Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Mae’r datganiad hwn ar y sefyllfa yn amlinellu’r camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd mewn meysydd datganoledig, ers dechrau cylch adolygu cyfnodol cyffredinol diwethaf y DU yn 2017, i barchu, diogelu a gwireddu hawliau dynol pawb yng Nghymru. Nid yw’r datganiad untro hwn gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’r dogfennau ffurfiol a gyflwynir i’r Cenhedloedd Unedig. Yn hytrach, ei ddiben yw helpu’r partïon perthnasol i gyfrannu at brosesau adrodd y cytuniad a chraffu ar gofnod hawliau dynol Llywodraeth Cymru. Gellir ei ddefnyddio’n anffurfiol hefyd gan sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Rapporteurs Arbennig y Cenhedloedd Unedig a chyrff y cytuniad. Nid yw’n fwriad disodli Adroddiad Gwladwriaeth y DU mewn unrhyw fodd, na thanseilio ei gywirdeb.

Confensiynau'r Cenhedloedd Unedig (enghraifft o ymyrraeth Llywodraeth Cymru ym mhob achos)

Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol

Cafodd y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol ei fabwysiadu a'i agor i'w lofnodi, ei gadarnhau a'i dderbyn drwy Benderfyniad 2200 A (XXI) y Cynulliad Cyffredinol dyddiedig 16 Rhagfyr 1966. Daeth i rym ar 3 Ionawr 1976 ac fe'i cadarnhawyd gan y DU yn yr un flwyddyn.

Mae'r Cyfamod yn cynnwys rhai o'r darpariaethau cyfreithiol rhyngwladol pwysicaf sy'n sefydlu hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • gwaith o dan amodau teg a ffafriol
  • amddiffyniad cymdeithasol
  • safon byw ddigonol
  • y safonau iechyd corfforol ac iechyd meddwl uchaf y gellir eu cyrraedd
  • addysg
  • mwynhau manteision rhyddid diwylliannol a chynnydd gwyddonol

Cyflogaeth Pobl Anabl

Mae Gweinidogion Cymru yn canolbwyntio ar helpu pobl anabl i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd, gan roi cyngor ac arweiniad gyrfaol drwy Cymru'n Gweithio a helpu'r gweithlu presennol i ddatblygu sgiliau newydd a dod o hyd i swyddi newydd.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cynyddu nifer y prentisiaethau drwy roi cymhellion i gyflogwyr tan 28 Chwefror 2022, o hyd at £4,000, gyda thaliad ychwanegol gwerth £1,500 i gyflogwyr am bob prentis anabl newydd y maent yn ei gyflogi.

Ar 15 Tachwedd, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Warant i Bobl Ifanc a fydd yn cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bob person ifanc dan 25 oed, er mwyn sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yng Nghymru yn dilyn pandemig COVID-19.

Rydym hefyd wedi datblygu pecyn o gymorth i gyflogwyr sy'n darparu'r adnoddau i gynyddu gweithluoedd cynhwysol sy'n perfformio'n dda, gan helpu i ddileu rhwystrau cymdeithasol a gwella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl.  Mae hyn yn cynnwys pecyn cymorth i gyflogwyr sy'n eu harwain ar y daith o recriwtio pobl anabl i'w cadw, modiwl e-ddysgu i gyflogwyr ar fodel cymdeithasol anabledd, a gyhoeddir yn fuan, a chreu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl.

Mae'r Hyrwyddwyr yn gweithio gyda Busnes Cymru a chyflogwyr ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael a defnyddio eu profiad bywyd i eirioli dros gyflogi pobl anabl.  Maent yn codi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr, gan gynnwys  rhoi cyngor a chymorth ymarferol mewn perthynas â materion megis polisïau adnoddau dynol cynhwysol, recriwtio, ailhyfforddi a chadw staff.

Rydym hefyd yn defnyddio ein dull partneriaeth gymdeithasol a'n dylanwad i annog cyflogwyr i wneud mwy i fanteisio ar weithlu mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein hymyriadau, er mwyn cefnogi, hwyluso ac annog partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr, undebau llafur ac eraill i hyrwyddo arferion gorau, sy'n cynnwys codi ymwybyddiaeth o argaeledd a manteision y fenter hyrwyddwyr i gyflogwyr.

Gwaith Teg

Mae gwaith yn parhau i gyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Os caiff ei basio, bydd yn cyflwyno dyletswyddau newydd o ran partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.

Rydym hefyd yn defnyddio ein hysgogwyr anneddfwriaethol i hyrwyddo gwaith teg. Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cynnal ymgyrch Hawliau a Chyfrifoldebau'r Gweithlu
  • rhoi cymorth grant i Cynnal Cymru (sef corff achredu'r cyflog byw yng Nghymru), er mwyn iddo ariannu swyddog Cyflog Byw a hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol ymhellach yng Nghymru
  • sefydlu amrywiaeth o fforymau partneriaeth gymdeithasol gan gynnwys:
    • Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol er mwyn gwella amodau gwaith yn y sector gofal cymdeithasol
    • y fforwm Iechyd a Diogelwch cenedlaethol, er mwyn gwella'r ffordd yr ymdrinnir ag iechyd a diogelwch yn y gwaith
    • Y Fforwm Manwerthu er mwyn datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer sector manwerthu cynaliadwy a chydnerth sy'n cynnig gwaith teg, diogel a boddhaol.
  • Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn helpu sectorau eraill i gynyddu cyffredinrwydd gwaith teg, gan gynnwys y sector twristiaeth

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein dull o ymdrin â phartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg a hyrwyddo manteision gweithlu cyfartal, amrywiol a chynhwysol. Rydym hefyd yn gweithio ym mhob rhan o'r Llywodraeth i ymgorffori polisi gwaith teg yn y gyfres o gynlluniau gweithredu cydraddoldeb sydd gan Lywodraeth Cymru.

Wrth gefnogi'r agenda gwaith teg rydym yn gwneud y canlynol:

  • cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau na chymerir unrhyw gam yn ôl mewn perthynas â hawliau gweithwyr a galw am welliannau mewn rhai meysydd
  • cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a ffyrdd o gael cymorth a datblygu ymyriadau er mwyn gwella dealltwriaeth o rôl undebau llafur a manteision ymuno ag un. Atgyfnerthu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a chynyddu ei effaith

Wrth geisio ‘terfyn uchaf’ gweithio teg rydym yn gwneud y canlynol:

  • defnyddio pwrs y wlad i annog arferion da ac atal arferion gwael, gan gynnwys yr elfen gwaith teg wedi'i diweddaru o'r Contract Economaidd.
  • datblygu a chyfleu manteision busnes gwaith teg gyda'r sefydliadau cynrychioli busnesau sy'n weithredol ym maes partneriaeth gymdeithasol.
  • sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu fel arweinydd ac esiampl ar gyfer yr ymddygiadau a'r arferion rydym am eu gweld mewn sectorau eraill

Cyflog Byw Gwirioneddol

Rydym yn rhannu'r uchelgais a nodwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg yn Gwaith Teg Cymru, y bydd y Cyflog Byw Gwirioneddol yn “talu terfyn isaf yr isafswm cyflog ar gyfer yr holl oriau gwaith [yng Nghymru]”.

Rydym yn hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac yn annog cyflogwyr i'w fabwysiadu a chael eu hachredu, fel ffordd o fynd i'r afael â chyflogau isel a thlodi mewn gwaith. Ac adlewyrchir ein hymrwymiad i hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac yn y fersiwn wedi'i diweddaru o'r Contract Economaidd.

Fel rhan o'r camau y gallwn eu cymryd i sicrhau bod gwaith yn decach, rydym hefyd yn defnyddio ein dylanwad i sicrhau bod mwy o gyflogwyr yn mabwysiadu'r Cyflog Byw Gwirioneddol a chael eu hachredu.  Mae hyn yn cynnwys:

  • arwain drwy esiampl fel cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig
  • darparu cyllid er mwyn sicrhau y telir y Cyflog Byw Gwirioneddol i'r holl staff gofal cymdeithasol cofrestredig a chynorthwywyr personol, dylai staff weld y cynnydd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022
  • annog cyflogwyr yng Nghymru i ystyried manteision y Cyflog Byw iddyn nhw eu hunain fel cyflogwyr ac i'r rhai sy'n gweithio iddynt

Amgueddfeydd Lleol yn gwella llesiant

Gall anghydraddoldebau effeithio ar y ffordd y mae grwpiau gwahanol yn cael mynediad at ddiwylliant ac yn rhyngweithio ag ef mewn ffordd wahanol; mae llawer yn dal i deimlo eu bod wedi'u hallgáu o fannau sy'n anhygyrch neu yr ystyrir eu bod yn ‘ddiwylliant uchel’. Dyna pam mae gwaith amgueddfeydd lleol, sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r gymuned, mor bwysig i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae amgueddfeydd bach a mawr ledled Cymru yn cymryd camau i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal. Maent yn defnyddio cyfrwng diwylliant i gyfrannu at gyflawni pob un o'r nodau llesiant cenedlaethol ac amcanion llesiant eu hawdurdod lleol.

Sut mae Amgueddfeydd Lleol yn gwella Llesiant Astudiaeth Achos sy'n dangos sut mae amgueddfeydd yn gwella llesiant a ddarparwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol

Mabwysiadwyd Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR) yn 1966 a daeth i rym yn 1976. Fe'i cadarnhawyd gan y DU yn yr un flwyddyn.

Mae llawer o'r hawliau a gwmpesir gan y Cyfnod hefyd wedi'u cynnwys yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae'r ICCPR yn ei gwneud yn ofynnol i wledydd sydd wedi cadarnhau'r cytuniad i ddiogelu a chynnal hawliau dynol sylfaenol, megis:

  • yr hawl i fywyd ac urddas dynol
  • cydraddoldeb o dan y gyfraith
  • rhyddid mynegiant, ymgynnull ac ymgysylltu
  • rhyddid crefyddol a phreifatrwydd
  • rhyddid rhag artaith, triniaeth greulon neu gael eich cadw'n fympwyol
  • cydraddoldeb rhwng y rhywiau
  • yr hawl i gael treial teg
  • hawliau lleiafrifoedd

Mae'r DU wedi llofnodi'r ail Brotocol Dewisol i'r ICCPR, sy'n anelu at ddiddymu'r gosb eithaf. Fodd bynnag, nid yw wedi llofnodi'r Protocol Dewisol cyntaf, sy'n galluogi unigolion:

  • sy'n honni bod eu hawliau o dan y Cyfamod wedi'u bradychu
  • sydd wedi mynd â'u hachos drwy lysoedd y DU, ysgrifennu at y Pwyllog Hawliau Dynol er mwyn gofyn iddo ystyried eu hachos

Ceir adran gysylltiedig ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i Atgyfnerthu a Hyrwyddo Hawliau Dynol yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.

Amrywiaeth mewn Democratiaeth

Cam Dau, lansiwyd Cynllun Gweithredu Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth ym mis Medi 2020 ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o gamau gweithredu. Ar hyn o bryd, rydym yn gwerthuso'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn y cynllun. Mae'r canlynol wedi'i gyflawni hyd yma.

Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig

Mae pobl anabl yn debygol o wynebu costau uwch wrth geisio swydd etholedig, oherwydd eu namau. Sefydlwyd cronfa beilot Mynediad i Swyddi Etholedig er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i bobl anabl geisio swydd etholedig. Ariennir y gronfa hon, a weinyddir gan Anabledd Cymru, gan Lywodraeth Cymru ac mae'n talu am gymorth ymarferol er mwyn galluogi pobl anabl i gyfranogi'n llawn yn y broses wleidyddol.

Roedd cam cyntaf y cynllun peilot yn cefnogi unigolion a oedd yn sefyll yn etholiad y Senedd (Llywodraeth Cymru) yn 2021. Manteisiodd dau ymgeisydd ar y gronfa.

Agorodd ail gam y cynllun peilot ym mis Hydref 2021 er mwyn cefnogi ymgeiswyr anabl a oedd yn sefyll yn yr etholiadau llywodraeth leol i'r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru ym mis Mai 2022. Cynhaliwyd sawl digwyddiad Mynediad i Wleidyddiaeth gan Anabledd Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael a'r amserlenni ar gyfer ceisiadau.

Cyflwynwyd 18 o geisiadau i'r gronfa am gymorth ar gyfer yr etholiadau Llywodraeth Leol. Cynhelir gwerthusiad o'r trefniadau peilot yn ystod yr haf a bydd y canlyniad yn llywio'r camau nesaf mewn perthynas â'r gronfa.

Dyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i annog pobl leol i gymryd rhan yn eu prosesau gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys pan fydd cynghorau yn gwneud penderfyniadau mewn partneriaeth â phrif gyngor arall neu ar y cyd ag unigolyn neu gorff arall megis bwrdd iechyd lleol. Nodir hyn yn adran 39 o Ddeddf 2021 a bwriedir iddo'n benodol annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhrosesau democrataidd y cyngor fel pont ag ymgysylltiad uniongyrchol y cyhoedd â chynghorwyr.

Cyfarfod aml-leoliad

Mae bellach yn ofynnol i gynghorau ledled Cymru wneud trefniadau sy'n sicrhau y gall eu cyfarfodydd gael eu cynnal mewn ffordd sy'n galluogi pobl i gymryd rhan mewn cyfarfodydd o sawl lleoliad. Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi'r trefniadau hyn ac, os caiff y trefniadau eu diwygio neu eu disodli gan drefniadau eraill, rhaid i'r trefniadau newydd gael eu cyhoeddi hefyd. Er y bydd angen i gyfarfodydd allu cael eu cynnal yn rhithwir, mater i'r cyngor yw penderfynu a ddylid eu cynnal yn gwbl rithwir, yn rhannol rithwir, lle y bydd rhai cyfranogwyr yn yr un lleoliad ffisegol ac y bydd eraill yn ymuno â'r cyfarfod yn rhithwir, neu fel cyfarfodydd ffisegol. Mae'n ofynnol i'r cyngor ystyried amgylchiadau personol yr aelodau wrth benderfynu pa fath o gyfarfod y dylid ei gynnal. Bwriedir i'r trefniadau hyn roi mwy o hyblygrwydd i sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol.

Pobl yn rhoi ffurf ar eu cymunedau i'r dyfodol: Bannau Brycheiniog

Mae Bannau Brycheiniog yn cwmpasu 835 o filltiroedd sgwâr o'r tir harddaf a mwyaf cyfoethog o ran adnoddau naturiol yng Nghymru. Er gwaethaf harddwch naturiol y tir, nodweddir y parc cenedlaethol hefyd gan gysylltiadau cysylltedd gwael ac anghyfartaledd iechyd.

Mae’r awdurdod cynllunio sy’n gwasanaethu’r 33,500 o bobl sy’n byw ym Mannau Brycheiniog wedi dewis mynd i’r afael â’r heriau hyn mewn ffordd integredig drwy ei Gynllun Datblygu Lleol diwygiedig, a fydd yn seiliedig ar y cysyniad “cymdogaeth 20 munud”. Er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio eu lleoedd ar gyfer y dyfodol, mae’r awdurdod cynllunio wedi ymgymryd â sawl dull ac ymarfer ymgysylltu. Bydd y gwaith hwn yn helpu i gyflawni nifer o amcanion llesiant Bannau Brycheiniog ac mae’n cyfrannu at lawer o'r nodau llesiant cenedlaethol.

