    • helpu i wella'r amgylchedd adeiledig drwy ailbwrpasu ein hasedau dros ben a chreu mwy o fannau gwyrdd cymunedol yng nghanol ein trefi
    • sicrhau bod ein hadeiladau a'n hardaloedd cyhoeddus yn hygyrch ac yn ddiogel
       
  • Lleihau anghydraddoldebau addysgol
    • gwella ansawdd ac effeithlonrwydd carbon ein hystâd addysg
       
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio
    • cefnogi'r economi sylfaen drwy gefnogi busnesau lleol, cadwyni cyflenwi a swyddi
    • buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf
    • gwneud ein dinasoedd, trefi a phentrefi yn lleoedd gwell byth i fyw a gweithio ynddynt, gan gefnogi ein targed o 30% yn gweithio o bell a'n targed o 45% o deithiau’n deithiau drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040.
       
  • Lleihau anghydraddoldeb o bob math
    • hyrwyddo tegwch a chyfiawnder cymdeithasol wrth gynllunio a chaffael buddsoddiad cyfalaf.
       
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell byth i fyw a gweithio ynddynt
    • Rhyddhau tir cyhoeddus i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu
    • Ystyried sut i ddod â gwasanaethau a chontractau yn ôl i sector cyhoeddus cryfach mewn ffordd gynaliadwy a fforddiadwy

Bydd Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW3) yn ein cefnogi yn ein gwaith ar gyfer 2022-2025 gan ddarparu cyllid grant refeniw a chyfalaf i gefnogi'r blaenoriaethau hyn, gan ganolbwyntio ar:

  • Gwneud yr ystâd gyhoeddus yng Nghymru yn fwy cynaliadwy; a
  • Chwalu’r rhwystrau ar gyfer cydweithredu

Trosolwg o ACPW3

Nod grant ACPW3 yw helpu sefydliadau Sector Cyhoeddus Cymru i gydweithredu â’i gilydd (dylai sefydliadau'r Trydydd Sector gael bod yn bartneriaid cydweithredol yn unig, heb yr hawl i wneud cais am y cyllid hwn).

Rhaid i'ch Prosiect gynnwys asedau tir neu eiddo'r sector cyhoeddus a bydd naill ai’n chwalu rhai o'r rhwystrau ar gyfer cydweithredu neu’n cyfrannu at ddarparu ystâd sector cyhoeddus gynaliadwy yn y dyfodol.

Bydd croeso arbennig i brosiectau sy'n cyfrannu at y canlynol:

  • Datgarboneiddio adeiladau ac asedau cyhoeddus eraill
  • Gwella bioamrywiaeth gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Gwneud yr amgylchedd yn fwy cynaliadwy gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Sbarduno neu gefnogi twf neu gydnerthedd economaidd gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Creu gwerth cymdeithasol gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Arloesi gan ddefnyddio asedau cyhoeddus

Ceisiadau

Croesewir ceisiadau grant ar gyfer hyd at £75,000 (refeniw) a hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf.

Dylid gwneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais am grant

Rhaid i brosiectau gynnwys asedau sy'n eiddo cyhoeddus a rhaid cwblhau'r prosiect o fewn blwyddyn ariannol 2024-25 (1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025).

Bydd cais(ceisiadau) llwyddiannus yn cael eu cyflwyno i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gydag argymhelliad i gymeradwyo grant.

Rhaid i bartïon y prosiect ddarparu copi o'u cytundebau cydweithredu perthnasol y byddant wedi’u llunio cyn gwneud cais am y grant.

Monitro

Bydd gofyn i chi nodi allbynnau’ch cais, a fydd yn rhan o'r Llythyr Cynnig Grant. Fel rhan o'n prosesau monitro grantiau, byddwn yn gofyn i chi adrodd i ni ar allbynnau'r prosiect o bryd i'w gilydd. Bydd gofyn i chi gael a chadw'r dystiolaeth i gadarnhau’r allbynnau hyn. Byddwn yn gofyn am weld y dystiolaeth o bryd i'w gilydd. 

GDPR

Ni fydd Dibenion y Dyfarniad Grant hwn yn gofyn am brosesu unrhyw ddata personol ar ran Llywodraeth Cymru. Os ydych chi’n credu y bydd angen prosesu data personol ar ran Llywodraeth Cymru, rhowch wybod i swyddogion Llywodraeth Cymru gan ddarparu’r manylion er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau ysgrifenedig pellach gennym mewn perthynas â phrosesu ar ein rhan.

Mae hysbysiad preifatrwydd grantiau Llywodraeth Cymru yn esbonio sut rydym yn trin unrhyw ddata personol mewn perthynas â'ch cais am grant neu'ch cais am arian grant.

Caffael

haid i brosiectau gael eu rheoli a'u caffael mewn modd sy'n cydymffurfio â’r rheolau.

