Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, a pham?

Sut rydych wedi / sut y byddwch yn cymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth gymryd y camau arfaethedig, drwy gydol y cylch polisi a chyflawni?

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) yn cynnig cymorth i fusnesau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, ac mae'n cynnwys y camau a ganlyn:

Cyllid*

Dyddiad

Swm

Cam 1 y Gronfa Cadernid Economaidd

Ebrill 2020

£400,000,000

Cynllun Benthyciadau i Fusnesau yng Nghymru yn sgil Covid-19 − Banc Datblygu Cymru (yn darparu benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000)

Ebrill 2020

£100,000,000

Cam 2 y Gronfa Cadernid Economaidd

Mehefin 2020

£300,000,000

Cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd

Hydref 2020

£100,000,000

Cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd −

Ardrethi Annomestig – y Cyfyngiadau Symud

Hydref 2020

£199,500,000

Ardrethi Annomestig − Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau

Rhagfyr 2020

£160,000,000

Y Gronfa Cadernid Economaidd – y Gronfa ar gyfer Sectorau Penodol (Lletygarwch, twristiaeth, hamdden a chwmnïau cyflenwi)

Ionawr 2021

£180,000,000

Y Gronfa Cadernid Economaidd – Cam 2 y Gronfa ar gyfer Sectorau Penodol

Mawrth 2021

£30,000,000

Cymorth gydag Ardrethi Annomestig ar gyfer y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad yw’n hanfodol

Mawrth 2021

£150,000,000

 

Cyfanswm

£1,619,500,000

*Nid yw’n cynnwys rhyddhad Ardrethi Busnes yn 2020/21 a chronfeydd pwrpasol llai

Mae cronfa Banc Datblygu Cymru yn cefnogi busnesau sydd wedi bod yn masnachu ers dros ddwy flynedd. Nid oes unrhyw ffioedd trefnu/monitro, mae’r llog yn sefydlog ar 2%, ac mae gwyliau ad-dalu llog/cyfalaf am y flwyddyn gyntaf.   

Mae grantiau’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhoi cymorth i fusnesau/elusennau fynd i’r afael ag effeithiau Covid-19 ac mae'n ceisio lliniaru’r pwysau ar lif arian pan nad oes cymorth arall ar gael i helpu gyda hynny. Mae’r manylion am bwy sy’n gymwys ar gyfer cam 1 i’w gweld yma: Y Gronfa Cadernid Economaidd - y cyfnod ymgeisio yn dechrauMae’r meini prawf yr un fath ar gyfer cam 2 ond mae’r micro gynllun yn golygu bod cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW yn cael gwneud cais. Mae Cam 3,  'y Gronfa i Fusnesau yn sgil y Cyfyngiadau Symud', yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol oherwydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r manylion a gwybodaeth am bwy sy’n gymwys i wneud cais i’w gweld yma: Cartref COVID-19: Cymorth i Fusnes.

Gweinyddir yr elfen Ardrethi Annomestig (NDR) gan yr awdurdodau lleol ac mae'n rhoi cymorth i fusnesau cymwys gyda’u hardrethi busnes. Mae grant yn ôl disgresiwn ar gael hefyd ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021 drwy gyflwyno ceisiadau i’r awdurdodau lleol. Mae'r pecyn cymorth wedi'i dargedu at y sectorau y mae'r cyfyngiadau symud yn effeithio’n fwyaf difrifol arnynt.

Gall busnesau sydd wedi'u cofrestru at ddibenion ardrethi annomestig gael taliadau rhwng £3,000 a £5,000 ac mae busnesau nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion ardrethi annomestig ac sydd â throsiant blynyddol o lai na £50,000 yn gymwys i wneud cais am grantiau o hyd at £2,000. Mae rhagor o fanylion am y gronfa ar gael yma: Cartref COVID-19: Cymorth i Fusnes.