Sut mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn annog pobl leol i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol. Astudiaeth Achos sy'n dangos sut mae pobl leol yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol er mwyn gwella eu llesiant, a ddarparwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Y Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Ddiraddiol Arall

Mabwysiadwyd y Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Ddiraddiol yn 1984 a daeth i rym yn 1987. Fe'i llofnodwyd gan y DU yn 1988.

Mae'r Confensiwn yn nodi diffiniad o artaith ac yn golygu bod yn rhaid i Wladwriaethau gymryd pob cam deddfwriaethol, barnwrol gweinyddol a phob cam priodol arall i atal achosion o arteithio.

Mae ei brif nodweddion yn cynnwys y canlynol:

  • ni ellir byth cyfiawnhau artaith, hyd yn oed o dan amgylchiadau eithriadol
  • rhaid i artaith gael ei gynnwys fel trosedd benodol mewn cyfraith trosedd genedlaethol
  • rhaid i bob Gwladwriaeth sy'n Barti sefydlu awdurdodaeth fyd-eang dros unrhyw unigolion a geir yn ei thiriogaeth yr honnir iddo gyflawni trosedd artaith, waeth beth fo'i genedligrwydd neu ble y cyflawnwyd y drosedd.
  • adolygiad systematig o reolau, cyfarwyddiadau, dulliau ac arferion holi, yn ogystal â gweithdrefnau dalfeydd
  • rhaid i bob Gwladwriaeth sy'n Barti sefydlu ymchwiliadau prydlon a diduedd pryd bynnag mae sail resymol dros gredu bod gweithred o artaith wedi'i chyflawni mewn unrhyw diriogaeth o dan ei hawdurdodaeth
  • mae gan ddioddefwyr artaith yr hawl i gwyno a mynnu yr ymchwilir i'w hachos yn brydlon ac yn ddiduedd, yn ogystal â chael iawn ac iawndal

Mae'r DU wedi llofnodi'r Protocol Dewisol i UNCAT ('OPCAT'), sy'n sefydlu system o ymweliadau anghyfyngedig heb rybudd gan gyrff monitro rhyngwladol a chenedlaethol annibynnol â phob man lle mae unigolion yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid.

Mae Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol (NPM) y DU, a sefydlwyd o dan OPCAT, yn cynnwys sawl corff yng Nghymru a Lloegr, sef:

  • Arolygiaeth Carchardai EM (HMIP)
  • Byrddau Monitro Annibynnol
  • Cymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ICVA)
  • Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM (HMIC)
  • Y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC)
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
  • Comisiynydd Plant Lloegr (CCE)
  • Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
  • y Swyddfa Safonau mewn Addysg (OFSTED)

Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi'n glir bod gan blant yr hawl i gael eu diogelu rhag niwed a rhag cael eu brifo ac mae hyn yn cynnwys cosb gorfforol Mae'r hawl honno bellach wedi'i hymgorffori yng nghyfraith Cymru.

Mae Cymru yn ymuno â mwy na 60 o wledydd ledled y byd er mwyn rhoi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Mae'r ddeddfwriaeth bwysig hon yn dileu'r amddiffyniad cyfreithiol hynafol a sefydlwyd 160 o flynyddoedd yn ôl ac yn rhoi’r un amddiffyniad i blant ag sydd gan oedolion rhag ymosodiad.

O dan Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, mae pob math o gosb gorfforol, megis smacio, taro, slapio ac ysgwyd, yn anghyfreithlon. Mae'r ddeddf newydd yn gymwys i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, o 21 Mawrth 2022 ymlaen.

Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf

Er bod cyfiawnder yn fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, mae llawer o'r gwasanaethau sy'n hanfodol i weithredu systemau cyfiawnder oedolion ac ieuenctid, sefydliadau diogel a'r gwasanaeth prawf yng Nghymru wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru.

Rydym yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS), y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa (YCS), y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Iechyd yng Nghymru ac asiantaethau annatganoledig a datganoledig eraill er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau i leihau aildroseddu a chefnogi teuluoedd, er mwyn creu cymunedau cryf a chadarn yng Nghymru.

Mae'r cydberthnasau hyn wedi'u hatgyfnerthu ymhellach yn ystod y pandemig, wrth inni weithio'n agosach fyth â'n partneriaid allweddol a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru i reoli'r achosion a lliniaru effaith y feirws, gan gydbwyso anghenion iechyd cymunedol ag iechyd a llesiant troseddwyr sy'n oedolion a throseddwyr ifanc.

Er bod yn rhaid rhoi cyfyngiadau cadarn ar waith mewn sefydliadau diogel a gwasanaethau prawf er mwyn lleihau achosion o drosglwyddo'r feirws ac achub bywydau, rydym wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hynny, sy'n hollbwysig wrth adsefydlu troseddwyr, yn hygyrch o hyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod dysgwyr wedi gallu cael gafael ar adnoddau er mwyn eu helpu i ddysgu a chefnogi eu llesiant. Mae gwasanaethau iechyd hanfodol wedi'u cynnal mewn carchardai ac mae cymorth iechyd i droseddwyr wedi'i atgyfnerthu.

Ceiswyr lloches a Ffoaduriaid

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd rhan yn ein dull 'Tîm Cymru’  amlasiantaethol effeithiol er mwyn rhoi croeso cadarnhaol iawn i Affganiaid a dod o hyd i leoliadau cynaliadwy ledled Cymru.  Bu'n braf gweld ffrindiau o Affganistan yn dysgu Cymraeg, yn mynd i ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol dynion a menywod yng Nghymru a chael eu hamlygu i ddiwylliant Cymru.

Mae Cymru bellach wedi croesawu tua 600 o bobl o Affganistan ac mae gwaith yn parhau i gynyddu'r nifer hwn ymhellach. Mae materion capasiti yn Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU a'r ffaith bod angen inni sicrhau bod teuluoedd wedi cael y profion sgrinio iechyd sydd eu hangen arnynt cyn cael eu gwasgaru i fannau eraill, wedi effeithio ar ymdrechion i symud teuluoedd o lety pontio dros dro i gartrefi mwy cynaliadwy. Rydym yn gobeithio bod yr oedi hwnnw y tu ôl inni bellach.

Y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil

Mabwysiadwyd Y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil yn 1966 a daeth i rym yn 1969. Fe'i cadarnhawyd gan y DU yn yr un flwyddyn.

Mae'r Confensiwn yn diffinio gwahaniaethu ar sail hil ac yn nodi fframwaith ar gyfer sicrhau bod hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol yn cael eu mwynhau gan bawb, heb wahaniaethu ar sail hil, lliw, tras na tharddiad cenedlaethol nac ethnig.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol, gyda nodau, camau gweithredu, amserlenni a chanlyniadau pendant a fydd yn ein helpu i symud o'r rhethreg ar gydraddoldeb hiliol er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau ystyrlon.

Mae dileu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol bob amser wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth, ac mae'n galw am ddim goddefgarwch mewn perthynas â hiliaeth o bob math.

Bydd y Cynllun, a ddatblygwyd ar y cyd â'n cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, yn ein helpu i greu'r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydym am ei gweld. Mae'n nodi gweledigaeth a gwerthoedd ar gyfer Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, gyda nodau, camau gweithredu, amserlenni a chanlyniadau pendant a fydd yn ein helpu i symud o'r rhethreg ar gydraddoldeb hiliol a sicrhau ein bod yn cymryd camau ystyrlon.

Mae'n nodi camau penodol sydd i'w cymryd ym mhob maes polisi allweddol a ddeilliodd o'n gwaith datblygu ar y cyd, yn amrywio o addysg i iechyd, o dai i'r economi, a mwy.

Nodi detholiad o gamau gweithredu isod:

Iechyd

Cam blaenoriaeth 5: Anghydraddoldebau Iechyd

Bydd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn sefydlu gweithgor penodol ar anghydraddoldebau iechyd. Bydd y gweithgor yn gweithio ochr yn ochr â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol ac yn gwneud gwaith datblygu ar y cyd â nhw er mwyn nodi rhwystrau a wynebir gan y cymunedau hyn o ran cael gafael ar wasanaethau. Erbyn 2023, bydd y gweithgor yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gellir dileu rhwystrau er mwyn sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau. Yn ogystal â mynd i'r afael â rhwystrau sy'n atal unigolion rhag cael gafael ar wasanaethau, bydd y gweithgor hefyd yn datblygu rhaglenni gwaith er mwyn sicrhau bod GIG Cymru yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan bobl ethnig leiafrifol. Drwy'r camau gweithredu hyn â blaenoriaeth rydym yn ymrwymo i sicrhau newid diwylliannol hanfodol ar fyrder i'n gweithlu ethnig lleiafrifol yn y GIG a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n defnyddio ein gwasanaethau ledled Cymru.

Addysg

Ar gyfer addysg yn benodol, rydym yn parhau i weithio i egluro manteision diwylliant cynhwysol ac amrywiaeth yn sail wybodaeth addysg i bob dysgwr. Nid menter sydd wedi'i hanelu at ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn unig yw hon ond dylai fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael addysg gynhwysfawr a pherthnasol sy'n ymateb i ofynion y dyfodol fel ‘dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’.

Mae'r camau gweithredu a'r nodau hyn yn adeiladu ar adroddiad terfynol ac argymhellion y Gweithgor Gweinidogol: 'Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin: Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd' a gadeiriwyd gan yr Athro Charlotte Williams OBE, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o'r 51 o argymhellion a wnaed gan y Gweithgor ac mae cynnydd da eisoes wedi'i wneud o ran gweithredu ar yr argymhellion hynny a'u cyflawni, er enghraifft:

  • Rydym wedi arwain y gad fel y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud yn ofynnol i addysgu hanes a phrofiadau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y cwricwlwm. Bydd hyn yn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn meithrin dealltwriaeth o hunaniaethau pobl eraill ac yn gwneud cysylltiadau â phobl, lleoedd a hanes mewn rhannau eraill o Gymru a ledled y byd. Bydd yn tanlinellu pwysigrwydd addysgu am brofiadau a chyfraniadau pobl ethnig leiafrifol, fel rhan o stori Cymru ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
  • Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno strategaeth i recriwtio mwy o athrawon Du ac Ethnig Lleiafrifol i'r gweithlu. Fel cam cychwynnol, cyhoeddwyd Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ym mis Hydref 2021.
  • Rydym hefyd wedi cyhoeddi gwobr addysgu newydd, sef Gwobr Betty Campbell MBE, er mwyn cydnabod a dathlu'r gwaith o hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol mewn ysgolion.
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Grŵp Arweinyddiaeth Du a Colegau Cymru, er mwyn helpu pob coleg yng Nghymru i ymgorffori diwylliant ac arferion gwrth-hiliol.

Ein tasg bellach yw adeiladu ar y cyflawniadau cynnar hyn a datblygu ein camau gweithredu, er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i greu Cymru wirioneddol wrth-hiliol gan gynnwys system addysg wrth-hiliol erbyn 2030.

Economaidd

Ein nodau ar gyfer yr Economi Sylfaenol yw ceisio sicrhau bod y rhan hon o'r economi wrth wraidd ein huchelgais o gefnogi cydraddoldeb a ffyniant ledled Cymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr a busnesau i'w hannog i fabwysiadau strategaethau ar gyfer y gweithlu sy'n cynnig gwaith teg a chyfleoedd gyrfa i'r bobl a'r cymunedau lle mae'r sefydliadau hynny wedi'u lleoli.

Mae datblygu data a gwybodaeth gadarn yn allweddol i ddatblygu strategaeth hirdymor effeithiol ar gyfer cefnogi'r Economi Sylfaenol. Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau a buddsoddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ein galluogi i werthuso effeithiolrwydd ac effaith ymyriadau.

Ers 2016, o blith y 5,898 o gleientiaid sydd wedi cael cymorth gan Busnes Cymru i ddechrau busnes, mae 427 (7%) yn ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Ers mis Hydref 2015, mae SMART Cymru wedi cefnogi 505 o fusnesau. O blith y 411 o fusnesau sydd wedi darparu data monitro hyd yma:

  • mae gan 157 o fusnesau berchenogion benywaidd (38.2%)
  • mae gan 29 o fusnesau berchenogion Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol (7.1%)

Roedd Grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes Cymru ar gael rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mai 2021 a chefnogodd 335 o unigolion di-waith, yr oedd 50 (15%) ohonynt yn ystyried eu bod yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Lansiwyd yr ail gam ym mis Rhagfyr 2021 a daeth i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2022. Cafodd yr ail gam hwn o'r grant 544 o ddatganiadau o ddiddordeb: nododd 78 o gleientiaid (13%) eu bod yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Cynhaliwyd yr ail rownd rhwng Rhagfyr 2021 a Mawrth 2022 a chefnogodd 544 o unigolion di-waith ac o'r rhai a gefnogwyd nodwyd 78 (13%) eu bod yn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Lansiwyd y drydedd rownd ar gyfer rhai dros 25 oed ym mis Gorffennaf 2022 a hyd yma mae 593 wedi mynegi diddordeb ac mae 65 o ymgeiswyr (11%) yn nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Yn ogystal, mae’r grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc ar gyfer y rhai o dan 25 oed wedi derbyn 141 o ddatganiadau o ddiddordeb gyda 12 (9%) yn nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth i'r gymuned fusnes bresennol er mwyn i fusnesau gynnal a thyfu ei busnes. Mae hyn yn cynnwys meysydd megis datblygu gallu digidol, adnoddau dynol ac arferion cyflogaeth, cael gafael ar gyllid ar gyfer twf, cynaliadwyedd ac arloesi. Mae Busnes Cymru wedi rhoi cymorth yn uniongyrchol i fwy na 16,914 o berchenogion busnes ers 2016 er mwyn helpu eu busnesau i ddatblygu a thyfu. O blith y rhain, mae 921 (5.4%) yn ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Nod Syniadau Mawr Cymru yw ysbrydoli ac addysgu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru. Ers 2016 rydym wedi helpu 3,229 o bobl ifanc i ddatblygu eu syniadau ar gyfer busnes, y mae 298 (9%) ohonynt yn nodi eu bod yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae 33 (7%) o'r 487 o fodelau rôl entrepreneuraidd yng Nghymru yn nodi eu bod yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac maent yn chwarae rôl allweddol drwy ysbrydoli pobl ifanc mewn addysg a'r gymuned ehangach i ystyried entrepreneuriaeth. Mae'r gwaith hwn yn elfen allweddol o ddarpariaeth y Warant i Bobl Ifanc a fydd yn gwella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu o fis Ebrill 2022.

Dywedodd Adroddiad Blynyddol Banc Datblygu Cymru 2020 i 2021, allan o 4,183 o gyfarwyddwyr a oedd wedi hunangofnodi ffigurau:

  • bod 10% (54) o'r perchenogion/cyfarwyddwyr/rhanddeiliaid yn y busnesau a gefnogwyd gan y Banc Datblygu yn 2020 i 2021 yn Bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • bod 3% (36) o'r perchenogion/cyfarwyddwyr/rhanddeiliaid yn y busnesau a gefnogwyd yn 2020 i 2021 o dan 25 oed.
  • bod 29% (312) o'r perchenogion/cyfarwyddwyr/rhanddeiliaid yn y busnesau a gefnogwyd yn 2020 i 2021 yn fenywod.