Rhaid i nwyddau, gwasanaethau, gwaith ymgynghori, ymchwil neu waith sy’n angenrheidiol i gynnal prosiect, gael eu caffael yn briodol a rhaid gofalu bod pob ymarfer caffael yn deg, yn agored ac yn:

  • cael ei gynnal mewn modd moesegol, cynaliadwy ac atebol sy’n cydymffurfio â rhwymedigaethau gweithdrefnol, cyfreithiol a rhyngwladol;
  • sicrhau gwelliant parhaus o ran gwerth am arian, yn seiliedig ar gost oes gyfan ac ansawdd nwyddau a gwasanaethau
  • yn helpu i wneud cyflenwyr yn fwy cystadleuol;

Dylid caffael gwasanaethau dylunio arbenigol ac asiantau cyflenwi priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau caffael safonol eich sefydliad.  Mae angen i gontractau dros drothwyon yr OJEU gydymffurfio â chyfarwyddebau caffael Ewropeaidd.  Dylai’r broses gaffael gyd-fynd hefyd â datganiad polisi caffael Cymru.

Mae’n dderbyniol defnyddio cytundebau fframwaith presennol cyhyd â’u bod yn cael eu dyfarnu’n briodol.

Ni fydd gwariant ar nwyddau, gwasanaethau, gwaith ymgynghori, ymchwil neu waith na chafodd ei gaffael yn unol â’r canllawiau hyn, yn gymwys am gymorth.

Rhaid i Awdurdodau Lleol fabwysiadu eu gweithdrefnau cydymffurfio eu hunain wrth gaffael, ac os ydynt yn cael eu cyflenwi gan drydydd parti dylent sicrhau bod sefydliadau/partner trydydd parti yn dilyn prosesau caffael cadarn sy’n cydymffurfio.

Bydd ymgeiswyr yn cynnal yr ymarfer caffael priodol cyn gwneud cais i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am dystiolaeth o'r broses gaffael wrth arfarnu cais.

Dylid cyflwyno'r dogfennau tendro, gan gynnwys adroddiad tendr, gyda'ch cais.

Rheoli cymhorthdal

(Noder mai canllaw yw’r canlynol a rhaid i'r ymgeisydd gynnal ei ymchwiliadau ei hun i Reoli Cymhorthdal neu Gymorth Gwladwriaethol a gwneud asesiad o'i brosiectau ei hun a phrosiectau trydydd parti) 

Mae'r DU yn gweithredu o dan gyfundrefn Cymhorthdal interim y DU, ers gadael yr UE.

Gan y gellid ystyried bod unrhyw gymorth cyhoeddus yn Gymhorthdal, gofynnir i ymgeiswyr ystyried a nodi ar y ffurflen gais a yw'r prosiect yn cyfrif fel Cymhorthdal a rhoi'r rhesymau pam, gan ystyried rheolau Cymhorthdal y DU.

Mae cefndir defnyddiol i ymrwymiadau cymorthdaliadau newydd y DU ar gael yn y canllaw cryno i ddyfarnu cymorthdaliadau (ar GOV.UK).

Fodd bynnag, dylid ystyried Cytundeb Ymadael y DU a rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE pan fydd cyllid yn cynnwys Cronfeydd Strwythurol yr UE.

Ffurflen gais

Dylid gwneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais am grant

Rhestr Wirio a Matrics Sgorio'r Panel Sgorio

Bydd aelodau'r panel yn ystyried pob Ffurflen Gais am Grant neu Achos Busnes yn unol â rhestr wirio aelodau'r panel ac yn eu hasesu gan ddefnyddio matrics sgorio unigol.

Llythyr cynnig grant

Caiff y Llythyr Cynnig Grant (gweler Atodiad 5) ei gwblhau a'i anfon yn dilyn cymeradwyaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Bydd gofyn i ymgeiswyr lofnodi copi i ddangos eu bod yn cytuno â’r telerau ac amodau a'i ddychwelyd i flwch post YstadauCymru@gov.wales . Rhaid i'r llythyr gael ei lofnodi gan un o lofnodwyr awdurdodedig y Corff Arwain a'r Cyd-bartner(iaid) (gan y Cyd-bartner(iaid) fel cydnabyddiaeth yn unig).

Talu

Caiff Awdurdod Lleol, coleg neu brifysgol, gwasanaeth tân neu awdurdod heddlu ei dalu’n uniongyrchol drwy PayGrants (Rheolwr Grant: Clare Phillips ac RSO: Richard Baker).

Ni fydd unrhyw daliad ymlaen llaw a bydd angen tystiolaeth addas o'r costau sydd wedi’u gwario e.e. anfonebau/costau/offer staff ac ati neu dystiolaeth arall o'r fath yn ôl y gofyn, wrth gyflwyno hawliad am daliad. Nodir y dystiolaeth sydd ei hangen yn yr Atodiadau i'r Llythyr Cynnig Grant.