Y tymor hir

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y bydd Covid-19 yn cael cryn effaith ar yr economi. Er mai mesur tymor byr yw’r Gronfa Cadernid Economaidd a gafodd ei datblygu’n gyflym er mwyn cadw busnesau i fynd a diogelu swyddi, mae iddi effeithiau cadarnhaol o ran goroesiad busnesau yn y tymor hwy, ac mae’n diogelu'r anghenion economaidd yn y tymor hwy. Mae Cam 3 yn rhoi cymorth i fusnesau gyda’u llif arian i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau symud cenedlaethol sydd ar waith, ac mae'r elfen ardrethi annomestig yn rhoi cymorth gydag ardrethi busnes.

Mae’n Contract Economaidd yn helpu i newid ymddygiad busnesau fel y bo arferion busnes ac arferion cyflogaeth cyfrifol yn dod yn norm yng Nghymru. Mae’n golygu ei bod yn ofynnol i fusnesau sy’n gofyn am fuddsoddiad ddangos eu bod yn bodloni’r gofynion hyn:

  • Potensial i dyfu.
  • Gwaith Teg.
  • Hybu iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, sgiliau, a dysgu yn y gweithle.
  • Cynnydd o ran lleihau ôl troed carbon.  

Bydd hyn yn arwain at effeithiau cadarnhaol dros y tymor hirach. Rydym yn parhau i fonitro amodau economaidd Cymru, a gall y gwaith hwnnw helpu i lywio polisïau at y dyfodol.

Atal

Mae llawer iawn o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn sectorau y mae Llywodraeth y DU wedi pennu eu bod mewn perygl  o ddioddef ‘effaith niweidiol sylweddol ar unwaith’. Er nad oes modd atal effaith lawn Covid-19, mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn helpu i gadw busnesau i fynd ac i ddiogelu swyddi, sy’n arwain at lai o effeithiau negyddol nag y byddid wedi’u gweld fel arall.

Mae Datblygu Economaidd yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru. Rhan o’r rôl honno yw helpu i greu amgylchedd sefydlog a ffafriol ar gyfer busnesau a mynd i’r afael â methiannau yn y farchnad. Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cyfrannu at yr amcanion hyn. Gellir defnyddio gwybodaeth a gesglir drwy fonitro tra bo’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei rhoi ar waith a phan ddaw i ben hefyd, er mwyn llywio polisïau at y dyfodol.

Integreiddio

Cafodd y Gronfa Cadernid Economaidd ei datblygu i gyd-fynd â’r cyd-destun polisi ehangach, gan gynnwys y fframwaith polisi a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi sydd gan Lywodraeth Cymru. Rhoddir ystyriaeth briodol i’r angen i ddefnyddio buddsoddiad cyhoeddus sydd â phwrpas cymdeithasol fel y nodir yn y Contract Economaidd.

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd yn bodoli ochr yn ochr ag ymyriadau eraill ac mae’n mynd i’r afael â’r bylchau yn y cymorth sydd ar gael.  Mae’n cyd-fynd ag amcanion llesiant Cymru gydnerth a Chymru lewyrchus.

Cydweithio

Mae Gweinidog yr Economi yn cyfarfod yn rheolaidd â rhanddeiliaid i rannu/dderbyn gwybodaeth. Mae hynny’n ein helpu i lunio’n hymateb economaidd ac mae’n cyfrannu at gyfeiriad polisi. Mae’r rhanddeiliaid yn cynnwys:

  • Undebau Llafur
  • Bwrdd Cynghori’r Gweinidog
  • Awdurdodau Lleol
  • Sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau a chyrff masnach
  • Cyngor Datblygu’r Economi

Yn ystod y pandemig, trefnodd Gweinidog yr Economi y cyfarfodydd isod:

  • Trafodaethau bord gron gyda banciau
  • Cydffederasiwn Diwydiant Prydain
  • Cyfarfod Partneriaeth y Trydydd Sector
  • TUC
  • Cynrychiolwyr Busnes
  • Ymgysylltu â Chymdeithas Yswirwyr Prydain/cwmnïau yswiriant mawr

Roedd cymhlethdod a chyflymder y gwaith yn ystod cyfnod cynnar Covid-19 yn golygu ei bod yn anodd iawn ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid ynglŷn â’r Gronfa Cadernid Economaidd. Ymdrechwyd i’r eithaf i ystyried ac ymateb i faterion wrth iddynt ddod i’r amlwg. Parhaodd ein Prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau’r sectorau, gan gynnwys y sectorau Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, i gysylltu a thrafod gyda rhanddeiliaid cyn y camau gwahanol. Newidiwyd y meini prawf ar gyfer micro gynlluniau mewn ymateb i adborth a ddaeth i law. 