Drwy roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith yn llwyddiannus, byddwn yn sicrhau marchnad gyflogaeth decach, system addysg a hyfforddiant decach, cyfleoedd a chanlyniadau cyfartal rhwng hiliau mewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol eraill, yn ogystal â hyrwyddo dinasyddiaeth weithgar.

Gwyddom mai megis dechrau'r hyn a fydd yn broses hir yw hwn a bod angen cymorth ein cymunedau arnom er mwyn inni allu creu'r Gymru wrth-hiliol y mae pob un ohonom am fyw a ffynnu ynddi.

Y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod

Mabwysiadwyd y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) yn 1979 a daeth i rym yn 1981. Fe'i cadarnhawyd gan y DU yn 1986.

Mae'r Confensiwn yn canolbwyntio ar gydraddoldeb rhwng menywod a dynion ym mhob agwedd ar fywyd. Diffinnir gwahaniaethu yn erbyn menywod fel unrhyw wahaniaeth, gwaharddiad neu gyfyngiad a wneir ar sail rhyw sydd â'r effaith neu'r diben o amharu neu ddirymu cydnabyddiaeth, mwynhad neu ymarferiad menywod, waeth beth yw eu statws priodasol, ar sail cydraddoldeb dynion a merched, o hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn y meysydd gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, sifil neu unrhyw faes arall.

Mae'r DU wedi llofnodi Protocol Dewisol CEDAW, sy'n rhoi'r hawl i unigolion a grwpiau o fenywod gwyno i'r Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod am achosion o dorri'r Confensiwn. Mae hefyd yn galluogi'r Pwyllgor i ymchwilio i achosion o amharu ar hawliau dynol menywod a allai fod yn ddifrifol.

Adolygiad o Gydraddoldeb Rhwng y Rhywiau

Mae Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru yn rhoi fframwaith a ffocws inni allu mynd i'r afael â'r dirwedd sy'n newid i fenywod yng Nghymru.

Rydym wedi ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer rhagor o rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant a'r rhai sydd ar gyrion gwaith. Mae'r Cynnig Gofal Plant yn rhoi mwy o ddewis i rieni, yn enwedig menywod, ac yn sicrhau eu bod yn fwy abl i gael teulu a gyrfa.

Ym mis Rhagfyr 2021, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y set gyntaf o'n cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol i'r Senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyrff yn y sector cyhoeddus er mwyn cau'r bylchau cyflog ar sail rhywedd, hil ac ethnigrwydd erbyn 2050.

Mae'r garreg filltir yn adlewyrchu ein huchelgais a'n dyhead i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd a'n dealltwriaeth o'r ffordd y mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n hymrwymiad ehangach i sicrhau gwaith teg i bob gweithiwr yng Nghymru.

Mae mynd i'r afael â bylchau cyflog yn gofyn am gamau gweithredu cyson i drawsnewid strwythurau, polisïau ac arferion sefydliadol. Mae hyn yn gofyn am weithredu ac ymrwymiad yn y Llywodraeth a'r tu allan iddi.

Mae ein dull partneriaeth gymdeithasol yn cynnig cyfleoedd inni weithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur, er mwyn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, gan gynnwys bylchau cyflog.

Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn

Mabwysiadwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn 1989 a daeth i rym yn 1990. Fe'i cadarnhawyd gan y DU yn 1991.

Mae'r Confensiwn yn rhoi set gynhwysfawr o hawliau i bob plentyn a pherson ifanc (17 oed ac yn iau).

Hwn yw'r unig gytuniad hawliau dynol rhyngwladol sy'n cynnwys hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Mae'n nodi'n fanwl yr hyn sydd ei angen ar bob plentyn er mwyn iddo gael plentyndod diogel, hapus a boddhaol, waeth beth fo'i ryw, crefydd, tarddiad cymdeithasol a ble y'i ganed ac i bwy, gan gynnwys yr hawliau i'r canlynol:

  • mesurau diogelu a chymorth arbennig
  • mynediad at wasanaethau megis addysg a gofal iechyd
  • datblygu ei bersonoliaeth, ei alluoedd a'i ddoniau hyd eithaf eu potensial
  • tyfu i fyny mewn amgylchedd o hapusrwydd, cariad a dealltwriaeth
  • cael ei hysbysu o'i hawliau a chymryd rhan yn y broses o sicrhau eu hawliau mewn ffordd hygyrch a gweithredol

Mae'r DU wedi llofnodi dau Brotocol Dewisol i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn: y naill ar gynnwys plant mewn gwrthdaro arfog a'r llall ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.

Fodd bynnag, nid yw'r DU wedi llofnodi'r trydydd Protocol Dewisol, sy'n galluogi plant i gwyno'n uniongyrchol i'r Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn er mwyn i'r Pwyllgor allu ymchwilio a chyfarwyddo llywodraethau i gymryd camau.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Mae hyn yn golygu mynd i'r afael â thrallod yn ystod plentyndod ar ei holl ffurfiau, gan gynnwys Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Mae ein rhaglenni blynyddoedd cynnar, ein rhaglenni rhianta a'n rhaglenni i deuluoedd yn chwarae rôl bwysig drwy leihau'r nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a helpu i ddatblygu plant mwy gwydn. Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n gweithio i nodi plant a allai gael eu hamlygu i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chynnig ymyriadau priodol i fynd i'r afael â nhw.

Sefydlwyd Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru yn 2017 fel canolfan gwybodaeth ac arbenigedd er mwyn helpu i sicrhau bod sefydliadau, cymunedau ac unigolion yn gwybod am fater profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i fwy na 600 o ysgolion, 1,100 o swyddogion tai, 300 o Genhadon Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, 140 o arolygwyr Estyn (Arolygiaeth Ysgolion yng Nghymru) a chynghorwyr herio, 120 o weithwyr ieuenctid a 95 o wasanaethau ieuenctid ‘hyfforddi'r hyfforddwyr’.

Mae Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi helpu i ddatblygu a chyflwyno amrywiaeth o feysydd polisi Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â throseddu a chyfiawnder, addysg bellach ac addysg uwch, Trais yn erbyn Menywod, Trais Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a chymunedau amrywiol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2021 i 2020, rydym wedi rhoi tua £2.6 miliwn i Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru er mwyn helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion i ddeall mwy am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chefnogi teuluoedd a allai gael eu hamlygu iddynt. Rydym hefyd wedi darparu £500 mil yn ychwanegol yn 2021 i 2022 er mwyn cefnogi prosiectau cymunedol y bwriedir iddynt fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a meithrin gwydnwch.

Rydym wedi cadarnhau tair blynedd arall o gyllid i'r Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, sef £500 mil ar gyfer pob blwyddyn o 2022 i 2023 i 2024 i 2025, yn amodol ar raglen waith y cytunwyd arni.

Mynediad at ddysgu cyfunol i blant: Hwb

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i barhau i gefnogi platfform dysgu digidol Hwb er mwyn sicrhau bod pob ysgol a gynhelir yn cael mynediad teg at becynnau ac adnoddau y gellir eu defnyddio yn ôl yr angen, heb fod angen ffiniau daearyddol.

Mae Hwb yn rhoi mynediad i bob disgybl ac athro mewn ysgolion a gynhelir, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill ym maes addysg, megis athrawon dan hyfforddiant ac athrawon cyflenwi, i amrywiaeth o seilwaith, pecynnau ac adnoddau digidol dwyieithog gan gynnwys cytundeb trwyddedu Microsoft Education i Gymru gyfan sy'n helpu i drawsnewid addysgu a dysgu digidol yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi buddsoddi mwy na £180 miliwn, gan gynnwys £10 miliwn arall yn 2022 i 2023, er mwyn sicrhau bod seilwaith technoleg addysg yn addas ar gyfer y dyfodol; wedi darparu mwy na 216,000 o ddyfeisiau defnyddwyr terfynol ac mae gwaith wedi dechrau ar ddiweddaru'r adnoddau a pherifferolion addysgu a dysgu ledled Cymru er mwyn helpu i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.

Drwy'r mentrau hyn mae Llywodraeth Cymru wedi darparu sylfeini cenedlaethol a all gefnogi'r sector Addysg a'i drawsnewid, gan sicrhau bod dysgu digidol wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru.

Yn ddiau, arweiniodd effaith y pandemig at fwy o ddibyniaeth ar wasanaethau ar-lein i gyflwyno addysgu a dysgu. Gan gydnabod bod angen i dddysgwyr, ymarferwyr a theuluoedd ddeall y risgiau a chadw'n ddiogel ar-lein, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru er mwyn rhoi canllawiau, cyngor ac awgrymiadau ymarferol i blant a phobl ifanc er mwyn mynd i'r afael â phroblemau ar-lein.

Drwy ein rhaglen ‘Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’, roedd Cymru mewn sefyllfa dda i gefnogi pob dysgwr drwy ddarpariaeth dysgu ar-lein ac ni fu fawr o dro yn sefydlu cymorth ar gyfer dysgwyr a oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol mewn ysgolion a gynhelir drwy'r sylfeini a sefydlwyd gan raglen EdTech Hwb.

Cydnabu'r Sefydliad Polisi Addysg strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru, seilwaith presennol a chydweithrediad ag awdurdodau lleol fel ffactorau galluogi allweddol i ysgolion ledled Cymru gyflwyno dysgu digidol, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Datblygu Siarter Plant: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mewn partneriaeth â sefydliadau a chynghorau ledled Gogledd Cymru, sawl digwyddiad a chynigiodd nifer o gyfleoedd i bobl ifanc helpu i ysgrifennu Siarter Plant a gwneud gwahaniaeth parhaol mewn meysydd sy'n bwysig iddynt.

Mae Siarter Plant yn gyfres o safonau y mae sefydliadau yn gweithio yn unol â nhw, er mwyn sicrhau y caiff plant a phobl ifanc eu trin yn deg a bod ganddynt lais.

Bydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a Gwasanaethau Niwroddatblygiad y bwrdd iechyd yn arwain cyfres o ddigwyddiadau a sesiynau ymgysylltu ledled Gogledd Cymru, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, y bydd pobl ifanc a phlant yn gallu mynd iddynt a chymryd rhan yn y broses o lunio safonau'r siarter.

Plant a phobl ifanc Gogledd Cymru i helpu i ddatblygu Siarter Plant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru), rhagor o wybodaeth am Siarter Plant Betsi Cadwaladr.

Y Confensiwn Rhyngwladol ar Hawliau Pobl ag Anableddau

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau oedd cytuniad hawliau dynol cyntaf yr 21ain ganrif. Fe'i mabwysiadwyd yn 2006, daeth i rym yn 2008 ac fe'i cadarnhawyd gan y DU yn 2009.

Mae'r Confensiwn yn datgan y dylai pobl anabl allu mwynhau eu hawliau dynol ar sail gyfartal â phobl nad ydynt yn anabl.

Mae'n cydnabod fod pobl anabl yn parhau, yn ymarferol, i wynebu amrywiaeth eang o rwystrau ac yn nodi'r camau y disgwylir i lywodraethau eu cymryd er mwyn eu dileu a sicrhau bod hawliau pobl anabl yn cael eu parchu. Mae'r Confensiwn yn ymdrin â hawliau mewn meysydd megis: iechyd, addysg, cyflogaeth, mynediad at gyfiawnder, diogelwch personol, byw'n annibynnol a mynediad at wybodaeth.

Mae'r DU wedi cadarnhau'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sy'n galluogi pobl i gyflwyno deiseb i'r Pwyllgor ar Hawliau Pobl ag Anableddau:

  • os byddant yn credu bod eu hawliau o dan y Confensiwn wedi'u torri
  • os byddant wedi rhoi cynnig ar bob dull posibl o unioni'r mater yn Llysoedd y DU neu Ewrop

Mae'r cam hwn hefyd yn rhoi awdurdod i'r Pwyllgor gynnal ymchwiliadau, pan geir gwybodaeth ddibynadwy, i honiadau o ymyrryd yn ddifrifol neu'n systematig â hawliau o dan y Confensiwn. Cynhaliwyd ymchwiliad o'r fath mewn ymateb i gais ffurfiol gan sefydliadau pobl anabl a oedd yn ymwneud ag effaith gronnol deddfwriaeth, polisïau a mesurau a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU ar gynlluniau nawdd cymdeithasol ac ar waith a chyflogaeth ers 2010. Cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ei adroddiad yn 2016 achyhoeddodd y DU ymateb ffurfiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan bobl anabl yr hawl i fyw'n annibynnol mewn cartrefi hygyrch y gellir eu haddasu sy'n diwallu eu hanghenion yn llawn.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod safonau, darpariaeth a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â darparu cartrefi yn diwallu anghenion amrywiol pobl anabl.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau newydd ar gyfer Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol ar y cyd ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o anghenion tai grwpiau allweddol (pobl anabl, y rhai â chyflyrau iechyd meddwl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl ddigartref, pobl hŷn, menywod ethnig lleiafrifol, ac ati) ym mhob awdurdod lleol er mwyn deall:

  • argaeledd tai priodol
  • yr angen a amcangyfrifir yn y dyfodol
  • beth yw'r diffygion ar gyfer pob grŵp allweddol

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi hyfforddiant a chymorth parhaus i bob awdurdod lleol. Rydym bellach yn casglu data hefyd ar tua 34,000 o addasiadau a ddarperir bob blwyddyn ledled Cymru er mwyn helpu pobl i fyw'n annibynnol. Mae'r data yn rhoi gwybodaeth fanwl am y gwahanol fathau o addasiadau a ddarparwyd a'u cost ac fe'u defnyddir i gefnogi ymyriadau polisi y bwriedir iddynt leihau anghydraddoldebau o ran darpariaeth yn dibynnu ar ddaearyddiaeth a deiliadaeth.

Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Cymorth Gofal Cymdeithasol

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sail i'r defnydd o Daliadau Uniongyrchol i bobl yr aseswyd bod angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnynt ac mae'n annog eu defnyddio. Gall taliadau uniongyrchol gael eu defnyddio gan unigolion i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth a chefnogi eu gweithgareddau byw bob dydd, er enghraifft, drwy gyflogi cynorthwywyr personol i gefnogi pobl mewn gwaith a'r rhai sy'n manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant.

Gwyddom fod pobl anabl yn wynebu llawer mwy o risg o gael canlyniadau cyflogaeth gwaeth, sydd hefyd yn golygu eu bod yn wynebu mwy o risg o fyw mewn tlodi. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl er mwyn helpu i gau'r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth weithio.

Eu rôl yw cyflawni'r newidiadau mewn agweddau sydd eu hangen er mwyn annog mwy o gyflogwyr i gydnabod manteision cyflogi pobl anabl. Mae'r Hyrwyddwyr yn bobl anabl eu hunain ac mae ganddynt brofiad bywyd o'r rhwystrau a wynebir wrth geisio cael gwaith. Mae pob un yn fodel rôl ysbrydoledig er mwyn i unigolion a chyflogwyr fel ei gilydd weld beth y gellir ei gyflawni o dan yr amodau cywir. Drwy eu sgyrsiau â chyflogwyr, mae'r hyrwyddwyr yn hyrwyddo model cymdeithasol anabledd er mwyn sicrhau newid diwylliannol o ran y ffordd y mae cyflogwyr, rhanddeiliaid a darparwyr cyflogadwyedd yng Nghymru yn meddwl am gyflogaeth pobl anabl.

