Mae cyllid ar gyfer camerâu gwyliadwriaeth newydd ac adolygiad o gosbau penodol am dipio anghyfreithlon yn rhan o gamau llymach sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.
Cafodd 42,171 o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon eu cofnodi yng Nghymru rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, gyda 71% yn ymwneud â gwastraff cartref.
Nawr, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae Taclo Tipio Cymru yn darparu 150 o gamerâu newydd i awdurdodau lleol i dargedu'r mannau gwaethaf a helpu i lanhau cymunedau.
Mae grantiau hefyd wedi'u dyfarnu i gynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro ar gyfer prosiectau gorfodi a chamerâu, gyda gwersi i'w rhannu ag eraill.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Does dim esgus dros dipio anghyfreithlon. Mae'n difetha ein strydoedd, cefn gwlad a chymunedau, ac mae pobl hyd a lled y wlad yn grac amdano.
"Rydyn ni'n benderfynol o lanhau ein cymunedau, a bydd y camerâu newydd hyn yn ein helpu i wneud hynny.
"Mae ein cyllid parhaus yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol fynediad at arbenigedd gorfodi, offer gwyliadwriaeth a chymorth cyfreithiol sydd ei angen arnynt i ddal a chosbi'r rhai sy'n torri'r gyfraith."
Dywedodd y Cynghorydd Castell-nedd Port Talbot Scott Jones, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Stryd:
"Mae'r cyllid grant gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn camerâu gwyliadwriaeth newydd i gefnogi ein brwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon. Bydd yr offer yn cael ei ychwanegu at yr hyn rydyn ni eisoes yn ei ddefnyddio sy'n amhrisiadwy, gan ganiatáu i'n Tîm Gorfodi Gwastraff a'n Gwasanaethau Cyfreithiol fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth adnabod troseddwyr a sicrhau erlyniadau llwyddiannus.
"Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol sy'n difetha ein cymunedau. Drwy gryfhau ein galluoedd gorfodi, rydym yn anfon neges glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef yng Nghastell-nedd Port Talbot."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn adolygu terfynau hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon a gwastraff cartref i sicrhau eu bod yn gweithredu fel dull atal effeithiol.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Rydym wedi gwrando ar awdurdodau lleol sydd eisiau dulliau cryfach i fynd i'r afael â'r broblem hon, a byddwn yn ystyried a yw'r lefelau cosb presennol yn ddigonol i atal darpar droseddwyr.
Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae. Rwy'n annog pawb i wirio bod unrhyw un maen nhw'n ei dalu i gael gwared ar wastraff yn gludydd gwastraff cofrestredig. Os yw'ch gwastraff yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, gallech wynebu dirwy neu erlyniad a risg o gofnod troseddol."
Gwiriwch bob amser fod gan unrhyw un rydych chi'n ei dalu i gael gwared ar wastraff drwydded cludydd gwastraff drwy ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gadarnhau ei fod wedi'i gofrestru.
