Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ffurfweddu cwcis ar gyfer LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cwcis y gallwch eu gosod heb ganiatâd

Gallwch osod cwcis angenrheidiol heb ganiatâd. Gallwch ddod o hyd i gyngor ar gwcis cwbl angenrheidiol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rhaid ichi gael caniatâd ar gyfer pob math arall o gwcis.

Dyluniad y faner cwcis

Mae’r dyluniad yn cynnwys:

  • baner cwcis pan fydd y defnyddiwr yn mynd i’r wefan. Bydd y faner hon yn aros yno hyd nes y bydd y defnyddiwr yn derbyn cwcis neu’n gwneud newidiadau ar y dudalen gosodiadau cwcis
Image
Delwedd o faner cwci yn annog y defnyddiwr i dderbyn neu arbed newidiadau i leoliadau cwci

 

  • neges ar ôl i’r defnyddiwr glicio derbyn, gyda dolen at y gosodiadau cwcis. Bydd y neges hon yn diflannu pan fydd y defnyddiwr yn rhyngweithio â’r wefan neu’n clicio ‘cuddio’
Image
Delwedd o neges yn cysylltu'r defnyddiwr â gosodiadau cwci

 

Gellir gweld enghreifftiau o ddyluniadau baner cwcis ar gyfer cyfrifiadur bwrdd gwaith a dyfais symudol ar LLYW.CYMRU drwy fynd i’r wefan mewn ffenestr breifat. Neu fel arall, gallwch ddileu’r cwcis yn yr offeryn archwilio os ydych eisoes wedi derbyn cwcis.

Defnyddiwch enw’r gwasanaeth, yr offeryn neu’r fircrowefan ar y faner cwcis. Gall hyn helpu defnyddwyr i ddeall bod y cwcis yr ydych chi’n eu gosod yn wahanol i’r rhai a osodir gan brif wefan LLYW.CYMRU.

Tudalen gosodiadau cwcis

Mae’r dudalen gosodiadau cwcis yn galluogi defnyddwyr i droi grwpiau o gwcis ymlaen neu eu diffodd.

Ewch i dudalen gosodiadau cwcis LLYW.CYMRU i weld enghraifft ar gyfer cyfrifiadur bwrdd gwaith a dyfais symudol.

Dylech gynnwys dolen at eich polisi cwcis.

Tudalen polisi cwcis

Dylai’r polisi cwcis fod ar ei dudalen ei hun ac nid o fewn hysbysiad preifatrwydd. Dylai nodi pa cwcis sy’n cael eu gosod a pham.

Dylech gynnwys dolen at eich tudalen gosodiadau cwcis yn nhroedyn eich gwasanaeth.

Dim JavaScript

Mae LLYW.CYMRU yn dal i osod cwcis pan fydd JavaScript wedi’i ddiffodd, felly dangosir baner amgen, a fydd yn parhau ar y sgrin.

Image
 Delwedd o faner cwci amgen a ddefnyddir pan fydd JavaScript wedi'i diffodd

 

Ar y dudalen gosodiadau cwcis, bydd y ffurflen wedi’i dileu a dangosir cynnwys gwahanol yn ei lle, gan gynnwys dolen at y polisi cwcis.

Gellir gweld y rhain ar LLYW.CYMRU drwy ddiffodd JavaScript yng ngosodiadau’ch porwr.