Mynediad at Gyflogaeth i Bobl Anabl

Cyhoeddwyd cynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau, Cymru gryfach, decach a gwyrddach, ar 8 Mawrth 2022. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar helpu pobl sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith ac yn rhoi sylw o'r newydd i wella canlyniadau yn y farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a'r rhai heb fawr ddim sgiliau. Mae'r cynllun yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bobl y sgiliau a'r hyder i gyflawni eu potensial mewn byd sy'n newid yn gyflym, waeth beth fo'u cefndir neu eu nodweddion gwarchodedig, er mwyn eu grymuso i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth i ddod o hyd i waith teg a'i sicrhau, dechrau busnes, newid gyrfaoedd, camu ymlaen yn eu gyrfa a goresgyn rhwystrau ar hyd y ffordd. Mae'r cynllun yn cydnabod ei bod yn hanfodol codi dyheadau a chynnig mwy o gyfleoedd. 

Bwriedir i Gynllun Cymhellion i Gyflogwyr Lywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaid anabl annog cyflogwyr i gael profiad ymarferol o fanteision recriwtio pobl anabl. Roedd disgwyl i'r cynllun cymhellion, sydd eisoes wedi arwain at recriwtio mwy na 6,100 o brentisiaid newydd ers mis Awst 2020, ddod i ben ar 28 Chwefror 2022 ond bydd bellach yn rhedeg tan 31 Mawrth 2023. Mae'r cynllun cymhellion yn helpu busnesau i recriwtio person anabl a datblygu gweithlu amrywiol.

Mynediad at Wasanaethau Chwarae i Bobl Anabl

O dan adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn ei ardal i blant gan ystyried yr asesiad digonolrwydd y mae'n rhaid iddo ei gynnal bob tair blynedd. Fel rhan o'r canllawiau statudol, Cymru: Gwlad lle mae cyfle i chwarae, Mater B: “Dylai’r Awdurdod Lleol anelu at gynnig cyfleoedd chwarae sy’n gynhwysol ac sy’n annog pob plentyn i chwarae a dod ynghyd os yw’n dymuno gwneud hynny.”  Dylai'r Asesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae hefyd asesu i ba raddau y mae cyfleoedd chwarae yn hygyrch i blant anabl ac yn eu cynnwys a gallant gynnwys cymorth i fanteisio ar gyfleoedd chwarae. Adolygir y Cynlluniau Gweithredu Chwarae bob blwyddyn er mwyn monitro cynnydd a nodi camau sydd angen eu cymryd.

Hawliau Dynol

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol sydd wedi'i ymgorffori yn neddfwriaeth sefydlu Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn cydymffurfio â Chonfensiynau'r DU a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan Wladwriaeth y DU sy'n barti.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a'r Confensiwn ar gyfer Dileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod.  Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno bod angen ystyried dull gweithredu cyfannol, megis Bil Hawliau Dynol i Gymru, a chamau gweithredu posibl eraill mewn perthynas â materion penodol, ar y cyd.

Mae ein hymchwil i adroddiad ymchwil Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 26 Awst 2021, wedi ystyried amrywiaeth o faterion cysylltiedig. Cafodd yr ymchwil ei harwain gan Brifysgol Abertawe, ar y cyd â Phrifysgol Bangor, Diverse Cymru a Cymru Ifanc. Mae'r adroddiad yn dangos y ffordd o ran diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol unigolion a chymunedau yng Nghymru, a gall helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ym mis Mai 2022:  adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru: ymateb Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymateb yn nodi'r prif feysydd gwaith y byddwn yn mynd ati nawr i'w datblygu, gan gynnwys:

  • gwneud gwaith paratoi ar opsiynau ar gyfer ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru
  • datblygu cyfres o ganllawiau ar hawliau dynol
  • adolygu rheoliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • ychwanegu hawliau dynol at ein hasesiadau effaith integredig
  • gwneud mwy i hyrwyddo'r materion hyn yng Nghymru

Rydym yn datblygu cynllun gweithredu ac amserlen fanwl i gwmpasu pob un o'r ffrydiau gwaith hyn.  Mae Grŵp Cynghori Hawliau Dynol newydd wedi'i sefydlu i oruchwylio'r gwaith hwn. Gweinidogion Cymru sy'n cadeirio'r Grŵp Gweithredu Cydraddoldeb ac mae ganddo arbenigedd a chynrychiolaeth draws-sector gref.

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu dull cynhwysfawr o ymdrin â datblygu cynaliadwy sy'n adlewyrchu Agenda ar Gyfer Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig a Nodau Datblygu Cynaliadwy cysylltiedig. Mae'n darparu ar gyfer saith nod llesiant i Gymru, sy'n ymdrin â phedwar dimensiwn datblygu cynaliadwy (amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol), yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ar y Llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus, yn sefydlu partneriaethau lleol er mwyn gwella llesiant ac yn creu'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol annibynnol cyntaf yn y byd.

Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i saith nod llesiant, mae gennym fframwaith ar gyfer dyfodol Cymru: Cymru economaiddd, gymdeithasol ac amgylcheddol gyfiawn a Chymru y byddem am i'n plant a'n hwyrion a'n hwyresau ei hetifeddu gennym.

Bydd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at ddyfodol pawb yng Nghymru ac yn creu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol, gan fynd i'r afael â'r heriau digynsail rydym yn eu hwynebu. Mae'n canolbwyntio ar ffyrdd y gallwn wella bywydau pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

O dan fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae gennym gyfres o 50 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol i fesur cynnydd Cymru ac rydym wedi pennu cerrig milltir cenedlaethol i lywio dyfodol Cymru hyd at 2050.

Yn 2021, gwnaethom ymgynghori ar y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol a newidiadau i'r dangosyddion cenedlaethol. Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, rydym wedi ychwanegu 4 dangosydd cenedlaethol ac wedi cyflwyno'r gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol.

Roedd yr ychwanegiadau hyn at y gyfres o ddangosyddion yn cynnwys mesurau newydd ynglŷn â chyfiawnder, teithio, costau tai a chynhwysiant digidol, yr oeddent i gyd yn faterion y dywedwyd wrthym eu bod yn chwarae mwy o rôl wrth lywio ein llesiant cenedlaethol nag yr oeddent yn ei wneud cyn y pandemig.

Bydd y gyfres estynedig o ddangosyddion cenedlaethol yn parhau i'n helpu i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r saith nod llesiant a'n taith tuag at greu Cymru decach, wyrddach a mwy llwyddiannus.

Bwriedir i'r dangosyddion cenedlaethol gynrychioli'r canlyniadau a ddymunir ar gyfer Cymru a'i phobl. Byddant yn helpu i ddangos cynnydd tuag at gyflawni'r saith nod llesiant. Nid dangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliad unigol na chamau gweithredu gan sefydliad unigol ydynt. Maent yn rhoi darlun cenedlaethol mwy cyfannol o'r hyn sy'n newid.

Mae gan bob dangosydd cenedlaethol ei dudalen ryngweithiol ei hun ar ein dangosfwrdd dangosyddion cenedlaethol a chânt eu diweddaru pan fydd y data ar gael. Ceir rhagor o wybodaeth am yr amseriadau yn yr atodlen.

Cyhoeddir ‘Adroddiad blynyddol Llesiant Cymru' am y chweched tro ym mis Medi eleni a bydd yn adrodd ar y 50 o ddangosyddion cenedlaethol ac, am y tro cyntaf eleni, y cerrig milltir lle mae data ar gael.

Mae'r cerrig milltir cenedlaethol yn gyfres o fesurau yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol sy'n nodi ein disgwyliadau o ran yr hyn y dylai'r dangosyddion ei ddangos yn y dyfodol. Maent yn ein helpu i ddeall a yw'r dangosyddion cenedlaethol yn symud i'r cyfeiriad cywir ac yn ein symud ni fel cenedl tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Cyflwynwyd y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021.

Mae'r adroddiad yn ymdrin â phob nod/dangosydd lle mae data ar gael. Nodir isod y prif bwyntiau o'r crynodeb o'r adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd.

  • Mae marchnad lafur Cymru yn parhau i berfformio'n dda, gyda'r bwlch rhwng Cymru a'r DU yn un bach mewn termau hanesyddol.
  • Mae lefelau cyfranogiad pobl ifanc (19 i 24 oed) mewn addysg a'r farchnad lafur wedi cynyddu yn ystod y cyfnod ers dirwasgiad 2008 cyn lefelu yn fwy diweddar.
  • Mae proffil cymwysterau'r boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru wedi bod yn gwella dros amser. Mae lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal i gael canlyniadau gwaeth. 
  • Nid yw lefelau tlodi incwm cymharol yn gyffredinol wedi newid fawr ddim yng Nghymru ers dros 15 mlynedd, er bod lefelau tlodi plant wedi cynyddu ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 
  • Dengys yr asesiad cynhwysfawr diweddaraf o adnoddau naturiol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru/Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cymru 2020, yn gyffredinol, fod amrywiaeth fiolegol yn lleihau. Mae'r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld lleihad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o'r 1970 au ymlaen.
  • Mae Cymru yn arwain y byd o ran ailgylchu gwastraff cartrefi ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau yn gyflymach nag y maent yn cael eu hadnewyddu.
  • Mae ansawdd aer wedi gwella'n sylweddol ers y 1970au. Fodd bynnag, mae'n dal i beri risg i iechyd pobl.
  • Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi lleihau bron i draean ers y 1990au, er gwaethaf rhai cyfnodau pan welwyd cynnydd mewn allyriadau. Bydd angen newid cyflymach yn y dyfodol er mwyn cyflawni targedau Llywodraeth Cymru.
  • Mae capasiti trydanol gosodedig o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu, er iddo gynyddu'n arafach yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
  • Roedd disgwyliad oes wedi bod yn cynyddu, er yn arafach yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi gostwng ar gyfer y cyfnod mwyaf diweddar, sy'n adlewyrchu effaith pandemig COVID-19.
  • Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod y bwlch yn mynd yn fwy.
  • Mae cyfran y babanod sy'n cael eu geni â phwysau geni isel wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn y ffigurau isaf erioed yn 2014 a 2015.
  • Cyfran y plant a oedd wedi cael pob un o'u brechiadau arferol erbyn eu bod yn bedair oed yng Nghymru oedd 88% eleni, sef y gyfran uchaf ers i'r mesur hwn gael ei gofnodi gyntaf.
  • Dengys y data diweddaraf fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau i 4.3%, sef y lefel isaf erioed. Dengys y data fod y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd wedi lleihau. Ar gyfartaledd, mae cyflogeion o grwpiau lleiafrifol ethnig yn ennill tua 1.4% yn llai yr awr na chyflogeion gwyn, er bod gwahaniaethau mawr rhwng gwahanol leiafrifoedd ethnig.
  • Yn y flwyddyn ddiweddaraf bu cynnydd sylweddol mewn cydlyniant cymunedol. Fodd bynnag, mae'n rhy gynnar i ddweud a yw hwn yn ddechrau tuedd barhaus.
  • Bu cynnydd yng nghyfran y bobl sy'n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol yr ymddengys ei fod yn gwrthdroi'r duedd ar i lawr a welwyd yn y ddwy set flaenorol o ganlyniadau.
  • Lleihaodd nifer y troseddau casineb hil a gofnodwyd ychydig yn 2019 i 2020.
  • Cyn y pandemig, ni fu unrhyw newid yng nghyfran yr oedolion na'r plant a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Yn fwy diweddar, mae'r pandemig wedi ehangu anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Mae'r data diweddaraf o arolygon yn awgrymu bod canran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, ond ddim yn rhugl, wedi cynyddu. Mae'r defnydd o'r iaith yn parhau'n sefydlog.
  • Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi bod y sefydlog, ar y cyfan, ond mae llai o henebion a aseswyd yn ddiweddar mewn cyflwr sefydlog.
  • Yn 2021, ychwanegwyd Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru at y Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, sy'n golygu mai dyma’r pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi cyhoeddi cyfres o Astudiaethau Achos ar wefan y Comisiwn. Mae'r rhain wedi'u cynnwys er mwyn darparu gwybodaeth ychwanegol gyda chaniatâd Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Astudiaethau Achos Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Cydraddoldeb a Chynhwysiant: amcanion cydraddoldeb strategol 2020 i 2024

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i greu cymdeithas decach, lle y bydd amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu, lle na fydd pobl yn wynebu gwahaniaethu na rhagfarn a lle y gall pawb gyfranogi, ffynnu a chael cyfle i gyflawni eu potensial.  Gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 ar 3 Ebrill 2020 ac rydym yn ei adolygu'n rheolaidd, yn enwedig yng ngoleuni pandemig COVID-19. Caiff ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb ei gyhoeddi a'i osod gerbron y Senedd bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

Wrth wraidd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 mae tair prif elfen, sef: nodau, amcanion a chamau gweithredu.

  • Nodau Hirdymor. Mae a wnelo'r nodau hyn ag atgyfnerthu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru rydym yn disgwyl iddynt barhau i fod yn berthnasol y tu hwnt i'r cyfnod a gwmpesir gan y cynllun hwn.
  • Ar gyfer pob un o'r nodau hirdymor hyn, ceir un amcan cydraddoldeb ar gyfer 2020 i 2024, gan Lywodraeth Cymru. Mae gan yr amcanion hyn gysylltiad agosach na'r nodau hirdymor â rôl a phwerau Llywodraeth Cymru. Maent yn ofyniad statudol ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau cydraddoldeb o ran y sector cyhoeddus.
  • Yn sail i bob un o'r amcanion hyn mae nifer o gamau gweithredu mesuradwy sy'n dangos sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hamcanion.

Enghreifftiau o gamau gweithredu allweddol er mwyn helpu i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb

Dylid nodi nad yw'r enghreifftiau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn rhestr gynhwysfawr o bopeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud neu y bydd yn ei wneud er mwyn cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.

Rhwydwaith cynghori rhanbarthol (SEP 2016 i 2020, Amcan 2)

Annog datblygu rhwydweithiau cynghori rhanbarthol yw un o'r 19 o gamau gweithredu yng nghynllun gweithredu gwybodaeth a chyngor presennol Llywodraeth Cymru.

Mae chwe rhwydwaith cynghori rhanbarthol bellach wedi'u sefydlu, sy'n cwmpasu'r rhanbarthau canlynol: Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Abertawe Castell-nedd Port Talbot, Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a rhanbarth Gwent.

Nodau cyffredinol y rhwydweithiau cynghori rhanbarthol yw sicrhau bod darparwyr cyngor, cynllunwyr ac arianwyr yn cydweithio i gynnig gwasanaethau mwy cydgysylltiedig i bobl y mae angen cyngor arnynt a sicrhau bod yr adnoddau a fuddsoddwyd yn cael eu defnyddio i gael yr effaith fwyaf.

