Neidio i'r prif gynnwy

Bydd terfyn parhaol cyflymder cyfartalog gorfodol o 50 milltir yr awr yn fyw rhwng cyffyrdd 24 a 28 ar yr M4 erbyn dydd Llun 15 Mawrth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r mesur yn rhan o ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thagfeydd yn yr ardal fel yr argymhellwyd yn adroddiad yr Arglwydd Burns a gyhoeddwyd yn dilyn y gwaith a wnaed gan Gomisiwn Traffig De Ddwyrain Cymru a sefydlwyd i edrych ar wella symudiad cerbydau ar hyd coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd gwaith yn cael ei wneud i gwblhau'r gwaith o osod y camerâu a'r arwyddion ffyrdd.

Bydd y gerbytffordd i'r dwyrain yn cau yn llawn yn ystod y nos yn dechrau ar 1 Mawrth, ac yna bydd y gerbytffordd i’r gorllewin ar gau yn llawn rhwng 20:00 i 06:00 o 8 Mawrth.

Bydd rhagor o wybodaeth am y llwybrau dargyfeirio ac unrhyw darfu ar y cyhoedd sy'n teithio ar wefan Traffig Cymru a chyfrif Twitter Traffig Cymru de.

Bydd y camerâu yn weithredol a bydd y terfyn cyflymder gorfodol 50mya yn cael ei fonitro'n agos gan GanBwyll yn ystod cyfnod sefydlu. Bydd yn caniatáu i systemau llawn a gwiriadau gorfodi gael eu cynnal ac yn rhoi amser i fodurwyr ddod i arfer â'r terfyn cyflymder newydd. Bydd hysbysiadau erlyn yn dechrau cael eu cyhoeddi yn yr haf.

Bwriad y newid yw:

  • Helpu i reoli tagfeydd ar hyd y rhan hon o’r M4
  • Gwella amseroedd teithio a darparu llif traffig llyfnach
  • Lleihau’r risg o ddamweiniau
  • Gwell ansawdd aer trwy leihau lefelau yr allyriadau

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae'r gwaith hwn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â thagfeydd yn y rhanbarth. Rydym yn gwneud hyn yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a'n hamcan clir o leihau allyriadau o'r sector trafnidiaeth.

"Cynhyrchodd Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru nifer o argymhellion i fynd i'r afael â thagfeydd yr oeddem yn hapus i'w cymeradwyo. Mae Uned Ddatblygu Trafnidiaeth Cymru gyda’r dasg o’n cefnogi i fwrw ymlaen ag argymhellion ehangach yr Arglwydd Burns a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i wella teithiau yn yr ardal.

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:

“Mae GanBwyll wedi ymrwymo i gefnogi ein partneriaid awdurdod priffyrdd i sicrhau y cedwir at y cyfyngiadau cyflymder ar ein ffyrdd. Mae yna nifer o fuddion i derfyn cyflymder is ar y rhan hon o'r ffordd a dylai cerbydau sy'n defnyddio'r ffordd weld diogelwch ar y ffyrdd a gwella teithiau. Byddwn yn adolygu'r traffig ar ôl y newidiadau ac yn barod i orfodi'r terfyn cyflymder os oes angen.

Dywedodd Mark Travis, Dirprwy Prif Gonstabl De Cymru:

“Mae'r rhan hon o'r ffordd wedi bod yn destun nifer o wrthdrawiadau dros y blynyddoedd, ac rwy'n croesawu cyflwyno terfyn gostyngedig parhaol a’r cynllun Camerâu Cyflymder Cyfartalog cyfatebol i sicrhau cydymffurfiad ar y rhan hon o'r M4 ac i leihau marwolaethau ar ffyrdd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i gynyddu i’r eithaf y nifer o deithiau diogel ac effeithlon y mae ein preswylwyr a'n hymwelwyr yn gwneud ar ein ffyrdd. Mae ffyrdd diogel yn hanfodol i les ein cymunedau, yn enwedig pobl ifanc, ac mae'n iawn ein bod ni'n gwneud ein cymunedau mor ddiogel ag y gallant fod.