Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer rhanddeiliaid Cangen Goedwigaeth Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru

Mae’ch preifatrwydd yn bwysig i ni ac yn unol â’r Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data (GDPR) y DU, rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio pam ein bod yn casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn sicrhau ein bod yn prosesu’ch data personol yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn ffordd agored.

Pwy fydd yn cael gweld eich data

Dim ond Cangen Goedwigaeth Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol systemau Llywodraeth Cymru sy’n helpu â’r dechnoleg gwybodaeth fydd yn cael gweld eich gwybodaeth. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio’r wybodaeth mewn unrhyw ffordd. Y cyfan a wnawn ni fydd rhannu’ch enw, cyfeiriad eich e-bost gwaith, manylion eich cyflogwr neu’r corff rydych yn ei gynrychioli neu ffurflenni cais cynllun a dogfennau ategol â chydweithwyr coedwigaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a allai anfon a rhannu gwybodaeth â chi am gyfarfodydd, digwyddiadau ymgysylltu ac ymgyngoriadau. Fe welwch Hysbysiad Preifatrwydd CNC yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Hysbysiad preifatrwydd a Pholisi Diogelu Data (naturalresources.wales)

Pam rydym ni’n casglu ac yn prosesu’r data a gesglir

Caiff y data eu prosesu i helpu Llywodraeth Cymru i wneud ei thasgau cyhoeddus ac ysgwyddo’i hawdurdod swyddogol o dan Adran 60 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi er mwyn:

  • Llunio rhestr o gysylltiadau
  • Anfon a rhannu gwybodaeth am gyfarfodydd, digwyddiadau ymgysylltu ag ymgynghoriadau
  • Trefnu cyfarfodydd a lletygarwch yn briodol
  • Cadw’ch sylwadau a’ch adborth
  • Prosesu cynlluniau a grantiau
  • Rhannu a meithrin gwybodaeth am ddatblygu coedwigaeth

Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu?

  • eich enw
  • cyfeiriad eich e-bost gwaith
  • eich cyflogwr/y corff rydych yn ei gynrychioli
  • rhif eich ffôn symudol/gwaith
  • manylion eich safle coetir

Am faint y byddwn yn cadw’ch manylion

Byddwn yn cadw’ch manylion ar ein systemau yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru am hyd at 10 mlynedd at ddiben parhau i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:

  • weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru’n eu cadw amdanoch chi;
  • gofyn inni gywiro data anghywir;
  • gwrthwynebu prosesu’r data neu gyfyngu ar y prosesu hwnnw (o dan rai amgylchiadau);
  • gofyn i ni ddileu’ch data (o dan rai amgylchiadau);
  • cwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire 
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi’r hawl i’r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu i ni felly fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddwn yn eich holi cyn ymateb i gais o’r fath.

Newid y polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn unrhyw bryd. Caiff y newidiadau eu hysbysebu yma gan ddod i rym ar unwaith. Os caiff y polisi ei newid, byddwn yn cysylltu â chi trwy’r cyfeiriad e-bost rydych wedi’i gofnodi yn eich cyfrif er mwyn ichi gael gweld y fersiwn newydd.

Os hoffech drafod eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data â Llywodraeth Cymru, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales

Croeso ichi e-bostio mewnflwch Polisi Coedigaeth neu fewnflwch Coedwig Genedlaethol i Gymru ar unrhyw fater perthnasol:  

polisicoedwigaeth.forestrypolicy@llyw.cymru 
nationalforestwales@llyw.cymru