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn llenwi bylchau mewn cefnogaeth ac fe'i datblygwyd i gynorthwyo cymaint o fusnes â phosibl o fewn y cylch gwaith.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn llenwi bylchau yn y cymorth sydd ar gael a chafodd ei datblygu i helpu cynifer o fusnesau â phosibl o fewn ei chylch gwaith.

Mae’n rheolwyr cysylltiadau rhanbarthol wedi cysylltu a thrafod â busnesau drwy gydol y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r Gronfa Cadernid Economaidd.  Mae’n Prif Swyddogion Rhanbarthol wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid rhanbarthol – elfen hollbwysig wrth estyn allan (yn enwedig i leoliadau anodd eu cyrraedd). Bydd gwybodaeth a gesglir wrth fonitro yn helpu i asesu’r effeithiau a gaiff y cymorth a roddir o dan y Gronfa Cadernid Economaidd.  Bydd arolwg (i’w gwblhau erbyn haf 21) yn rhan o’r gwaith ymchwil a wneir gan Adran yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a bydd arolygon o’r fath yn cael eu cynnal eto yn ystod camau perthnasol y Gronfa Cadernid Economaidd. Bydd y canlyniadau’n cael eu defnyddio i lywio polisïau at y dyfodol. Bydd systemau monitro Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnal arolygon ymhlith y rheini a fydd yn cael cymorth, a bydd y systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a’r ymchwil yn darparu data a fydd yn caniatáu inni weld demograffeg y rheini sy’n gofyn am gymorth ac yn ein galluogi i fonitro llwyddiant y cynllun.

Cynnwys eraill

Drwy gasglu gwybodaeth amser real oddi wrth fusnesau/randdeiliaid, gwnaethom gasglu tystiolaeth er mwyn canfod bylchau a mireinio camau gwahanol y Gronfa Cadernid Economaidd o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud. Rydym yn parhau i gysylltu a thrafod â rhanddeiliaid wrth inni weithredu’r Gronfa Cadernid Economaidd a bydd hynny’n llywio polisïau at y dyfodol.

Yn ogystal â’r pum ffordd o weithio uchod, ystyriwch y meysydd a ganlyn:

Effaith

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru, Covid-19 a chyflogaeth: dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig, yn nodi bod oddeutu 230,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn 2019 mewn diwydiannau yng Nghymru a gafodd eu cau ar ddechrau’r pandemig. Roedd hynny’n rhyw 16% o gyfanswm y gweithlu. Mae menywod, pobl ifanc a gweithwyr o gefndir BAME (Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y diwydiannau hynny. Gwnaethom ysgrifennu at gysylltiadau sydd gennym ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth ac Ymgysylltu ar 22 Medi 2020 er mwyn casglu adborth a nodi unrhyw effeithiau cadarnhaol/negyddol a gafodd camau 1 a 2 o’r Gronfa Cadernid Economaidd. Gall yr adborth hwnnw lywio polisïau at y dyfodol. Daeth ymateb i law oddi wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a ddywedodd wrthym fod y dystiolaeth yn dangos bod

Covid-19 yn cael effaith anghymesur ar rai pobl. Yng nghyd-destun y Gronfa Cadernid Economaidd, maent yn tynnu sylw'n benodol at yr effaith anghyfartal ar leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl ifanc, menywod a phobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Diwygiwyd y Gronfa er mwyn ceisio lliniaru'r effeithiau hynny a chymerwyd camau ychwanegol i fynd i'r afael â nhw, drwy gynlluniau sy’n cynnwys y Gronfa Ddewisol, cyllideb ychwanegol i'r Gronfa Cymorth Dewisol a chynlluniau pwrpasol fel cronfeydd Dechrau Busnes a chronfeydd ar gyfer Gweithwyr Llawrydd.

