Neidio i'r prif gynnwy

Mae llawer o goed yn cael eu gwarchod gan orchmynion diogelu coed, sy’n golygu, yn gyffredinol, y bydd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol arnoch i’w tocio neu’u cwympo. Mae llawer o goed eraill mewn ardaloedd cadwraeth yn cael eu rheoli hefyd.

Os nad ydych yn siŵr am statws coed yr ydych yn bwriadu eu tocio neu’u cwympo (neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch), dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol.

Gellir rheoli defnydd a natur gwrychoedd drwy amodau cynllunio a chyfamodau cyfreithiol.

Ni fydd angen caniatâd arnoch fel rheol i blannu perth yn eich gardd, ac nid oes deddfau sy’n nodi pa mor uchel y gallwch adael i’ch perth dyfu.

Fodd bynnag, chi fydd yn gyfrifol am ofalu am unrhyw berth sydd ar eich eiddo a sicrhau nad yw’n niwsans i neb arall.

Os bydd perth yn effeithio’n andwyol ar berchnogion/deiliaid eiddo domestig cyfagos, gallent ddwyn achos yn eich erbyn drwy’r system gwyno am wrychoedd neu berthi uchel, a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Mae’r system gwyno yn nodi’r math o berth dan sylw, a’r effeithiau andwyol y mae’r system yn ymdrin â nhw. Os ydych yn pryderu am yr effaith y mae perth yn ei chael ar eich eiddo, dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i weld a yw’r system gwyno am wrychoedd neu berthi uchel yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

Darllenwch fwy am goed a gwrychoedd neu berthi uchel ar wefan Gov.uk (Saesney yn unig).