Neidio i'r prif gynnwy

Cam-drin Rhywiol yw hyn. Dyw hyn DDIM yn iawn

Cam-drin rhywiol yw unrhyw weithred rywiol ddigroeso, heb gydsyniad.

Gall effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg o’u bywydau. Gall ddigwydd o fewn teuluoedd neu mewn perthynas agos. Gall y person sy’n gyfrifol fod yn rhywun rydych chi’n ei adnabod neu’n ddieithryn.

Beth yw cydsyniad?

Cydsyniad rhywiol yw cytuno drwy ddewis i gyflawni gweithred rywiol, pan fo gan y person y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. Efallai nad oes gan berson y rhyddid neu’r dewis i gydsynio os yw’n:

  • ofni am ei fywyd neu ddiogelwch, neu am fywyd neu ddiogelwch rhywun arall 
  • cysgu neu anymwybodol  
  • analluog drwy alcohol neu gyffuriau

Mae’n bwysig gwybod y canlynol am gydsyniad rhywiol:

  • mae’n bosib cydsynio i un math o weithgaredd rhywiol ond nid un arall
  • mae modd tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg, hyd yn oed yn ystod gweithgaredd rhywiol
  • rhaid rhoi cydsyniad bob tro mae gweithgaredd rhywiol yn digwydd

Beth yw cam-drin rhywiol?

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd ar sawl ffurf gan gynnwys:

  • trais
  • ymosodiad rhywiol 
    • cyffwrdd mewn ffordd nad ydych yn ei hoffi heb gydsyniad 
    • gorfodi i gyflawni gweithred rywiol yn erbyn eich ewyllys
    • defnyddio gwrthrychau mewn ffordd dreisgar neu heb gydsyniad yn ystod rhyw
    • rhannu straeon neu ddelweddau rhywiol amdanoch chi heb gydsyniad
    • gorfodi i ddynwared pornograffi
    • gorfodi i gael eich recordio yn ystod rhyw neu 
  • aflonyddu rhywiol neu ddefnyddio enwau rhywiol neu ddifrïol 
  • cam-drin plant yn rhywiol neu losgach
  • anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM)
  • priodas drwy orfodaeth
  • masnachu mewn pobl neu gam-fanteisio rhywiol
  • rhywun yn dangos rhan bersonol o’i gorff ar-lein neu oddi ar lein

Mae trais a cham-drin rhywiol yn droseddau. 

Eich dewis chi yw dweud wrth yr heddlu neu beidio. Ni ddylai ac ni all unrhyw un arall wneud y dewis ar eich rhan.

I gael rhagor o gyngor cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn.

Adnabod yr arwyddion

Gall dioddef camdriniaeth rywiol gael effaith andwyol, hirdymor yn emosiynol, yn seicolegol ac yn gorfforol. Gall hyn gynnwys:

  • iselder ysbryd neu orbryder 
  • methu cysgu
  • newid ymddygiad yn annisgwyl neu heb esboniad
  • clefydau wedi’u trosglwyddo’n rhywiol
  • ôl-fflachiau 
  • ystyried hunanladdiad 
  • anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
  • ymdeimlad o ddatgysylltiad
  • anhwylderau bwyta 
  • hunan-anafu ac ymddygiad hunan-niweidiol 
  • diffyg hunan-barch a/neu hyder

Storiâu Byw Heb Ofn

Darllenwch stori Emma

Darllenwch stori Mike

Ymunwch â’r ymgyrch Cam-drin Rhywiol yw hyn

  • Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio  #CamdrinRhywiolYwHyn
  • Lawrlwythwch ragor o wybodaeth, gan gynnwys fideos, posteri a delweddau i hyrwyddo’r ymgyrch.

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind wedi dioddef camdriniaeth rywiol, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 i gael cyngor a chymorth 24 awr yn rhad ac am ddim, neu i drafod eich opsiynau. 

Os ydych mewn perygl neu angen sylw meddygol ar frys, ffoniwch 999 i siarad â’r heddlu neu ofyn am ambiwlans.