Nodwyd blaenoriaethau ar gyfer gweithredu rhanbarthol gan aelodau rhwydweithiau rhanbarthol ac maent yn cynnwys materion megis mapio darparwyr cyngor, rhoi gwell gweithdrefnau atgyfeirio ar waith, rhannu hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant i gefnogi llesiant darparwyr gwasanaethau a meithrin gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cynghori.

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid rhanbarthol ym mis Gorffennaf 2019, y cafodd aelodau'r grŵp llywio eu recriwtio ohonynt. Cyfarfu grwpiau llywio rhwydweithiau cynghori rhanbarthol ym mis Hydref 2019, gyda chyfarfodydd cychwynnol o'r aelodau llawn yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 ac yna bob chwarter yn barhaus.

Prentisiaethau (SEP 2016 i 2020, Amcan 3)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i sicrhau bod prentisiaethau yn hygyrch i bawb drwy ganolbwyntio ar y meysydd gweithgarwch canlynol:

  • cynyddu cyfranogiad grwpiau gwarchodedig mewn prentisiaethau
  • sicrhau newid diwylliannol ar y rhaglen er mwyn hyrwyddo amrywiaeth
  • gweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod prentisiaethau sy'n gysylltiedig â rhaglenni a gyflwynir gan Seilwaith TGCh yn ystyried nodweddion gwarchodedig ac yn cefnogi unigolion sydd â nodweddion o'r fath

Rydym wedi parhau i ddatblygu camau gweithredu yn y cynllun gweithredu ar anabledd ar gyfer prentisiaethau a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Mae'r camau gweithredu ymarferol a nodir yn y cynllun hwnnw wedi llwyddo i gynyddu nifer y prentisiaethau i bobl anabl o flwyddyn i flwyddyn, gyda'r ganran yn cyrraedd 6.9% yn 2019.

Mae'r camau gweithredu ymarferol yn y cynllun a ddatblygwyd o dan nifer o themâu wedi parhau. Y themâu oedd:

  • marchnata a chodi ymwybyddiaeth
  • modelau rôl
  • cymhellion ysgogiad
  • meini prawf hyblyg ar gyfer ymuno a gadael
  • data a datgelu
  • trosglwyddo i brentisiaethau
  • cymorth i unigolion
  • cymorth i gyflogwyr
  • cymorth i ddarparwyr

Rydym yn parhau i ariannu hyrwyddwr cydraddoldeb Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru sy'n cynnal cyfarfodydd cydraddoldeb ac amrywiaeth rhanbarthol i'n darparwyr prentisiaethau gyda siaradwyr gwadd o sefydliadau yn y trydydd sector megis Chwarae Teg, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid ((ESYT), Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol Cymru a llawer mwy.

Gwnaethom hefyd ddatblygu newidiadau i feini prawf cymhwystra gan gyflwyno hyblygrwydd i bobl ag anableddau dysgu sy'n astudio ar gyfer cymhwysterau mewn sgiliau hanfodol.

Strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru (SEP 2016 i 2020, Amcan 5 SEP 2020 i 2024, Amcan 7)

  • casglu gwell data (yn enwedig data amrywiaeth) a chael y wybodaeth gywir o'r data hynny
  • creu llif cadarn o benodiadau cyhoeddus sy'n seiliedig ar gynhwysiant
  • sicrhau bod gennym fathau agored a chadarn ac, o bosibl, newydd o brosesau asesu penodiadau cyhoeddus
  • sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gwbl ymwybodol o gydraddoldeb ac amrywiaeth a'u bod wedi cael gwybodaeth lawn am y pwnc, yn enwedig mewn perthynas â'u rôl a rôl eu sefydliad
  • atgyfnerthu arweinyddiaeth mewn perthynas â chynhwysiant ac amrywiaeth

Mae'r Strategaeth yn canolbwyntio ar Fyrddau a reoleiddir yn unig ond gyda'r gobaith, a'r bwriad, y bydd yn annog cyrff nas rheoleiddir ac eraill i fabwysiadu arferion da.

I ddechrau, bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar helpu pobl anabl a'r rhai o gefndiroedd lleiafrifol ethnig i gael eu penodi i rolau cyhoeddus. Fodd bynnag, bydd y gwaith yn cwmpasu pob grŵp gwarchodedig.

Cydlyniant Cymunedol mewn ardaloedd gwledig (SEP 2016 i 2020, Amcan 6; SEP 2020 i 2024, Amcan 6)

Drwy ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 i 2020’, rydym wedi annog a chefnogi amodau gwell i weithwyr mudol a diogelwch swydd drwy uwchsgilio. Rydym hefyd wedi gweithio i wella sgiliau TGCh a mynediad i drafnidiaeth i grwpiau difreintiedig sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru gan gynnwys grwpiau lleiafrifol ethnig.

Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig hefyd yn cynnwys mesur ar gyfer gwasanaethau sylfaenol ac adfywio pentrefi. Caiff hyn ei gyflawni'n bennaf drwy'r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig. O dan y gronfa hon, cynigiodd Llywodraeth Cymru grantiau ar gyfer ymyriadau cymwys y bwriadwyd iddynt atal a lliniaru effaith tlodi mewn cymunedau gwledig gan wella amodau a all greu swyddi ac ysgogi twf yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â thrafnidiaeth a chynhwysiant digidol y bwriedir iddynt ehangu mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Ers dechrau cynllun y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig ar ddiwedd 2015 bu cyfanswm o saith cylch datgan diddordeb. Roedd amrywiaeth o opsiynau thematig ar gael er mwyn mynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â mynediad at wasanaethau, cynhwysiant digidol, tlodi tanwydd a thlodi mewn gwaith.

Mae'r prosiectau a gymeradwywyd wrthi'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd. Ni fwriedir cynnal unrhyw weithgarwch pellach o dan y rhaglen hon.

Ailysgrifennu'r dyfodol a'r Grant Amddifadedd Disgyblion (SEP 2016 i 2020, Amcan 1 SEP 2020 i 2024, Amcan 1)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i wella cyrhaeddiad academaidd dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig drwy weithredu strategaethau a nodir yn Ailysgrifennu'r Dyfodol a'r fersiwn ddiwygiedig ohoni, (polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau disgyblion o gefndiroedd difreintiedig) a Grant Amddifadedd Disgyblion estynedig.

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i'r Grant Amddifadedd Disgyblion am weddill tymor y Senedd hon. Bydd yr ymrwymiad hirdymor hwn yn galluogi ysgolion i wneud penderfyniadau hirdymor cynaliadwy ynghylch buddsoddi a fydd yn helpu i nodi rhwystrau i ddysgu yn gynnar a mynd i'r afael â nhw.

O flwyddyn i flwyddyn, rydym wedi ymestyn y Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae bellach yn cefnogi hyd yn oed mwy o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Yn ogystal â'r elfen prydau ysgol am ddim; mae'r Grant Datblygu Disgyblion bellach yn cynnwys plant sy'n derbyn gofal, y rhai yn y blynyddoedd cynnar, y rhai mewn unedau cyfeirio disgyblion a darpariaeth Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol.

Gwnaethom gomisiynu Plant yng Nghymru i lunio cyfres o ganllawiau i ysgolion ar agweddau allweddol ar y gwaith o fynd i'r afael â chost y diwrnod ysgol, gan gynnwys deall achosion ac effaith byw mewn tlodi, bwyd a newyn, a gwisg ysgol ac maent ar gael ar Hwb (porth gwybodaeth hygyrch i blant ysgol a rhieni).

Tai fforddiadwy (SEP 2016 i 2020, Amcan 1 SEP 2020 i 2024, Amcan 1)

Roedd rhaglen waith 2016 Llywodraeth Cymru, sef ‘Symud Cymru Ymlaen 2016 i 2021’, yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol rhwng 2016 a 2021. Roedd yr ymrwymiad hwn yn cynnwys cefnogi'r gwaith o adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi drwy'r cynllun Cymorth i Brynu.

Mae cyfansymiau o dair cyfres ystadegol yn cyfrannu at fesur y targed hwn.

  • Tai fforddiadwy, fel y'u diffinnir yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2: rhwng 2016 i 2017 a 2020 i 2021, darparwyd 13,999 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru.
  • Cynllun ‘Rhentu i Berchnogi Cymru’: rhwng mis Chwefror 2018 a mis Mawrth 2021, darparwyd 187 o unedau ychwanegol o dan y cynllun hwn.
  • Cynllun ‘Cymorth i Brynu Cymru’: rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2021, mae 8,875 o gartrefi wedi'u prynu o dan y cynllun hwn.

Gan ystyried y tair cyfres ystadegol a ddisgrifiwyd uchod, darparwyd ychydig dros 23,000 o gartrefi fforddiadwy rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2021, gan ragori ar y targed ar gyfer y cyfnod, sef 20,000 o gartrefi fforddiadwy.

Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol fel rhan o Raglen Lywodraethu 2021 i 2026. Nodir y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma o ran cyflawni'r ymrwymiad hwnnw yn y datganiad ystadegol nesaf yn y gyfres, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn ystod Hydref 2022.

Cymru o Blaid Pobl Hŷn (SEP 2016 i 2020, Amcan 1 SEP 2020 i 2024, Amcan 3)

Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn nodi'r camau a gymerwn i baratoi at y dyfodol. Er mwyn adlewyrchu natur amlhaenog heneiddio, rydym wedi gweithio gyda holl adrannau'r llywodraeth i fynd i'r afael â'r amrywiaeth o ffactorau sy'n dylanwadu ar y ffordd rydym yn heneiddio o'n systemau iechyd a thrafnidiaeth i'r ffordd rydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill.

Nod y strategaeth yw newid y ffordd rydym yn meddwl am heneiddio. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau pob person hŷn yng Nghymru, anelwn at wrthod rhagfarn ar sail oedran a gweithio gyda phob cenhedlaeth i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.

Siarter BSL (SEP 2020 i 2024, Amcan 1)

Un o'n hymrwymiadau yn ein fframwaith ‘Gweithredu ar Anabledd: yr hawl i fyw’n annibynnol’ yw datblygu siarter BSL i Gymru.

Yn ddiweddar gwnaethom roi arian i Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain gynnal archwiliad o'n polisïau a'n darpariaeth BSL yn Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd y gwaith hwn ym mis Chwefror 2021 ac rydym yn ystyried cyhoeddi'r adroddiad. Asesodd yr archwiliad bolisïau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru; darparodd gyfres o argymhellion; ac amlinellodd set o gynigion ar gyfer ymgysylltu'n barhaus â'r gymuned pobl fyddar. Bydd y gwaith hwn bellach yn bwydo i mewn i'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl er mwyn iddo ddatblygu cynllun integredig ar gyfer pobl anabl yng Nghymru.

Bydd yr archwiliad BSL yn darparu sail gadarn i ystyried sut y gellid gwella gwasanaethau cymorth BSL yng Nghymru a sut y gellid gwella sgiliau BSL.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y materion ymarferol sy'n ymwneud ag ymrwymo i Siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Fel sefydliad, bydd hyn yn ein galluogi i arwain drwy esiampl a hyrwyddo arferion da o ran cyfathrebu hygyrch â sefydladau a busnesau eraill ledled Cymru.

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Mae Cymru yn Genedl Noddfa rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y byrdymor, gan gydnabod y bydd ein cymunedau yn well eu byd oherwydd eu sgiliau a'u profiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau cynghori ac eiriolaeth i bobl sy'n ceisio noddfa. Yn ddiweddar, dyfarnwyd cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ar gyfer gwasanaeth i olynu Rhaglen Hawliau Lloches bresennol Llywodraeth Cymru a fydd ar gael o 1 Ebrill 2022 ymlaen am o leiaf 3 blynedd. 

Mae ein gwefan Noddfa yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches am eu hawliau, gan gynnwys adrannau ar iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae'r wefan yn defnyddio meddalwedd cyfieithu a thestun i leferydd er mwyn sicrhau bod y wefan yn hygyrch i fwy o bobl sy'n ceisio noddfa. Rydym wedi diweddaru'r wefan hon yn rheolaidd â gwybodaeth am COVID-19.

Rydym wedi rhoi arian i Gyngor Ffoaduriaid Cymru a'i bartneriaid er mwyn cyflwyno cynllun peilot a fydd yn cynnig costau trafnidiaeth am ddim i geiswyr lloches yng Nghymru. Byddwn yn parhau i helpu ac annog awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r bygythiad o ddigartrefedd, yn ogystal â datblygu trefniadau lletya a rhoi cyngor cyfreithiol.

Rydym yn parhau i gymryd rhan yn ein dull 'Tîm Cymru’ amlasiantaethol effeithiol er mwyn rhoi croeso cadarnhaol iawn i Affganiaid a dod o hyd i leoliadau cynaliadwy ledled Cymru. Mae Cymru bellach wedi croesawu mwy na 380 o bobl o Affganistan ac mae gwaith yn parhau i gynyddu'r nifer hwn ymhellach.

Mae Cymru bellach wedi croesawu cannoedd o bobl o Affganistan a mwy na 5,000 o bobl o Wcráin ac mae gwaith yn parhau i gefnogi pobl eraill a fydd yn cyrraedd y wlad. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi addo cefnogi'r cynlluniau i ffoaduriaid o Affganistan ac mae pob un yn rhoi cymorth i Wcreiniaid o dan y cynlluniau hynny.

O dan gynllun Cartrefi i Wcráin, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu llwybr yr ‘Uwch-Noddwr’ sydd wedi galluogi Llywodraeth Cymru i noddi ceisiadau am fisa am y tro cyntaf. Drwy'r llwybr hwn, rydym wedi noddi mwy na 4,500 o unigolion i ddod i Gymru heb adnabod teulu yn y DU a chael llety diogel ar un o'n safleoedd llety cychwynnol tra bod unrhyw ddarpar letywyr tymor hwy yn cael eu fetio. At hynny, rydym wedi darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd, bwyd, gweithgareddau a chymorth arall am ddim i fuddiolwyr ein huwch-noddwyr. Yn y cyfamser, rydym yn ariannu Housing Justice Cymru i roi cymorth i letywyr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru ac mae'r Groes Goch Brydeinig yn cael arian i gefnogi teuluoedd sy'n rhan o'r Cynllun Teuluoedd o Wcráin.

Roedd pob awdurdod lleol yng Nghymru hefyd wedi cefnogi Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Syria yn y gorffennol ac mae llawer wedi parhau i gefnogi'r system lloches o ddydd i ddydd dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref fod disgwyl i bob awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches ac oedolion sy'n ceisio lloches a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i gefnogi hyn yn y misoedd i ddod.

Troseddau Casineb

Rydym yn ariannu'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, a redir gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, er mwyn iddi ddarparu cymorth a gwasanaeth eiriolaeth cyfrinachol am ddim i bob dioddefwr troseddau casineb, ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos. Darperir cymorth dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu'n rhithwir. Bydd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth cymorth troseddau casineb yng Nghymru am y 3 blynedd nesaf o leiaf o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Ar ôl hynny, enw'r gwasanaeth fydd “Canolfan Cymorth Casineb Cymru”.

Dangosodd yr Ystadegau Troseddau Casineb Cenedlaethol ar gyfer 2020 i 2021 fod nifer y troseddau casineb a gofnodir yng Nghymru wedi cynyddu 16%. Mae'r cynnydd yn achos pryder ac yn dangos pam mae angen ein gwaith yn y maes hwn.

