Mae'r Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn creu system ofal fwy cyson a chynaliadwy sy'n rhoi pobl yn gyntaf.
- mae rhaglen newydd yn cael ei chyhoeddi i gryfhau gofal cymdeithasol
- mae'n canolbwyntio ar 6 maes allweddol i greu system fwy cyson a chynaliadwy
- dyma'r cam nesaf i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru
Mae'r Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn creu system ofal fwy cyson a chynaliadwy sy'n rhoi pobl yn gyntaf.
Mae'n adeiladu ar yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth o ansawdd uchel ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
Dyma'r cam nesaf i ddiwygio gofal cymdeithasol yng Nghymru, tra'n parhau i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl a chymunedau.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â:
- phobl sy'n cael gofal a chymorth
- gofalwyr di-dâl
- y gweithlu gofal cymdeithasol
- llywodraeth leol
- darparwyr gofal a phartneriaid
Bydd eu profiad a'u harbenigedd yn helpu i lunio darpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn canolbwyntio ar 6 sylfaen:
- arweinyddiaeth ac atebolrwydd cenedlaethol clir
- cyllid teg a gofal dibynadwy
- cefnogi gweithwyr gofal i adeiladu gyrfaoedd parhaol, gwerthfawr
- data a gwasanaethau digidol gwell
- ymyrraeth gynnar a diogelu cryf
- gofal cymdeithasol a chymorth di-dor
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Delyth Jewell:
Mae gofal cymdeithasol yn helpu plant a theuluoedd drwy gyfnodau anodd, yn galluogi pobl anabl i fyw yn annibynnol, yn cefnogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain, ac yn helpu gofalwyr di-dâl i allu parhau â'u rôl hanfodol.
Mae cyfraniad gofalwyr, boed yn rhai cyflogedig neu ddi-dâl, yn cyfoethogi bywydau miliynau o bobl o'n cwmpas. Yn rhy aml, caiff gofal cymdeithasol ei ystyried yn wasanaeth anweledig. Rwy'n benderfynol y bydd hynny'n newid.
Bydd y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn datblygu system gymorth fwy cyson, cynaliadwy a chydgysylltiedig yn y sector gofal cymdeithasol – gan sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael gofal amserol yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn. Mae'n dangos sut mae Cymru'n arwain y ffordd yn bendant o ran trosi uchelgais yn gamau gweithredu ar ddiwygio gofal cymdeithasol.
Wrth i'r galw am ofal barhau i dyfu, mae angen newid parhaol arnom ni sy'n cryfhau gwasanaethau, yn cefnogi'r gweithlu ac yn gwella gofal i bobl. Mae'r rhaglen hon yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r uchelgais honno yn ystod tymor y Senedd hon o fewn ein gweledigaeth hirdymor o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.