Mae’r sectorau a gafodd eu cau wedi gweld gostyngiad difrifol yn y galw, a disgwylir effaith sylweddol ar sectorau eraill.  Bydd natur eang effeithiau’r gostyngiad yn y galw yn ymdreiddio i b ob sector, a hynny ar raddfa fawr. Bydd effeithiau eraill yn dod i’r amlwg yn y gadwyn gyflenwi, drwy weithluoedd llai a phroblemau gyda llif arian. Bydd profiad pob busnes yn ystod yr argyfwng hwn yn wahanol, gan gynnwys y rheini a fydd yn:

  • Gorfod rhoi’r gorau i fasnachu
  • Rhoi’r gorau i weithredu dros y tymor canolig
  • Gallu addasu i weithio o bell
  • Parhau i fasnachu oherwydd bod eu busnes yn hanfodol er mwyn i’r genedl fedru gweithredu
  • Gorfod parhau â’u gweithrediadau drwy gyfnod y cyfyngiadau symud er bod eu gwerthiant wedi diflannu.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhoi cymorth hollbwysig i fusnesau i’w helpu i ddal ati ac i ddiogelu swyddi.

Costau ac arbedion

Mae’r cyllid a ddarparwyd yn gyfanswm o £1,619.5 miliwn. Os bydd rhagor o adnoddau ar gael, gallai'r ffigur hwnnw gynyddu, er enghraifft, mae swm o £200 miliwn wedi'i nodi yng nghyllideb 2021-22 ar gyfer cyllid yn y dyfodol a bydd rhagor o gynigion yn dilyn yn ôl yr angen.

Mecanwaith

Mae gan Fanc Datblygu Cymru brosesau ar waith er mwyn i fusnesau fedru cyflwyno ceisiadau ac mae ganddo systemau i fonitro llwyddiant. Mae’r elfen grant yn cael ei darparu drwy Busnes Cymru ac mae ganddo brosesau ar waith i ymdrin ag ymholiadau, asesu ceisiadau a chyhoeddi cynigion. Bydd systemau Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio i gofnodi gwybodaeth ac i ddarparu gwybodaeth fonitro er mwyn asesu effeithiolrwydd y Gronfa Cadernid Economaidd. Bydd modd defnyddio’r wybodaeth honno i lywio bolisïau at y dyfodol.

Casgliad

Sut yr aed ati i gynnwys y bobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wrth i’r cynnig hwnnw gael ei ddatblygu?

Oherwydd bod angen gweithredu’n ddiymdroi i sicrhau bod cymorth ar gael mewn ymateb pandemig, nid oedd modd trafod y Gronfa Cadernid Economaidd gyda rhanddeiliaid cyn datblygu/lansio’r cynllun. Fodd bynnag, cafodd ystod eang o randdeiliaid eu briffio ar 9 Ebrill. Gwnaethom ysgrifennu at gysylltiadau sydd gennym ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth ac Ymgysylltu ar 22 Medi 2020 er mwyn casglu adborth a nodi unrhyw effeithiau cadarnhaol a negyddol a gafodd camau 1 a 2 ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno i lywio polisïau at y dyfodol. Daeth ymateb i law oddi wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a ddywedodd wrthym fod y dystiolaeth yn dangos bod Covid-19 a’r ymatebion iddo yn cael effaith anghymesur ar rai pobl. Yng nghyd-destun y Gronfa Cadernid Economaidd, maent yn tynnu sylw'n benodol at yr effaith anghyfartal ar leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl ifanc, menywod a phobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Byddwn hefyd yn cynnwys ac yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid er mwyn llunio strategaeth effeithiol i ailadeiladu economi Cymru. Byddwn yn ceisio barn am y strategaeth ac unrhyw effeithiau posibl y gallai eu cael ar y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig ac ar siaradwyr Cymraeg. 

Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol?