Cydlyniant Cymunedo

Mae ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn ariannu wyth tîm ledled Cymru i ddarparu cymorth rheng flaen i gymunedau, gan gynnwys ymgysylltu mwy uniongyrchol er mwyn helpu i fonitro a lleddfu tensiynau, yn ogystal ag ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth parhaus ynghylch troseddau casineb.

Mae timau Cydlyniant Cymunedol, sy'n gwneud amrywiaeth eang o waith, wedi bod yn hanfodol i'n helpu i ddatblygu ymrwymiadau llywodraeth leol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni adsefydlu a gwasgaru ar gyfer ceiswyr lloches.

Pobl Anabl

Mae'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn parhau i roi cyfle i randdeiliaid gynghori Llywodraeth Cymru ar y materion allweddol sy'n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru. Yn ystod pandemig COVID-19, cadeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wyth cyfarfod o'r Fforwm, lle y trafodwyd amrywiaeth o bryderon a datblygiadau yn ymwneud â phobl anabl yng Nghymru. Mae'r adborth a roddwyd gan aelodau'r fforwm wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ystyried barn, profiadau ac anghenion pobl anabl yn ystod yr argyfwng hwn ac wrth inni arwain Cymru allan o'r cyfyngiadau symud.

Yng ngoleuni'r dystiolaeth gan y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, a data eraill a oedd yn dod i'r amlwg ynghylch effaith COVID-19 ar bobl anabl, comisiynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol aelodau'r Fforwm i ystyried yr effaith y mae pandemig COVID-19 wedi'i chael ar bobl anabl.  Cafodd yr adroddiad a ddeilliodd o hynny, ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, ei gydgynhyrchu gan yr Athro Debbie Foster o Ysgol Fusnes Caerdydd a Grŵp Llywio o bobl â phrofiad bywyd, a gadeiriwyd gan Rhian Davies, Prif Weithredwraig Anabledd Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 2 Gorffennaf 2021 ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru. Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu Tasglu a arweinir gan Weinidog i ddatblygu'r gwaith hwn, er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a amlygwyd gan yr adroddiad a goruchwylio'r broses o roi camau gweithredu ar waith ar y cyd â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol.

Rhywedd

Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed yn Gwneud nid Dweud, adolygiad o gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn nodi bod gweledigaeth newydd ar gyfer cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru yn gofyn am ddull prif ffrydio cydraddoldebau y mae cyllidebu ar sail rhyw yn rhan annatod ohono. Dechreuodd dau gynllun cyllidebu ar sail rhyw peilot newydd yn 2022 er mwyn ategu canfyddiadau cychwynnol cynllun peilot Cyfrifon Dysgu Personol a gynhaliwyd yn flaenorol. At hynny, dechreuodd cynllun prif ffrydio cydraddoldeb peilot ym mis Ionawr 2022 a bydd yn cyflwyno ei adroddiad ym mis Medi 2022.

Urddas Mislif

Rydym yn parhau i roi arian i awdurdodau lleol ddarparu cynhyrchion mislif am ddim mewn ysgolion a chymunedau. Rhoddir arian i golegau Addysg Bellach at yr un diben hefyd. Cynyddwyd yr arian ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 er mwyn cydnabod yr argyfwng costau byw a oedd ar fin digwydd.  Cyfanswm yr arian a ddarparwyd eleni oedd £3.7 miliwn. Cwblhawyd gwaith i ddatblygu Cynllun Gweithredu Urddas Mislif. Cyhoeddir y cynllun ym mis Medi 2022 ochr yn ochr â chyfres o ddeunyddiau cyfathrebu a gwefan ymgyrch benodol.

Hil

Mae dileu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol bob amser wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru. Mae ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru Wrth-hiliol yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth, ac mae'n galw am ddim goddefgarwch mewn perthynas â hiliaeth o bob math. Mae'r Cynllun yn pwysleisio'r gwerthoedd hyn ac yn galw am ddim goddefgarwch tuag at hiliaeth o bob math. Mae'n adeiladu ar werthoedd agored a thryloyw, mae'n seiliedig ar hawliau ac mae'n defnyddio profiadau bywyd o hiliaeth. Mae'r Cynllun, a luniwyd ar y cyd ag ymchwilwyr, swyddogion polisi a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol a rhanddeiliaid hil allweddol eraill, yn uchelgeisiol ond yn gyflawnadwy.

Cyn bo hir, bydd Race Equality First yn cyflwyno adroddiad dadansoddi ffurfiol er mwyn helpu i atgyfnerthu'r Cynllun ac mae arweinwyr polisi yn diwygio'r Cynllun drafft i'w fireinio er mwyn sicrhau bod gennym y nodau a'r camau gweithredu cywir i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Bwriedir cyhoeddi'r Cynllun yn nes ymlaen eleni.

Ffydd

Mae arweinwyr ffydd yn cyfarfod â'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddwywaith y flwyddyn drwy'r Fforwm Cymunedau Ffydd. Fodd bynnag, cyfarfu'r Fforwm yn amlach â Llywodraeth Cymru yn 2020 i 2021 yn ystod pandemig COVID-19. Drwy Fforwm Cymunedau Ffydd Cymru, rydym yn rhannu dealltwriaeth dda o'n gwerthoedd a rennir, gan weithio tuag at sicrhau llesiant Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda grwpiau ffydd ar bob lefel er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth a meithrin cydlyniant cymunedol.

Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Rydym am sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu safleoedd digonol a diwylliannol briodol lle mae eu hangen. Ers inni greu'r ddyletswydd i nodi a diwallu'r angen am ddarpariaeth briodol yn Neddf Tai (Cymru) 2014, mae ymhell dros ddau gant o leiniau newydd naill ai wedi cael eu creu neu eu hadnewyddu, gyda llawer ohonynt ar safleoedd teuluol preifat bach. Mae hyn yn cymharu â dim ond llond llaw o leiniau newydd a grewyd rhwng 1997 a 2014.

Rhwng 2015 a 2021, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i Awdurdodau Lleol adeiladu 63 o leiniau newydd ac adnewyddu llawer mwy. Ers mis Ebrill 2021, mae gan 78 o leiniau fynediad gwell i gyfleusterau, mae 5 llain newydd wedi cael eu hadeiladu ac mae 73 o leiniau wedi cael eu gwella neu eu hadnewyddu gan ei gwneud yn bosibl i ddiogelwch safleoedd gael eu gwella.

LHDTC+

Bob mis Chwefror rydym yn dathlu mis hanes LHDTC+. Mae'n gyfle i ddathlu a chofio'r cyfraniad y mae pobl LHDTC+ wedi'i wneud i'n cymunedau a'n gwlad.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop a dyna pam rydym yn datblygu Cynllun Gweithredu LHDTC+ cadarn a thrawsbynciol, un a fydd yn atgyfnerthu mesurau diogelu i bobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac yn helpu i gydgysylltu camau gweithredu uchelgeisiol ym mhob rhan o'r Llywodraeth a thu hwnt.

Mae'n orfodol i bob dysgwr 3 i 16 oed gael gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy'n un o ofynion statudol fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Caiff Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ei chyflwyno mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022. Bydd y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn sicrhau y ‘gall y dysgwyr i gyd weld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ym mhob rhan o'r cwricwlwm a dysgu sut i werthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell cryfder’.

Rydym yn helpu i ddarparu tystiolaeth am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr ifanc, a fydd yn cynnwys agweddau sy'n cwmpasu cymunedau LHDTC+.

Fel rhan o'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth gofal iechyd i bobl ifanc drawsrywiol yng Nghymru.

Rydym wedi darparu cyllid newydd i gefnogi digwyddiadau Pride ar lawr gwlad a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru eleni, yn ogystal â sefydlu Cronfa Pride i Gymru gyfan ar gyfer y dyfodol.

Mae cynnydd hefyd wedi'i wneud ym maes iechyd rhywiol drwy gynllun gweithredu HIV Cymru, a gyhoeddwyd er mwyn ymgynghori arno ym mis Mehefin 2022. Nod y cynllun yw cyrraedd y targed o gael gwared ar heintiadau HIV newydd erbyn 2030, mynd i'r afael â stigma a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda HIV.

Nod Prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion yw sicrhau bod gan ddisgyblion mewn mwy na 150 o ysgolion y sgiliau meddwl beirniadol i'w galluogi i adnabod camwybodaeth a naratifau atgas. Mae CLlLC yn arwain y gwaith o gyflawni'r prosiect hwn sy'n werth £530,000. Bydd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth cymorth troseddau casineb yng Nghymru am y 3 blynedd nesaf o leiaf o 1 Ebrill 2022 ymlaen.

Cydraddoldeb Economaidd-Gymdeithasol

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau a brofir o ganlyniad i anfantais Economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Cyhoeddwyd adroddiad Llywodraeth Cymru, ‘Gweithredu'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau’ ar 13 Hydref 2021. Mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o dystiolaeth allweddol sy'n ymwneud â'r ffordd y mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar bobl yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar y ffordd y mae'n effeithio ar y rhai â nodweddion gwarchodedig yn ogystal â chymunedau lle a chymunedau buddiant.

At hynny, er mwyn helpu cyrff cyhoeddus ymhellach i fodloni gofynion y Ddyletswydd, mae adnodd tracio cynnydd ar gael i'w ddefnyddio drwy fynd i'r dudalen we hon sy'n ymdrin yn benodol â'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i achosi cryn bryder o safbwynt hawliau dynol yng Nghymru. Mae pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn enwedig cam-drin domestig, wedi cynyddu yn ystod pandemig COVID-19.

Roedd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth ac, ar ôl ei basio, mae gwledydd eraill yn y DU wedi troi at Gymru am arferion gorau. Mae Gweithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi arwain at fwy o hyfforddiant, canllawiau cryfach, newid mewn ymarfer a chyfeiriad strategol clir ym mhob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru sydd i gyd wedi cael effaith ar fywydau'r unigolion hyn.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol gyntaf ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2016 i 2021 ac, yn ddiweddarach, cyhoeddodd Fframwaith Cyflawni (2018 i 2021), sy'n nodi sut y bydd y Llywodraeth yn cyflawni ymrwymiadau a wnaed yn y Strategaeth Genedlaethol. Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer 2022 i 2026 wrthi'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cyfres gynhwysfawr o ganllawiau a phecynnau cymorth i ysgolion, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a chomisiynwyr rhanbarthol, a lywiwyd gan randdeiliaid a goroeswyr. Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chanllawiau statudol ar gyfer comisiynu gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru er mwyn cefnogi'r gwaith o gomisiynu ymyriadau integredig seiliedig ar dystiolaeth gan wasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: ymchwil gyda goroeswyr. Mae nifer o ymgyrchoedd cyfathrebu wedi'u cynnal er mwyn codi ymwybyddiaeth o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan herio agweddau a chyfeirio unigolion at gymorth. Mae hyn yn cynnwys ymgyrch 'Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ a lansiwyd ym mis Mai 2020.

Un o nodau eraill Llywodraeth Cymru yw cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach a’r ffaith fod ymddygiad camdriniol yn anghywir bob amser. O ganlyniad i gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau, mae mwy na 165,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi'u haddysgu am berthnasoedd iach.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu llinell gymorth Byw Heb Ofn, sef gwasanaeth 24/7 sydd ar gael am ddim i bawb sydd wedi dioddef a goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr.

Cyllid Ewropeaidd i Aelod-wladwriaethau, Themâu Llorweddol, Effaith colli cyllid yr UE

Mae Cymru wedi elwa ar gyllid Ewropeaidd gyda gofynion penodol o ran cydraddoldeb rhywiol, gwrthwahaniaethu a diogelu'r amgylchedd (themâu llorweddol). 

Mae gan raglenni ariannu Ewropeaidd yng Nghymru ‘werth ychwanegol’ at eu prif amcanion strategol, drwy ofynion ychwanegol a chamau gweithredu ategol.

Dengys y darlun o integreiddio'r themâu llorweddol mewn rhaglenni ariannu Ewropeaidd olynol gynnydd a gwelliant graddol a sicrhawyd drwy gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith rhanddeiliaid, datblygu deddfwriaeth a pholisïau, newidiadau mewn agweddau a ffocws clir ar bwysigrwydd y themâu llorweddol gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Ar ôl Brexit, roedd Gweinidogion Cymru yn glir mai'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid ac sy'n adlewyrchu tirwedd ranbarthol unigryw a blaenoriaethau strategol Cymru, oedd y mecanwaith y dylid ei ddefnyddio i gyflwyno Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu defnyddio pwerau cymorth ariannol Deddf Marchnad Fewnol y DU[1] i wario mewn meysydd datganoledig, gan anwybyddu Llywodraeth Cymru, a allai, yn ei dro, olygu anwybyddu unrhyw ymrwymiad i'r themâu llorweddol. Er bod y Gronfa Adfywio Cymunedol yn cyfeirio at roi sylw dyledus i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, nid yw'n glir pa ystyriaeth a roddwyd i gydraddoldeb wrth wneud y penderfyniad terfynol ynghylch y portffolio o brosiectau cymeradwy.

Ym mis Rhagfyr 2020, ni roddodd y Senedd ei chydsyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU, ac mae Llywodraeth Cymru yn herio elfennau o’r Ddeddf drwy Adolygiad Barnwrol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi sail dros herio’r pwerau cymorth ariannol yn gyfreithiol, ond mae Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn glir nad yw hyn yn cyfiawnhau’r camau gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r cyllid hwn.

Gwrthododd y Senedd roi ei chydsyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ym mis Rhagfyr 2020 ac mae Llywodraeth Cymru yn herio agweddau ar y Ddeddf drwy Adolygiad Barnwrol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi sail dros gyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y pwerau cymorth ariannol ond mae Gweinidogion Cymru wedi nodi'n glir nad yw hyn yn cyfiawnhau'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud mewn perthynas â'r cronfeydd hyn.

Mae Brexit a'r lleihad yn yr arian Ewropeaidd sy'n dod i Gymru yn peri risg sylweddol i'n gallu i gyflawni'r themâu llorweddol yn y dyfodol. Mewn papur ymchwil diweddar sy'n ymdrin â'r cwestiwn, beth fyddwn ni'n ei wneud heb yr Undeb Ewropeaidd? (Tach 2020), mae Dr Rachel Minto a Dr Alison Parken o Brifysgol Caerdydd yn awgrymu bod risg sylweddol y bydd datblygiad economaidd cymdeithasol sensitif yn lleihau os na fydd gan gyfranogwyr yng Nghymru fynediad at gronfeydd a gofynion cyllido Ewropeaidd. “If the UK government has control over these funds, it is unlikely that their aims will meet the social justice agenda set out by the Welsh Government in relation to the economy”.

Rhaglen Cyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Ers tro byd bu ein Rhaglen Cyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant wrth wraidd ein gwaith yn y maes hwn, gan ddarparu cymorth a gwasanaeth i gymunedau amrywiol a grwpiau allweddol drwy sefydliadau cynrychioliadol ag arbenigedd priodol.

Rydym wedi darparu buddsoddiad sylweddol fel hyn ac rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny.

