Neidio i'r prif gynnwy

Dylech gofio bod y rheolau sy’n berthnasol i byst gât addurnol yr un fath â’r rheolau sy’n berthnasol i ddulliau amgáu eraill − ffensys, waliau a gatiau.

Bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio os ydych am godi ffens, wal neu gât neu ychwanegu atynt, ac:

  • os yw’r ffens, y wal neu’r gât dros 1 metr o uchder ac wrth ymyl priffordd a ddefnyddir gan gerbydau (neu lwybr troed priffordd o’r fath); neu os yw dros 2 fetr o uchder mewn mannau eraill; neu
  • os caiff eich hawl i godi neu i newid ffensys, waliau a gatiau ei dileu gan gyfarwyddyd Erthygl 4 neu amod cynllunio; neu
  • os yw’ch tŷ yn adeilad rhestredig neu mewn cwrtil adeilad rhestredig; neu
  • os yw’r ffens, y wal neu’r gât, neu unrhyw ffin arall sydd dan sylw, yn creu ffin ag adeilad rhestredig cyfagos neu’i gwrtil.

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.