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cynnig manteision cadarnhaol yn bennaf i’r rhan fwyaf o bobl â nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu cyflogi yn y sectorau yr effeithir arnynt. Fodd bynnag, mae rhai agweddau wedi golygu nad yw rhai grwpiau wedi gweld cymaint o fudd:

  • Rhywedd − Mae rhai sectorau, fel darparwyr gwasanaethau gwallt a harddwch, yn annhebygol o gyrraedd y trothwy i gofrestru at ddibenion TAW ac, yn nodweddiadol, mae mwy o fenywod yn cael eu cyflogi yn y sectorau hynny. Yn dilyn adborth a gafwyd am Gam 1, cafodd y gofyniad hwnnw ei ddileu ar gyfer microfusnesau yn y camau dilynol.
  • Hil – dim ond ffurflenni cais Cymraeg neu Saesneg sydd ar gael. Gallai fod yn anodd i bobl nad ydynt yn medru’r Gymraeg/Saesneg lenwi’r ffurflen gais. Ystyrir nad oes llawer o fusnesau’n perthyn i’r categori hwn a bod yr effeithiau’n fach iawn. Byddai Busnes Cymru yn ceisio dod o hyd i ateb pe na bai rhywun yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg.
  • Oedran – Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd yn broses ar-lein. Mae’n bosibl nad oes offer TG ar gael i rai pobl (e.e. pobl hŷn) fedru cyflwyno’r cais. Barnwyd mai ychydig iawn o fusnesau a fyddai yn y sefyllfa honno, felly, ni chafodd ffactorau lliniaru eu rhoi ar waith.
  • Crefydd - Mewn crefyddau Abrahamaidd, yn draddodiadol, mae rheolau sy’n ymwneud ag ‘usuriaeth’ – rhoi benthyg arian am log.  Gallai hynny felly atal rhai dilynwyr Iddewiaeth, Islam a Christnogaeth rhag cymryd benthyciadau, ond byddent yn gallu gwneud cais am elfen grant y cynllun.

Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cefnogi Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’n cyd-fynd ag amcanion Llesiant Cymru Gydnerth a Chymru Lewyrchus.

Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth, hawliau plant, cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg neu unrhyw un arall o’r meysydd sy’n cael sylw yn eich asesiadau effaith?

O dan y Contract Economaidd, mae’n ofynnol i fusnesau sy’n gwneud cais am fuddsoddiad ddangos eu bod, man lleiaf, yn bodloni’r gofynion sylfaenol hyn: Potensial i dyfu, Gwaith Teg, Hybu iechyd, a Chynnydd o ran lleihau ôl troed carbon. Bydd hynny’n helpu i newid ymddygiad dros amser er mwyn i arferion busnes ac arferion cyflogaeth cyfrifol ddod yn norm yng Nghymru.

Nid ystyrir y bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn cael unrhyw effeithiau uniongyrchol ar hawliau plant, ond bydd yn diogelu swyddi gan olygu bod rhieni/gofalwyr yn parhau mewn gwaith.

Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei gweinyddu drwy Busnes Cymru, sy’n darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Mae ganddo 12 Swyddog Cymraeg i Fusnesau sy’n gallu cynnig cymorth rhad ac am ddim i helpu busnesau i ddefnyddio rhagor o Gymraeg ac sy’n darparu gwasanaeth pwrpasol sy’n cynnig cyngor a dulliau ymarferol, yn ogystal â helpu busnesau i ddod o hyd i ragor o gefnogaeth berthnasol.

Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gryfhau ei chyfraniad at nod penodol neu i gyfrannu at nodau ychwanegol?

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cyfrannu’n uniongyrchol at Nodau Llesiant Cymru Lewyrchus a Chymru Gydnerth. Mae hefyd yn cyfrannu’n anuniongyrchol, drwy’r Contract Economaidd, at Gymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang a Chymru sy’n Fwy Cyfartal. Cafodd y Gronfa Cadernid Economaidd ei datblygu er mwyn sicrhau bod cynifer o fusnesau â phosibl yn gallu cael gafael ar gymorth (gan gynnwys sefydliadau diwylliannol a sefydliadau ym maes y celfyddydau). Mae’r Gronfa yn cael effaith hefyd o ran Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu.

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd yn darparu cymorth dros dro yn ystod y pandemig. Mae’r camau pellach yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol oherwydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol yng Nghymru. Mae'r gronfa'n rhoi cymorth i fusnesau gyda’u llif arian i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau.