Dechreuodd y rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant bresennol ym mis Ebrill 2017 er mwyn helpu i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2016 i 2020. Mae'n rhoi arian i saith sefydliad ddarparu cymorth i unigolion a chymunedau ledled Cymru mewn perthynas â rhywedd, anabledd, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, hil a throseddau casineb. Mae'r cynllun wedi'i ymestyn tan 31 Mawrth 2023 er mwyn i drefniadau olynol allu cael eu datblygu.

Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod tystiolaeth ddibynadwy y gellir ei defnyddio yn hanfodol i ddeall yr anghydraddoldebau systemig y mae dinasyddion yng Nghymru yn eu hwynebu a mynd i'r afael â'r problemau, sy'n aml wedi'u gwreiddio'n ddwfn, sy'n cael effaith andwyol ar y rhai â nodweddion gwarchodedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tair Uned wahanol, pob un â'i rhaglen dystiolaeth a'i harweinydd ei hun, sef:

  • Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Cenhadaeth yr Unedau yw gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy'n seiliedig ar wybodaeth well ac asesu a mesur eu heffaith. Bydd hyn yn ein hysgogi i sicrhau gwell canlyniadau i bobl â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig ac yn cyfrannu at gyflawni ein nod o greu ‘Cymru fwy cyfartal’ fel y'i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r tair Uned yn cydweithio fel yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd gyda Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb gyffredinol er mwyn sicrhau synergedd, effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chydlyniant. Mae blaenoriaethau ymchwil drafft ar gyfer pob Uned wedi'u datblygu gyda rhanddeiliaid yn seiliedig ar ymrwymiadau sydd eisoes wedi'u gwneud a gofynion newydd o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol; cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau; Cynllun Gweithredu LHDTC+; y Tasglu Hawliau Anabledd; y Tasglu Data Cynhwysol a chynlluniau a strategaethau eraill Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddir y strategaeth a'r blaenoriaethau cychwynnol erbyn Hydref 2022, er mwyn i randdeiliaid allu gweld yr hyn a fwriedir ar gyfer yr Unedau a chymryd rhan mewn prosesau blaenoriaethu. Dogfennau byw fydd y rhain gan fod disgwyl iddynt ddatblygu dros amser.

Darperir data ac ystadegau sy'n berthnasol i'r adroddiad hwn yn adroddiad Llesiant Cymru.

Disgwylir i'r adroddiad gael ei ddiweddaru ym mis Medi 2022.

Tlodi

Mynd i'r afael â thlodi

Drwy ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi nodi ein hymrwymiad i ddiogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau i bobl sy'n agored i niwed a gwella canlyniadau i aelwydydd incwm isel. Mae hyn yn cynnwys parhau i gefnogi ein rhaglen flaenllaw Dechrau'n Deg; a chyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant pan fo rhieni mewn addysg a hyfforddiant, ymhlith pethau eraill.

Cynllun Cyflenwi Cymru ar gyfer Llesiant Ariannol

Lansiodd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol yng Nghymru ym mis Mawrth 2020. Datblygwyd y Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru ar y cyd gan MaPS a Llywodraeth Cymru, arbenigwyr polisi, rheoleiddwyr a rhai sy'n awyddus i wella Llesiant Ariannol.

Gweithgareddau cam adfer yn y Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru i'r rhai sydd â'r angen mwyaf a grwpiau sy'n agored i niwed fydd ffocws y ddarpariaeth rhwng 2021 a 2023. Mae cam adolygu rhwng 2023 a 2024 wedi'i gynnwys er mwyn sicrhau, drwy gydol ei gylch oes o 10 mlynedd, y bydd pethau i'w cyflawni yn y Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru yn parhau i fod yn hyblyg ac yn berthnasol ar gyfer y dyfodol. Caiff dogfennau cyfatebol ar gyfer yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cyhoeddi ar yr un pryd.

Tlodi bwyd

Ar gyfer y tair blwyddyn ariannol ddiwethaf, mae cyllid Pontio'r UE gwerth £2m wedi'i ddyrannu er mwyn helpu sefydliadau bwyd cymunedol i ymestyn eu cyrhaeddiad a meithrin cadernid. Roedd yr arian wedi helpu sefydliadau i reoli cynnydd yn y galw drwy atgyfnerthu mentrau bwyd lleol, gan gynnwys canolbwyntio ar weithgarwch sy'n helpu i fynd i'r ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.

Defnyddiwyd arian hefyd, er enghraifft, i ddarparu cymorth arbenigol ar gyfer mentrau megis gwaith allgymorth, hyfforddiant i wirfoddolwyr (e.e. cymhwysterau trin bwyd) a meithrin cadernid cymunedau drwy ddatblygu canolfannau cymunedol sy'n cydleoli amrywiaeth o wasanaethau cymorth megis cyngor ar ddyled a thai, mentrau cymdeithasol a gwasanaethau cynghori, sydd wedi'i seilio ar ddarpariaethau bwyd cymunedol megis cynlluniau llwgu yn ystod y gwyliau, banciau bwyd a chaffis cymunedol.

Dyrannwyd £1.1 miliwn arall o dan y Gronfa Gymorth i Aelwydydd er mwyn helpu sefydliadau bwyd cymunedol i ateb y galw cynyddol o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

Yn 2022 i 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £3.9 miliwn i gefnogi camau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd ac sy'n cynyddu gweithgarwch sy'n mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd.

Tlodi Tanwydd

Cyhoeddwyd cynllun Llywodraeth Cymru i drech tlodi tanwydd 2021-2035 ym mis Mawrth 2021. Mae'r targedau hyn yn realistig ac yn gyflawnadwy dros y 15 mlynedd nesaf (erbyn 2035):

  • Amcangyfrifir nad oes unrhyw aelwydydd yn byw mewn Tlodi Tanwydd difrifol na pharhaus
  • Amcangyfrifir nad oes mwy na 5% o aelwydydd yn byw mewn Tlodi Tanwydd ar unrhyw adeg benodol
  • Caiff nifer yr aelwydydd sydd “mewn perygl” o fyw mewn Tlodi Tanwydd ei haneru fwy na 50% (yn seiliedig ar amcangyfrif 2018)

Y Gronfa Gymorth i Aelwydydd gan gynnwys hawlio'r taliadau Tanwydd Gaeaf

Ar 16 Tachwedd 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cyllid gwerth £51.7 miliwn er mwyn helpu aelwydydd incwm isel i ymdopi â'r pwysau ar gostau byw y gaeaf hwn. Y nod yw lleihau effaith torri'r Credyd Cynhwysol a'r Credyd Treth Gwaith a chost gynyddol ynni.

Mae £38 miliwn wedi'i ddarparu er mwyn cefnogi aelwydydd drwy Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Dechreuodd y cynllun ar 13 Rhagfyr a bydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd dalu eu costau ynni a chadw eu cartrefi'n gynnes y gaeaf hwn.

Ar 22 Chwefror, mae data o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn dangos bod mwy na 192,000 o geisiadau wedi dod i law a bod 145,770 o geisiadau wedi derbyn taliadau.

Ymateb i'r Argyfwng Costau Byw

Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi cyhoeddi cyllid gwerth £380 miliwn er mwyn helpu aelwydydd yng Nghymru i ymdopi â'r argyfwng costau byw.

Cronfa Gymorth i Aelwydydd

Ym mis Tachwedd 2021, dyrannodd Llywodraeth Cymru Gronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £51 miliwn er mwyn helpu i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw. Roedd y pecyn cymorth hwn wedi'i dargedu at bobl y mae angen cymorth arnynt fwyaf ac roedd yn cynnwys y canlynol:

  • taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf  sef taliad arian parod o £200 i bobl a theuluoedd ar incwm isel i'w helpu i dalu eu biliau ynni yn ystod y gaeaf eleni
  • £1.1 miliwn a ddarparwyd i gefnogi banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol

Cronfa Cymorth Dewisol

Fel rhan o gyllideb derfynol 2022-2023, mae £15 miliwn arall wedi'i ddarparu ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol. Bydd hyn yn helpu i roi mwy o hyblygrwydd tan fis Mawrth 2023, gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael cymorth ariannol brys pan fydd ei angen arnynt. Mae'r ffigur hwn yn ychwanegol at y cynnydd o £7 miliwn y flwyddyn yng nghyllideb y gronfa ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Mae cymorth y Gronfa Cymorth Dewisol i aelwydydd sydd oddi ar y grid, na allant fforddio eu cyflenwad nesaf o olew na LPG oherwydd caledi ariannol sylweddol, wedi'i ymestyn drwy'r haf a'r gaeaf tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Bydd hyn yn helpu'r aelwydydd hynny drwy roi taliad untro gwerth £250 ar gyfer olew neu hyd at dri thaliad gwerth £70 ar gyfer LPG iddynt.

Pecyn cymorth pellach

Ar ôl i OFGEM gyhoeddi y byddai'r cap ar ynni domestig yn cynyddu, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, becyn cymorth gwerth £330m i leddu'r argyfwng costau byw, sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

Rhoddir taliad costau byw gwerth £150 i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor ac i bob aelwyd sy'n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ym mhob un o fandiau'r dreth gyngor.

  • Mae mwy na 332,000 o aelwydydd ledled Cymru eisoes wedi cael eu taliad o £150.
  • Mae hyn yn mynd ymhellach na'r taliad gwerth £150 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer aelwydydd mewn eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor yn Lloegr.
  • Mae'r cynllun eisoes wedi darparu cymorth gwerth £152 miliwn.

Darperir £25 miliwn arall fel cronfa ddewisol i gynghorau lleol, er mwyn helpu aelwydydd a all fod yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Mae gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn amrywiaeth o gynlluniau eraill er mwyn helpu pobl i ymdopi â'r argyfwng costau byw, gan gynnwys £21.4 miliwn ychwanegol er mwyn sicrhau bod prydau ysgol am ddim hefyd ar gael yn ystod gwyliau'r Pasg, y Sulgwyn a'r Haf yn 2022.

Mae £90 miliwn wedi'i ddarparu er mwyn rhedeg Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru unwaith eto yn 2022 i 2023 a fydd yn cefnogi pobl ar incwm isel drwy roi taliad gwerth £200 nad yw'n ad-daladwy iddynt tuag at eu biliau ynni. Caiff y cynllun ei lansio ar 26 Medi ac mae wedi'i ymestyn er mwyn rhoi cymorth hanfodol i fwy o aelwydydd.

Ar 10 Mehefin, gwnaethom gyhoeddi y byddai bron i £4 miliwn yn cael ei ddarparu er mwyn i'r Fuel Bank Foundation allu cyflwyno taleb tanwydd genedlaethol a chynllun Cronfa Gwres yng Nghymru i aelwydydd sy'n gorfod talu am eu tanwydd ymlaen llaw.

Bydd y cynllun yn dechrau yn yr Hydref a bydd yn rhoi cymorth ariannol uniongyrchol i aelwydydd cymwys â mesuryddion rhagdalu a'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy sy'n ei chael hi'n anodd talu am eu tanwydd ymlaen llaw ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu.

Gwneud y gorau o incwm

Mae ail ymgyrch genedlaethol ‘Hawliwch yr hyn sy’n Ddyledus i Chi’ i annog pobl i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, wedi'i chwblhau. Ymatebodd mwy nag 8,000 o bobl i alwad yr ymgyrch i gysylltu ag Advicelink Cymru ac maent wedi cael cymorth i hawlio mwy na £2.1 miliwn o incwm ychwanegol.

Mae rhaglen hyfforddi i weithwyr rheng flaen yn darparu mwy o gyngor a chymorth mewn perthynas â budd-daliadau lles drwy fodelau cymorth i deuluoedd presennol.

Mae rhaglen o negeseuon a chymorth penodol yn annog y grwpiau sydd lleiaf tebygol o fod yn hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl i'w gael i fanteisio ar fudd-daliadau.

Rhaglen Cartrefi Clyd

Ers 2010 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, mae mwy na £394 miliwn wedi'i fuddsoddi er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy Raglen Cartrefi Clyd, gyda mwy na 67,100 o aelwydydd incwm is yn cael budd o'r rhaglen. Mae mwy na 160,800 o bobl wedi cael cyngor ar arbed ynni drwy Raglen Cartrefi Clyd ers iddi gael ei lansio yn 2011.

Gwasanaethau Cynghori

Eleni, mae mwy nag £11 miliwn wedi'i ddarparu ar gyfer gwasanaethau Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaethau hyn yn rhoi cymorth hanfodol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, gan eu helpu i wneud y gorau o'u hincwm a delio â'u dyledion.

Ers mis Ionawr 2020, mae gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu 127,000 o bobl i fynd i'r afael â 602,000 o broblemau lles cymdeithasol. Cawsant gymorth i hawlio incwm ychwanegol gwerth £75 miliwn a chafodd dyledion gwerth £22 miliwn eu dileu.

Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi cyhoeddi cyllid gwerth £380 miliwn er mwyn helpu aelwydydd yng Nghymru i ymdopi â'r argyfwng costau byw.

Ym mis Tachwedd 2021, dyrannodd Llywodraeth Cymru Gronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £51m er mwyn helpu i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw. Roedd y pecyn cymorth hwn wedi'i dargedu at bobl y mae angen cymorth arnynt fwyaf ac roedd yn cynnwys Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf gwerth £200 i bobl a theuluoedd ar incwm isel i'w helpu i dalu eu biliau ynni yn ystod y gaeaf eleni. Darparwyd £1.1 miliwn arall i gefnogi banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol.

Ar ôl i OFGEM gyhoeddi y byddai'r cap ar ynni domestig yn cynyddu, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, becyn cymorth gwerth £330 miliwn i leddu'r argyfwng costau byw, sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

Rhoddir taliad costau byw gwerth £150 i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor ac i bob aelwyd sy'n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ym mhob un o fandiau'r dreth gyngor.

Darperir £25 miliwn arall fel cronfa ddewisol i gynghorau lleol, er mwyn helpu aelwydydd a all fod yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Mae £90 miliwn wedi'i ddarparu er mwyn rhedeg Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru unwaith eto yn 2022 i 2023 a fydd yn cefnogi pobl ar incwm isel drwy roi taliad gwerth £200 nad yw'n ad-daladwy iddynt tuag at eu biliau ynni. Caiff y cynllun ei lansio ar 26 Medi ac mae wedi'i ymestyn er mwyn rhoi cymorth hanfodol i fwy o aelwydydd.

Ar 10 Mehefin, gwnaethom gyhoeddi y byddai bron i £4 miliwn yn cael ei ddarparu er mwyn i'r Fuel Bank Foundation allu cyflwyno taleb tanwydd genedlaethol a chynllun Cronfa Gwres yng Nghymru i aelwydydd sy'n gorfod talu am eu tanwydd ymlaen llaw.

Eleni, mae mwy nag £11 miliwn wedi'i ddarparu ar gyfer gwasanaethau Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaethau hyn yn rhoi cymorth hanfodol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, gan eu helpu i wneud y gorau o'u hincwm a delio â'u dyledion.

Ers mis Ionawr 2020, mae gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu 127,000 o bobl i fynd i'r afael â 602,000 o broblemau lles cymdeithasol. Cawsant gymorth i hawlio incwm ychwanegol gwerth £75 miliwn a chafodd dyledion gwerth £22 miliwn eu dileu.

Tlodi Plant

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus a enwir i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant sy'n nodi amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant a'r camau y byddant yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion.

