Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru wedi cymryd cam mawr ymlaen o ran diogelu preswylwyr yn eu cartrefi ar ôl i'r Senedd heddiw (dydd Mawrth, 10 Mawrth) basio'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) — un o'r darnau mwyaf o ddeddfwriaeth a ystyriwyd erioed gan y Senedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Bil yn sefydlu cyfundrefn gynhwysfawr newydd o ran diogelwch adeiladau ar gyfer preswylwyr adeiladau a rennir ledled Cymru, waeth beth fo uchder neu ddeiliadaeth yr adeilad. Mae'n ehangach o ran cwmpas ac uchelgais na deddfwriaeth gyfatebol yn Lloegr ac mae'n cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud diogelwch adeiladau yn egwyddor gadarn ar gyfer sut mae cartrefi ac adeiladau yn cael eu rheoli ledled y wlad.

Ganwyd y ddeddfwriaeth allan o drychineb Tŵr Grenfell yn 2017, lle collodd 72 o bobl eu bywydau. Mae'n ceisio sicrhau na ellir byth ailadrodd y methiannau a gyfrannodd at y trychineb hwnnw yng Nghymru.

Mae tair egwyddor sylfaenol yn sail i'r Bil:

  • Diogelwch: Mae'r Bil yn mynnu bod asesiadau risg tân yn cael eu cynnal gan bersonau cymwys yn unig, gyda chosbau troseddol i'r rhai nad ydynt yn cydymffurfio - gan fynd i'r afael yn uniongyrchol â phryder a godwyd gan Ymchwiliad Tŵr Grenfell.
  • Atebolrwydd: Mae'r ddeddfwriaeth yn sefydlu cyfrifoldebau cyfreithiol clir i'r rhai sy'n rheoli adeiladau, gan roi terfyn ar unrhyw ddryswch ynghylch pwy sy'n atebol am risgiau diogelwch adeiladau.
  • Llais y Preswylydd: Bydd y Bil yn grymuso preswylwyr drwy roi iddynt lwybrau clir ar gyfer gwneud iawn am adeiladau a llais cryfach mewn materion sy'n effeithio ar eu cartrefi, ynghyd â chyfrifoldebau priodol i breswylwyr gyda chymorth ar ffurf canllawiau i'w helpu i gyfrannu at amgylchedd byw mwy diogel.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

Mae heddiw yn foment nodedig i ddiogelwch adeiladau yng Nghymru. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn darparu cyfundrefn newydd i drigolion ledled Cymru, waeth beth fo math, uchder neu ddeiliadaeth yr adeilad - gan fynd ymhellach nag unrhyw beth sy'n bodoli mewn mannau eraill yn y DU.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ac arbenigedd cymaint o bartneriaid. Rwyf am dalu teyrnged arbennig i dri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru a'r nifer o breswylwyr a lesddeiliaid a rannodd eu profiad byw gyda ni — mae eu lleisiau wedi llywio'r ddeddfwriaeth hon a byddant yn parhau i fod yn bwysig wrth inni ei gweithredu.

Drwy basio'r Bil hwn heddiw, rydym wedi cymryd cam enfawr ymlaen i sicrhau bod pobl Cymru yn ddiogel yn eu cartrefi.

Heddiw mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi adroddiad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud i weithredu argymhellion Ymchwiliad Tŵr Grenfell ac mae'n parhau i gefnogi lesddeiliaid a phreswylwyr drwy'r rhaglen adfer diogelwch adeiladau.