Mae'r gronfa ardrethi annomestig yn darparu pecyn cymorth sy'n gysylltiedig â'r system Ardrethi Annomestig, ac mae’n cael ei chyflwyno drwy'r awdurdodau lleol.

Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i osgoi, i leihau neu i liniaru effaith negyddol?

Ystyrir bod y Gronfa Cadernid Economaidd yn cael effeithiau cadarnhaol yn bennaf ar fusnesau, ar berchnogion ac ar weithwyr yn y sectorau hynny y mae Covid-19 yn effeithio arnynt fwyaf. Mae yna rai agweddau ar y gronfa sy’n golygu bod llai o fudd i rai grwpiau ond ystyrir mai bach iawn yw’r rheini ac ni chymerwyd unrhyw gamau yn eu sgil.

Os na fydd camau’n cael eu cymryd i osgoi, i liniaru neu i wneud iawn am effaith negyddol, eglurwch pam

Nid oedd modd osgoi’r angen i wneud ceisiadau ar-lein pan oedd y wlad dan gyfyngiadau symud llawn. Hyd yn oed wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, roedd y rhan fwyaf o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn dal ar gau ac roedd cyfyngiad o 20% ar gapasiti yn yr adeiladau a oedd yn agored. Barnwyd mai nifer bach o bobl fyddai ddim yn gallu gwneud cais ar-lein ac, o’r herwydd, ni chafodd mesurau lliniaru eu rhoi ar waith. Cyflwynwyd mesurau lliniaru mewn perthynas â’r gofyniad i fusnesau fod wedi’u cofrestru at ddibenion TAW drwy ddileu’r gofyniad hwnnw ar gyfer camau pellach y gronfa.

Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo gael ei ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben? 

Mae gan Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru ill dau systemau i gofnodi ac i fonitro gwybodaeth am berfformiad. Bydd hynny’n hollbwysig wrth benderfynu a yw’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei darparu’n effeithiol ai peidio. Bydd y data’n allweddol ar gyfer monitro a gwerthuso. Mae data wedi dylanwadu ar benderfyniadau rheoli wrth benderfynu sut y dylid dyrannu adnoddau yn y dyfodol, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal i fonitro faint sy’n manteisio ar y gronfa ac i fonitro gallu gweinyddol. Mae’r wybodaeth am berfformiad yn helpu i lywio’r adolygiadau hynny.

Mae’r dangosyddion perfformiad allweddol yn cynnwys: Nifer y Swyddi a Ddiogelwyd, Nifer y Swyddi a Ddiogelwyd am 12 mis, Nifer y Busnesau a Gynorthwywyd, a Nifer y Busnesau a Oroesodd ar ôl 12 mis. Gallai meini prawf monitro eraill mwy hirdymor gynnwys: Nifer y Busnesau yng Nghymru, cynnyrch domestig gros a statws credyd busnesau. Hefyd, mae Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn datblygu dangosfwrdd er mwyn monitro effaith ymyriadau economaidd.

Gofynnir am ddewis iaith yr ymgeisydd yn ail rownd y ceisiadau i’r Gronfa Cadernid Economaidd. Byddwn yn cynnal dadansoddiadau daearyddol ar lefel awdurdod lleol. Bydd ein gwerthusiad yn edrych ar effaith y Gronfa Cadernid Economaidd a byddwn yn dadansoddi data i weld faint o fusnesau a gefnogwyd, ym mha sectorau, daearyddiaeth, nifer y swyddi a gadwyd. Gallwn ddarparu dadansoddiad o berchnogion busnesau yn ôl grwpiau demograffig, pan fo’r data hynny gennym. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio arolwg cymunedol ynghylch effaith y cyfyngiadau Covid-19 ar wirfoddoli drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar ddefnydd o’r Gymraeg. Daeth yr arolwg hwnnw i ben ar 2 Hydref 2020.  

Mae'r elfen ardrethi annomestig yn rhoi cymorth i fusnesau i’w helpu gyda'u trethi busnes.  Mae’r manylion i'w gweld yma: Cartref COVID-19: Cymorth i Fusnes.