Mae ein Strategaeth Tlodi Plant, a gyhoeddwyd yn 2015, yn nodi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant drwy barhau i ganolbwyntio ar yr hyn y gwyddom ei fod yn gweithio'n dda gan ddefnyddio'r dulliau ysgogi sydd ar gael inni. Mae'r amcanion yn canolbwyntio ar leihau nifer y plant sy'n byw mewn cartrefi heb waith, cynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc, lleihau anghydraddoldebau o ran addysg, iechyd a chanlyniadau economaidd, creu economi a marchnad lafur gryf a chamau gweithredu i gynyddu incwm aelwydydd.

Er bod yr amcanion yn dal i fod yn berthnasol, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddiweddaru'r Strategaeth o ystyried yr effaith y mae ymadawiad y DU â'r UE a'r pandemig wedi'i chael ar lefelau tlodi.

Cronfa Cymorth Dewisol

Rydym hefyd wedi darparu swm ychwanegol o £14.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, sef 2021 i 2022, er mwyn inni allu parhau â'r trefniadau hyblyg sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Mae'r trefniadau hyblyg yn ei gwneud yn bosibl i fwy o daliadau a thaliadau amlach gael eu gwneud pan fo COVID-19 yn ffactor ac maent bellach wedi'u hymestyn i gynnwys pobl y mae'r penderfyniad i ddileu'r cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol o 1 Hydref 2021 ymlaen wedi effeithio arnynt.

At hynny, mae £15 miliwn arall yn cael ei ddarparu ar gyfer 2022 i 2023 er mwyn ymestyn y cymorth i gynnwys y rhai sy'n parhau i wynebu caledi ariannol sylweddol oherwydd pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw difrifol presennol. Bydd yr arian hwn hefyd yn darparu ar gyfer ymestyn trefniadau hyblyg, gan ddarparu taliadau amlach i fwy o bobl yn ogystal â chymorth i gartrefi sydd oddi ar y grid gwrdd â chostau ynni yn ystod misoedd yr haf yn ogystal â'r gaeaf, gan gynnwys cymorth i Sipsiwn a Theithwyr.

Plant ac Addysg: Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ar 21 Mawrth 2022. Nod y Ddeddf yw helpu i amddiffyn plant a'u hawliau drwy wahardd rhieni a'r rhai sy'n gweithredu yn lle rhiant. Effaith fwriadedig y Ddeddf, ynghyd ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth a chymorth i rieni, yw lleihau'r defnydd o gosbi plant yn gorfforol ymhellach, a'r graddau y caiff hyn ei oddef, yng Nghymru.

Mae'r newid yn y gyfraith yn gyson ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n rhoi’r un amddiffyniad i blant ag sydd gan oedolion rhag ymosodiad a bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach ac yn haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd ei deall. Mae pob math o gosb gorfforol i blant, megis smacio, taro, slapio ac ysgwyd, bellach yn anghyfreithlon.

Prydau Ysgol am Ddim

Rydym yn falch o'n hanes o ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yng Nghymru ac rydym yn ymrwymedig i adeiladu ar y ddarpariaeth honno. I'r perwyl hwnnw, ar 22 Tachwedd 2021 gwnaethom gyhoeddi Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru sy'n ein hymrwymo i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, dros oes y cytundeb. Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £83.3 miliwn ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim, £60 miliwn yn 2020 i 2021 a £23.3 miliwn yn 2021 i 2022. Mae'r swm hwn yn cynnwys cyllid i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol ac i'r dysgwyr hynny na allant fynd i'r ysgol o ganlyniad i darfu sy'n ymwneud â'r pandemig. Bydd disgyblion cymwys yn parhau i gael pryd am ddim yn ystod y gwyliau hyd at ddiwedd haf 2022.

Plant sy'n Derbyn Gofal: Gwella Canlyniadau Addysgol

Rydym wedi darparu tua £5 miliwn bob blwyddyn i gefnogi plant sy'n derbyn gofal mewn addysg drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal. Y consortia addysg rhanbarthol sy'n gweinyddu'r grant hwn, ar y cyd ag awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae'r cyllid yn seiliedig ar £1,150 fesul plentyn sy'n derbyn gofal; Fodd bynnag, nid yw'r cyllid wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer pob plentyn. Mae'r dull gweithredu hwn yn ei gwneud yn bosibl i gonsortia, gan weithio gyda phartneriaid, bennu'r ymyriadau strategol mwyaf effeithiol i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ni waeth beth fo'r newidiadau o ran lleoliad gofal neu ysgol.

Y Cynnig Gofal Plant

Rydym yn cydnabod bod gofal plant sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac ar gael yn galluogi rhieni i weithio, gan gefnogi ein hymgyrch i gynyddu twf economaidd, mynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau.

Yn unol â'r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith, mae'r Cynnig Gofal Plant bellach wedi'i ymestyn i gynnwys rhieni sydd wedi'u cofrestru ar gyrsiau Addysg Uwch neu Addysg Bellach. Roedd mwy nag 18,200 o blant yn manteisio ar y Cynnig Gofal Plant ym mis Mehefin 2022.

Rydym wedi parhau i gefnogi ein rhaglen Dechrau'n Deg ac wedi dechrau ar y cam cyntaf o ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn raddol er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar

Yn 2019, gwnaethom lansio ein gweledigaeth ar gyfer Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar a fydd yn diwygio'r ffordd y darperir addysg a gofal cynnar yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Nod ein Rhaglen Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yw dod â nifer o nodau polisi ynghyd mewn un system er mwyn cydnabod y dirwedd gofal plant sydd weithiau'n ddryslyd. Bydd hyn yn cymryd amser ond ein bwriad yw sicrhau bod darpariaeth o ansawdd uchel ar gael i bob plentyn yn ystod ei flynyddoedd cynnar.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar daith 10 mlynedd i gyflawni'r nodau hyn. Mae gwaith ar Fframwaith Ansawdd er mwyn ymgorffori egwyddorion ansawdd a chefnogi ymarferwyr a rhieni wrthi'n cael ei ddatblygu.

Teuluoedd yn Gyntaf

Bwriedir i Teuluoedd yn Gyntaf wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae'n rhoi pwyslais ar ymyrryd yn gynnar, atal a rhoi cymorth i deuluoedd cyfan, yn hytrach nag unigolion. Mae'r rhaglen yn gweithio gyda'r teulu cyfan er mwyn atal problemau rhag gwaethygu a throi'n argyfwng.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn un o chwe rhaglen o fewn y Grant Plant a Chymunedau sy'n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar ac atal. Mae rhaglen Dechrau'n Deg hefyd wedi'i chynnwys yn y Grant Plant a Chymunedau. Rydym wedi darparu refeniw ychwanegol gwerth £40 miliwn hyd at 2024 i 2025 ar gyfer help a chymorth cynnar, gan gynnwys Teuluoedd yn Gyntaf, gan gydnabod pwysigrwydd cefnogi mwy o blant a theuluoedd ledled Cymru.

Dechrau'n Deg

Dechrau'n Deg yw prif raglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru. Mae'n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant dan bedair oed mewn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig.

Cyflawnwyd y targed i ddyblu cyrhaeddiad Dechrau'n Deg i 36,000 o blant erbyn 2016 flwyddyn yn gynnar pan ddarparodd y rhaglen ar gyfer 37,260 yn 2014 i 2015. Er gwaethaf y tarfu sylweddol ar wasanaethau Dechrau'n Deg yn ystod pandemig y Coronafeirws yn 2020 i 2021, cafodd 31,832 o blant fudd o wasanaethau Dechrau'n Deg. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynnal y rhaglen bwysig hon.

Cwricwlwm i Gymru: Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Mae diogelu ein pobl ifanc a'u helpu i ddeall maes cymhleth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn hanfodol. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chwarae wrth greu amgylcheddau diogel a grymusol sy'n cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau cadarnhaol, iach a diogel drwy gydol eu bywydau.

Mae'n orfodol i bob dysgwr 3 i 16 oed gael gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy'n un o ofynion statudol fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Caiff Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ei chyflwyno mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022. Bydd yn sicrhau y gall y dysgwyr i gyd weld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ym mhob rhan o'r cwricwlwm a dysgu sut i werthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell cryfder’.

Cyflogaeth: Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Lluniwyd y Cod yn 2017 fel ymateb Llywodraeth Cymru i Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 y DU gyda ffocws ar sicrhau bod sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn cymryd camau i leihau'r risg o gaethwasiaeth fodern a cham-fanteisio yn eu cadwyni cyflenwi.

Mae'r Cod yn nodi 12 o ymrwymiadau y disgwylir i sefydliadau sydd wedi'i lofnodi eu cynnal. Mae ymrwymiadau'r Cod yn cynnwys mynd i'r afael ag arferion anfoesegol ac anghyfreithlon megis cosbrestru, hunangyflogaeth ffug a defnydd annheg o gontractau dim oriau. Mae ymrwymiadau'r Cod hefyd yn cynnwys ystyried talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol a dod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig.

Ers iddo gael ei gyhoeddi yn 2017, mae mwy na 400 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r Cod. Mae hyn yn cynnwys mwy na 50 o sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

Gwaith Teg

Mae gwaith yn parhau i gyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Os caiff ei basio, bydd yn cyflwyno dyletswyddau newydd o ran partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.

Rydym wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol er mwyn gwella amodau gwaith yn y sector gofal cymdeithasol, Fforwm Iechyd a Diogelwch cenedlaethol er mwyn gwella'r dull o ymdrin ag iechyd a diogelwch yn y gwaith a Fforwm Manwerthu yn cynnwys Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer sector manwerthu cynaliadwy a chydnerth sy'n cynnig gwaith teg, diogel a boddhaol.

Partneriaeth Gymdeithasol

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddeddfu er mwyn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol yng Nghymru.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar Fil drafft yn ystod Gwanwyn 2021. Caiff Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ei gyflwyno yn y Senedd eleni.  Bydd y Bil yn cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu drwy sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol, a fydd yn gorff teirochrog o Weinidogion Cymru, undebau llafur a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.  Bydd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau'n ymwneud â gwaith teg, caffael cymdeithasol gyfrifol a dyletswyddau Partneriaeth Gymdeithasol newydd ar rai cyrff cyhoeddus ac ar Weinidogion Cymru

Gwasanaethau Cynghori ac Eiriolaeth

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydledig i gefnogi gwasanaethau gwybodaeth a chynghori er mwyn i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas allu cael y cyngor diduedd am ddim sydd ei angen arnynt i ddatrys problemau sy'n ymwneud â'u tai, budd-daliadau lles a chyflogaeth a rheoli eu hymrwymiadau ariannol. Mae'n bwysicach nag erioed fod gennym sector cyngor ar les cymdeithasol yng Nghymru lle y defnyddir adnoddau mor effeithiol â phosibl ac mae darparwyr o ansawdd sicr yn darparu gwasanaethau wedi'u targedu at bobl yn ein cymunedau sydd eu hangen fwyaf.

Ymyriadau yn ystod y Pandemig

Ym mis Mawrth 2020, pasiwyd deddfwriaeth i ddarparu pwerau brys er mwyn ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru. Daethpwyd i gyfeirio at y pwerau hyn wedyn fel Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Ym mis Ebrill 2020, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer y ffordd y byddai cyfyngiadau'n ymwneud â COVID-19 yn cael eu llacio wrth i gyfraddau heintio ym mhoblogaeth Cymru leihau. Er mwyn galluogi adferiad, nododd Llywodraeth Cymru fframwaith ar gyfer asesu'r dystiolaeth am gyfraddau heintio presennol, p'un a fyddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn effeithio arnynt a sut y byddai trefniadau goruchwylio iechyd y cyhoedd ac ymateb yn cael eu gwella er mwyn atal pobl rhag cael eu heintio a thracio'r feirws wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ‘strategaeth Profi Olrhain Diogelu’ ym mis Mai 2020, a oedd yn seiliedig ar gyngor iechyd cyhoeddus arbenigol. Lansiwyd strategaeth Profi Olrhain Diogelu ar 1 Mehefin er mwyn olrhain pobl yr amheuid eu bod wedi'u heintio â COVID-19, olrhain unigolion a oedd wedi dod i gysylltiad agos ag unigolion a oedd wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19 a rhoi cyngor ac arweiniad.

Gan y gallai newidiadau sy'n llacio cyfyngiadau ffurfiol gynyddu cyfraddau trosglwyddo'r feirws, caiff pob achos o lacio cyfyngiad ei lywio gan arbenigedd gwyddonol a'r dystiolaeth ryngwladol.

Roedd yr angen i ganolbwyntio ar y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, yn ogystal ag anghydraddoldebau cymdeithasol a amlygwyd gan bandemig COVID-19, yn ystyriaethau pwysig mewn cynlluniau llacio a ddatblygwyd.

Esboniwyd y dull parhaus o lacio cyfyngiadau yn ofalus a diogelu pobl yng Nghymru ymhellach yng Nghynllun Rheoli'r Coronafeirws ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2020. Nododd y Cynllun hwn sut y byddai effeithiau'r cyfyngiadau a'r llacio yn cael eu monitro gan ddefnyddio nifer o ddangosyddion ac esboniodd fod rheoli COVID-19 yn gofyn am ymdrech ar y cyd, lle mae gan bawb rôl i'w chwarae.

Rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru fwy na chwarter miliwn o grantiau gwerth mwy na £2.6bn i gefnogi busnesau yng Nghymru er mwyn eu helpu i oroesi a diogelu eu cyflogeion. Bwriadwyd i gymorth ariannol Llywodraeth Cymru ychwanegu gwerth a llenwi'r bylchau mewn perthynas â chynlluniau cenedlaethol Llywodraeth y DU megis benthyciadau, Cadw Swyddi, Cymorth i'r Hunangyflogedig. Y prif ymyriadau cyllid economaidd oedd y Gronfa Cadernid Economaidd a'r Gronfa Adferiad Diwylliannol, yn ogystal â grantiau'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig a chronfeydd dewisol lleol a gyflwynwyd drwy awdurdodau lleol, ynghyd â rhyddhad ardrethi busnesau.

Drwy gydol y pandemig, parhaodd Busnes Cymru i fod ar gael i gefnogi busnesau drwy amrywiaeth o opsiynau cymorth yn ystod yr argyfwng a thu hwnt gyda chymorth ar ôl pandemig COVID-19. Mae Llinell Gymorth Busnes Cymru wedi darparu gwybodaeth ymarferol, cyngor a gwasanaeth cyfeirio i fusnesau a oedd yn wynebu problemau oherwydd pandemig COVID-19. Mae Busnes Cymru hefyd wedi addasu ei wasanaethau cymorth cynghori er mwyn i unrhyw gyngor allu cael ei roi'n rhithwir, yn ddigidol neu dros y ffôn i gefnogi busnesau ledled Cymru. At hynny, datblygwyd cyfres o weminarau byw er mwyn ateb yr heriau roedd busnesau yn eu hwynebu.

Chwaraeodd Banc Datblygu Cymru rôl allweddol hefyd drwy helpu busnesau yng Nghymru i reoli'r heriau a oedd yn gysylltiedig â phandemig COVID-19 drwy ddarparu cyllid benthyciadau ac ecwiti i fusnesau yng Nghymru.