Neidio i'r prif gynnwy

Bydd arddangosfeydd gwybodaeth i'r cyhoedd yn cael eu cynnal i ddangos yr opsiynau mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i wella'r A483 rhwng Cyffyrdd 3 a 6 yn Wrecsam, mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r A483 yn darparu un o'r prif lwybrau cysylltu rhwng Gogledd a De Cymru, yn ogystal â Lloegr, ac mae gwaith eisoes wedi cael ei wneud i ddangos y problemau sy'n effeithio ar y coridor a'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at y problemau hynny.

Mae rhestr o ddatrysiadau posibl yn cael ei datblygu a'i hasesu, sy'n nodi coridor yr A483 rhwng Cyffyrdd 3 a 6, a'r cyffyrdd cysylltiedig, fel rhannau allweddol i'w gwella. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y cynigion hyn.

Nod yr opsiynau sy'n cael eu datblygu yw gwella diogelwch a chydnerthedd, a gwneud amseroedd teithio'n fwy dibynadwy ar yr A483, yn ogystal â chreu cysylltiadau gwell ar hyd y llwybr a lleihau damweiniau a thagfeydd.

Mae amcanion y cynllun hefyd yn cynnwys cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus a darparu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol i leihau'r defnydd o gerbydau personol, a fydd hefyd yn gwella ansawdd yr aer rhwng Cyffyrdd 5 a 6.

Mae Cyffyrdd 3 – 6 ar yr A483 – Ffordd Osgoi Wrecsam yn gynllun man cyfyng yng Nghynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a Strategaeth Symud Gogledd Cymru Ymlaen.

Bydd yr arddangosfeydd gwybodaeth i'r cyhoedd yn galluogi pobl i weld rhagor o wybodaeth am y cynllun ac i gwrdd â Thîm y Prosiect, a fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau. Maent yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth 25 Mehefin a dydd Iau 27 Mehefin yng Nghanolfan Catrin Finch ar gampws Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 10am a 6pm ar 25 Mehefin a rhwng 1pm ac 8pm ar 27 Mehefin.

Yn ystod yr haf hwn, bydd opsiynau posibl yn cael eu datblygu a'u hasesu ymhellach gan ddefnyddio proses WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru). Wedyn bydd ymgynghoriad ar restr fer o gynigion yn dechrau cyn Nadolig 2019.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Mae sicrhau rhwydwaith ffyrdd dibynadwy ac effeithlon yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a dyma pam mae'n rhaid gweithredu i ddatrys y problemau presennol sy'n effeithio ar yr A483 rhwng Cyffyrdd 3 a 6.

"A minnau'n defnyddio'r rhan hon o'r ffordd yn rheolaidd, dw i'n deall yn llawn y problemau presennol, ac mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod y tagfeydd ar y llwybr hwn ar hyn o bryd yn amharu ar gymudo bob dydd, yn ogystal â'r dyheadau am dwf economaidd yn Wrecsam. Mae'n bwysig nodi y bydd methu gweithredu i wella'r sefyllfa yn effeithio ar drigolion a busnesau yn yr ardal nawr ac yn y dyfodol.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio ar nifer o opsiynau i wella'r rhan hon o'r A483 – fodd bynnag, rydyn ni hefyd am weithio mewn ffordd adeiladol â thrigolion lleol a'r rhai sy'n defnyddio'r ffordd er mwyn llawn ystyried sut mae'r coridor hwn a'r pedair cyffordd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

"Mae'r arddangosfeydd gwybodaeth i'r cyhoedd yn ffordd wych o ddysgu mwy am y cynllun pwysig hwn, pam mae angen y cynllun a pha ddatrysiadau sy'n cael eu datblygu. Hoffwn i annog pawb sydd â diddordeb i fynd i Ganolfan Catrin Finch ar gyfer y sesiynau gwybodaeth.