Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr ymchwil hon yw nodi canfyddiadau busnesau o risgiau oherwydd y newid yn yr hinsawdd sy'n gysylltiedig â gwres, ac a oes angen cymorth ychwanegol.

Canfyddiadau busnesau o’r risg yn sgil y newid yn yr hinsawdd

Roedd y rhan fwyaf o fusnesau ymatebodd i’r arolwg yn gweld bod y newid yn yr hinsawdd yn esgor ar rai risgiau. Ond, nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gweld y risgiau hyn yn rhai difrifol nac yn gofyn am sylw brys. Dim ond nifer fach ohonynt oedd yn gweld bod risgiau mawr o weithio mewn tymheredd uwch (4%) neu o darfu ar seilwaith (5%).

Dywedodd lleiafrif o fusnesau na welent y byddai’r newid yn yr hinsawdd yn creu unrhyw risgiau o gwbl i’w busnes (17%).

Roedd gwahaniaeth rhwng sectorau o ran eu barn am y risg, er nad oes patrwm clir. Er enghraifft, y busnesau y mae eu gweithwyr yn gweithio y tu allan yn bennaf oedd yn gweld y risg mwyaf i dymheredd uwch ostwng cynhyrchiant gweithwyr. Mae busnesau swyddfa hefyd yn gweld risg sy’n fwy na’r cyfartaledd o golli cynhyrchiant oherwydd tymheredd gweithio uwch.  Ond mae busnesau gweithgynhyrchu yn gweld risg sy’n llai na’r cyfartaledd yn sgil hinsawdd sy’n newid.

Sut mae busnesau’n asesu risg ac yn gweithredu arno

Er bod rhai busnesau’n gweld bod yna risgiau yn sgil hinsawdd sy’n newid, ychydig sy’n cymryd camau i ddeall a lliniaru’r risgiau hyn.  Dywedodd y rhan fwyaf o’r busnesau fod ganddynt fwriad i addasu i’r risgiau, ond nid oedd y rhan fwyaf wedi gwneud eto.  Dywedodd 54% o’r busnesau eu bod am fabwysiadu cynllun addasu i newid hinsawdd ond nad oeddent wedi gwneud eto. Dim ond 11% o fusnesau sydd wedi neu wrthi’n rhoi cynllun addasu i newid hinsawdd ar waith.

Dim ond 32% o’r busnesau a holwyd ddywedodd eu bod wedi asesu risgiau’r newid yn yr hinsawdd trwy asesiad risg ffurfiol. Er i 32% o fusnesau ddweud iddynt gynnal asesiad risg ffurfiol, dim ond 11% oedd wedi cwblhau cynllun addasu yn ei sgil.

Rhwystrau a sbardunau i fusnesau sy’n asesu ac yn lliniaru risgiau

Y ffactor fwyaf sy’n rhwystro busnesau rhag addasu yw diffyg gwybodaeth, yn enwedig gwybodaeth ynghylch sut y gall gweithio mewn tymheredd uchel a tharfu ar seilwaith effeithio ar sectorau busnes penodol yng Nghymru.

Dywedodd busnesau hefyd bod angen gwybodaeth arnynt ynghylch sut i liniaru’r risgiau. Gallai hynny gynnwys sut i asesu risgiau, o bosibl yng nghyd-destun modelau  senarios newid hinsawdd. Mae costau addasu a neilltuo adnoddau i greu a chynnal cynllun addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn rhwystr arall.

Gofynnwyd i fusnesau pwy yn eu barn nhw sy’n gyfrifol am sicrhau bod busnesau’n addasu i hinsawdd sy’n newid. Dangosodd yr ymatebion fod busnesau’n teimlo mai nhw eu hunain yn y pen draw sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn addasu i effeithiau hinsawdd sy’n newid. Mae busnesau’n cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru ran i’w helpu i addasu, yn enwedig o ran llenwi bylchau mewn gwybodaeth. 

Tybiwyd y gallai profiad o wres mawr yn amharu arnynt yn y gorffennol fod yn sbardun i addasu. Dywedodd busnesau na fu iddynt brofi tymheredd gweithio uwch na tharfu ar seilwaith yn y pum mlynedd ddiwethaf.  Roedd perthynas bosibl rhwng gweld y gallai’r materion hyn fod wedi effeithio ar gynhyrchiant a pharodrwydd busnes i asesu’r risgiau a chynhyrchu cynllun addasu. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth bod y berthynas wedi cael effaith arwyddocaol ar yr ystadegau.

Ymddengys mai uwch reolwyr unigol yn aml sy’n gyfrifol am sbarduno camau addasu mewn busnesau bach a chanolig. Dengys ymatebion i’r arolwg hefyd mai unigolion angerddol yw’r sbardun yn aml i fwrw yn eu blaen ag ymdrechion i addasu i’r newid yn yr hinsawdd. I rai busnesau, ymddengys fod cysylltiad rhwng lliniaru ac addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi annog busnesau i gymryd camau pendant i leihau’r risg iddynt rhag effeithiau newid hinsawdd.

Adroddiadau

Canfyddiadau busnesau o risg o ostyngiad yng nghynhyrchiant cyflogeion yn sgil tymereddau gweithio uwch a tharfu ar seilwaith mewn amgylcheddau gwaith , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Canfyddiadau busnesau o risg o ostyngiad yng nghynhyrchiant cyflogeion yn sgil tymereddau gweithio uwch a tharfu ar seilwaith mewn amgylcheddau gwaith: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 655 KB

PDF
655 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Isabella Malet-Lambert

Rhif ffôn: 0300 062 8250

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.